Roedd Michael a Savanah yn enillwyr ein cystadleuaeth ysgolion ar thema Calan Gaeaf, 'Peidiwch â Bod ag Ofn Eich Sbarion' mewn partneriaeth â Scottish Business in the Community a Good Family Food.

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauAr gyfer y tapenâd; rhowch yr holl gynhwysion tapenâd (olewydd, garlleg, croen lemwn, olew olewydd, ansiofi a chaprys opsiynol) mewn prosesydd bwyd bach a’i gymysgu tan ei fod bron yn llyfn a’u rhoi mewn dysgl fach.
Ar gyfer y tost; brwsiwch bob ochr i’r bara ag olew olewydd a’i grilio neu ei dostio tan ei fod yn frown euraidd ac yna eu torri’n sgwariau bach neu betryalau, neu torrwch yn gylchoedd bach gan ddefnyddio torrwr crwn.
Taenwch y tapenâd dros bob darn o fara a rhoi’r tomato wedi’i dorri’n fân neu olewydd wedi’i haneru ar ben y bara, ac yna ychwanegu blas gyda phupur du.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauWyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.