Mae saladau grawn yn eich llenwi ac yn faethlon, ac yn gweithio'n dda iawn gyda ffrwythau ffres, sy'n ychwanegu lliw, gwead a blas.

Ffrwyth poblogaidd, ac mae llawer o wahanol fathau ar gael, yn cynnwys gwyrdd, coch a du. Caiff grawnwin eu defnyddio mewn prydau melys a sawrus ill dau, ac maen nhw’n llawn daioni, yn cynnwys ffibr a photasiwm.
Bydd eich grawnwin yn para’n hirach os cânt eu cadw yn eu pecyn gwreiddiol yn yr oergell.
Gellir rhewi grawnwin mewn bag neu gynhwysydd wedi’i selio am hyd at 3 mis.
I’w rhewi: Golchwch nhw a’u rhewi fesul un i’w defnyddio fel ciwbiau rhew blasus neu i’w blendio mewn smwddis.
Sylwer: ni ddylid rhoi grawnwin wedi rhewi i blant, oherwydd y perygl o dagu.
I’w ddadrewi: Does dim angen eu dadrewi – defnyddiwch nhw’n syth o’r rhewgell.
Defnyddiwch rawnwin dros ben, neu sydd wedi crebachu neu fynd yn feddal, mewn smwddis. Mae grawnwin wedi’u rhostio (ychwanegwch ychydig o gwmin) yn flasus mewn salad!
Ystyriwch brynu grawnwin rhydd, i’ch helpu i brynu dim ond yr hyn a ddefnyddiwch. Bydd hyn yn sicrhau bod mwy o’ch bwyd yn debygol o gael ei fwyta a’i achub rhag mynd i’r bin.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.
Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.
Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.
Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!
Mae saladau grawn yn eich llenwi ac yn faethlon, ac yn gweithio'n dda iawn gyda ffrwythau ffres, sy'n ychwanegu lliw, gwead a blas.
Gwnewch argraff ar eich ffrindiau gyda'r pwdin gwych sy’n haws nag y mae'n edrych i’w wneud gan y cogydd gorau Tom Kitchin.