Skip page header and navigation

Aeron e.e. llus, mafon

Rhewi? Yes
Tymor Awst-Hydref
Storio Yn yr oergell
Ffynhonnell ardderchog o fitamin C
Pentwr bach o fafon, llus a mwyar duon

Mae amrywiaeth eang o aeron suddlon ar gael yn ein siopau, e.e. mwyar duon, llus, grawnwin, mafon, cyrens cochion, mefus, a digonedd i’w casglu o’r llwyni – gan gofio gadael rhai i’r bywyd gwyllt. Caiff llawer o’r rhain eu tyfu yn y Deyrnas Unedig a gellir eu defnyddio i wneud pob math o wahanol rysetiau blasus. Cofiwch y gallwch eu prynu wedi’u rhewi drwy gydol y flwyddyn.

Sut i'w storio

Sut i storio aeron ffres

Storiwch aeron yn eu pecynnau gwreiddiol yn yr oergell.

Rhewi aeron

Gellir rhewi aeron mewn bag neu gynhwysydd wedi’i selio am hyd at 3 mis.

Storio aeron wedi’u coginio

Storio mewn cynhwysydd aerglos yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod.

Aeron e.e. llus, mafon – tips gwych

Sut i'w rewi a dadrewi

I’w rhewi: Gallwch rewi aeron ffres ar glawr pobi neu hambwrdd bach yn gyntaf (fel na fyddan nhw’n mynd yn un lwmp) ac yna eu storio mewn cynhwysydd aerglos yn y rhewgell.

I’w dadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd neu ddiod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’u dadrewi ar dymheredd ystafell. Yn ddelfrydol, dylech eu dadrewi’n gyfan gwbl yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr. Neu, gallwch ddefnyddio’r microdon ar y modd dadrewi. 

 

Bod yn wych gyda bwyd dros ben

Aeron ffres

Mae aeron meddal sydd dros ben yn wych mewn smwddi – gallwch eu blendio gydag iogwrt, llaeth neu sudd ffrwythau.

 

Aeron wedi’u rhewi

Mae aeron wedi’u rhewi yn dda i’w defnyddio mewn diodydd i oedolion ac maen nhw’n ddigon o sioe fel topin ar bwdin hafaidd. Peidiwch â rhoi aeron wedi’u rhewi i blant: mae perygl o dagu arnynt.

 

Tips ar gyfer ei brynu

Ystyriwch gyfnewid aeron ffres am ffrwythau wedi rhewi neu becynnau cymysgedd smwddis (os bydd eich ffrwythau’n aml yn cael eu defnyddio mewn smwddi yn y pen draw). Mae bwydydd wedi’u rhewi’n para am amser hir yn y rhewgell, gallwch ddefnyddio cymaint ag y mae ei angen arnoch, ac yn aml gallant fod yn opsiwn rhatach. Gallwch brynu llenwad a thopin ar gyfer pastai fwyar mewn tuniau hefyd.

Dognau delfrydol 

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.

Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Aeron e.e. llus, mafon

Daioni mewn bwyd

Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.

  • Maen nhw’n llawn fitamin C sy’n helpu i warchod ein celloedd a’u cadw’n iach.
  • Maen nhw’n cynnwys llawer o ffibr sy’n helpu gyda threuliad.
  • Maen nhw’n cyfrannu at eich 5 y dydd.

     

Stori bwyd

Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.  

Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!  

Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Aeron e.e. llus, mafon

Oeri’r cacennau yn yr oergell yn hytrach na’u pobi yn y ffwrn yw'r allwedd i'r deisen ffrwythau, cnau syml ond ysblennydd hon sy'n plesio bron pawb ac sy'n wych ar gyfer eich gweini i’ch gwesteion.

Dogn o deisen fisged siocled gyda chnau Ffrengig a llus wedi’u gwasgaru arni

Manteisiwch i’r eithaf ar fwyd dros ben o bryd o fwyd Nadolig trwy gyfuno twrci wedi'i goginio, saws llugaeron a stwffin yn y bastai Nadoligaidd hon.

Pedair pastai wedi’u gorchuddio â thoes euraidd ar blât gweini

Gwnewch i'r tymor mefus bara trwy'r flwyddyn gyda'r jam hawdd hwn. Dyma ffordd dda o ddefnyddio mefus sydd heb aeddfedu digon neu fefus sur – dylech eu rhewi tan fod gennych chi ddigon i wneud swp o jam.

An spoon in an open jar of strawberry jam surrounded by fresh strawberries