Skip page header and navigation

Pwdin Bara menyn a siocled

Pwdin Bara menyn a siocled

Trît melys cynnes a ffordd wych o ddefnyddio bara gwyn wedi'i sleisio sydd ychydig yn hen.

Os oes gennych chi fyns y groes dros ben, defnyddiwch y rhain yn lle'r bara gwyn, gan leihau faint o sinamon rydych chi'n ei ychwanegu at y gymysgedd.
Gan Schwartz
Yn gweini 6
Amser Paratoi/Coginio: 1 awr +
Pwdin bara menyn wedi’i bobi gyda llenwad siocled trwchus

Cynhwysion

200g o siocled llaeth o ansawdd da
75g o fenyn
250g (neu tua 10 tafell) o fara gwyn
Defnyddiwch y crystiau – maen nhw cystal â gweddill y bara.
3 wy
1 llwy de o sinamon mâl
25g o siwgr mân
1 coden fanila
600ml o laeth
Powdr coco a siwgr eisin i’w roi’n ysgafn dros ben y pwdin

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 180°C, 350°F, Marc Nwy 4.

  2. Iro ochrau dysgl sy’n addas ar gyfer y ffwrn sy’n mesur tua. 30cm x 20cm (12” X 8”) yn ysgafn. Torrwch y siocled a’i roi gyda 25g o’r menyn, mewn dysgl gwrth-wres wedi’i gosod dros sosban o ddŵr sy’n mudferwi’n ysgafn. Gadewch tan ei fod wedi toddi ac yna ei droi’n ysgafn.

  3. Torrwch y tafelli o fara yn 4 triongl, gan gadw’r crystiau ac yna trefnu tua hanner y tafelli, gan orgyffwrdd, yn y ddysgl a’u taenu gyda’r saws siocled wedi’i doddi. Trefnwch weddill y bara, gan orgyffwrdd, i ffurfio ail haen.

  4. Toddwch weddill y menyn mewn sosban a’i dynnu oddi ar y gwres. Curwch yr wyau gyda’r sinamon, y siwgr a’r hadau o’r goden fanila ac yna ychwanegu’r menyn a’r llaeth a’i gymysgu’n drylwyr. Defnyddiwch lwy i daenu’r cymysgedd dros y bara fel bod y bara i gyd yn soeglyd, a’i adael i sefyll am 1 awr.

  5. Pobwch y pwdin yn y popty am 45-50 munud nes bydd y cwstard wedi setio a’r bara’n frown euraidd.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos neu ddysgl wedi'i gorchuddio
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Dylid ei ail-gynhesu mewn ffwrn neu ficrodon nes ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.