Mae cogydd, tiwtor coginio a pherchennog busnes bwyd Pop yng Nghaeredin, Steve Brown, yn rhannu ei rysáit risoto ar thema Calan Gaeaf.

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauCynheswch yr olew mewn padell ffrio a choginio’r winwnsyn sydd wedi’i dorri’n fân tan ei fod yn feddal.
Tynnwch y sosban oddi ar y gwres a throsglwyddo’r winwns i mewn i ddysgl fawr.
Ychwanegwch y tatws stwnsh, y llysiau wedi’u coginio a’r caws i’r ddysgl ac ychwanegu blas cyn ei gymysgu’n dda a rhannu’r gymysgedd yn chwe rhan.
Defnyddiwch eich dwylo i siapio bob rhan yn gacen gron a rhoi ychydig o flawd ar blât a gorchuddio bob cacen mewn blawd ar y ddwy ochr.
Rhowch y gymysgedd ar silff pobi wedi’i iro a brwsio ychydig o fenyn wedi toddi a’i bobi mewn ffwrn wedi’i gynhesu ymlaen llaw (200°C/400°F/ marc 6) am 25 munud neu fel arall ei ffrio ar y ddwy ochr tan eu bod yn frown euraidd.
Cofiwch rewi unrhyw rannau nad ydych chi’n eu bwyta y tro hwn yn lle eu taflu yn y bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd syml ar ddiwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur.
Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauWyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.