Skip page header and navigation

Sudd ffrwythau

Rhewi? Yes
Tymor Amherthnasol
Storio Yn yr oergell
Ffynhonnell ardderchog o fitamin C
Gwydraid o sudd oren wrth ymyl oren wedi’i thorri yn ei hanner

Mae sudd ffrwythau ar gael yn helaeth mewn amrywiaeth eang o flasau gwahanol a gellir ei wneud o ffrwythau newydd eu gwasgu neu o sudd crynodedig. Gall rhai gynnwys llawer o siwgr felly gwiriwch y labeli am fwy o wybodaeth.

Sut i'w storio

Sut i storio sudd ffrwythau

Storiwch sudd ffrwythau wedi’i agor yn yr oergell neu’n unol â’r cyfarwyddiadau ar y pecyn.

Rhewi sudd ffrwythau

Gallwch rewi sudd ffrwythau am hyd at 3 mis.

Sudd ffrwythau – tips gwych

Sut i'w rewi a dadrewi

I’w rewi: Gallwch wneud eich lolipops eich hunain o smwddis, sudd afal a sudd oren dros ben.

Bod yn wych gyda bwyd dros ben

Gallwch roi unrhyw ffrwythau sydd wedi crebachu neu feddalu ac afalau sydd heibio eu gorau mewn sudd ffrwythau dros ben, fel sylfaen ar gyfer crymbl neu i’w weini gyda hufen iâ.

Tips ar gyfer ei brynu

Prynwch becyn o’r maint iawn ar gyfer eich anghenion. Ystyriwch faint o amser sydd gennych i ddefnyddio’r ddiod unwaith bydd y botel/carton wedi’i agor, ac a fyddwch yn ei ddefnyddio mewn da bryd. Ystyriwch gyfnewid sudd oer wedi’i wasgu’n ffres am opsiynau hir oes. 

Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Sudd ffrwythau

Daioni mewn bwyd

Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.

  • Gall sudd ffrwythau fod yn ffynhonnell dda o fitamin C, sy’n helpu i amddiffyn celloedd a’u cadw’n iach.
  • Mae llawer o sudd ffrwythau’n cynnwys llawer o ddŵr, sy’n dda ar gyfer hydradu.
  • Mae rhai mathau o sudd ffrwythau’n gallu cynnwys llawer o siwgr felly gwiriwch y labeli am fanylion pellach.

     

Stori bwyd

Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.  

Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!  

Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Sudd ffrwythau

Gormod o fins peis? Bydd y brownis blasus hyn yn rhoi bywyd arall iddynt.

Ciwbiau o frownis siocled meddal

Os yw eich bagiau te yn agosáu at y dyddiad y dylid eu defnyddio erbyn a'ch bod yn pendroni beth i'w wneud, beth am eu hychwanegu at gacen Nadolig funud olaf! Mae'r rysáit hon hefyd yn defnyddio ffrwythau sych a chnau sydd gennych yng nghefn y cwpwrdd.

Teisen Nadolig gydag eisin ac addurniadau gyda sleisen ar goll, wedi’i hamgylchynu gan addurniadau

Mae saladau grawn yn eich llenwi ac yn faethlon, ac yn gweithio'n dda iawn gyda ffrwythau ffres, sy'n ychwanegu lliw, gwead a blas.

Powlen fawr o gwinoa wedi’i gyfuno â thafelli o afal suddlon