Skip page header and navigation

Pwdin bara menyn

Pwdin bara menyn

Mae'r rysáit hwn yn wych ar gyfer pan fyddwch chi'n dod o hyd i'r hen dafelli o fara sydd ar ôl ar ddiwedd y dorth.

Mae'r pryd amlbwrpas hwn yn hawdd ei addasu i osgoi alergedd a bod yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o ddietau. Bydd ychwanegu rhywfaint o sinamon, nytmeg, sinsir neu fanila at y rysáit yn creu blas cynnes.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 2
Amser Paratoi/Coginio: 1 awr +
Ramecinau bach o bwdin bara menyn meddal gyda mwyar ar ei ben

Cynhwysion

4 tafell o hen fara dros ben – mae'n bwysig defnyddio hen fara gan y byddai bara ffres yn creu pwdin sy’n fwy soeglyd
Os nad oes gennych unrhyw fara dros ben, mae hen croissants yn ddewis arall gwych.
3 wy
1 banana aeddfed
Defnyddiwch y bananas hynny sydd wedi'u cleisio neu sy’n fwy aeddfed nag yr hoffech eu cael fel byrbryd.
284ml o hufen dwbl
60g o siwgr brown tywyll
50g o syltanas
Fel amrywiad, defnyddiwch gymysgedd o fricyll sych wedi'u sleisio a syltana os oes gennych chi'r ddau.
1 llwy fwrdd o daeniad cnau cyll siocled

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch eich ffwrn ymlaen llaw i 160°C.

  2. Curwch yr hufen, y siwgr a’r wyau gyda’i gilydd mewn dysgl fawr.

  3. Taenwch y taeniad siocled ar un ochr i’r bara a’i dorri’n drionglau, yna ei ddipio i’r cymysgedd o wyau.

  4. Gosodwch y bara mewn tun torth wedi’i leinio gyda thafelli o fanana a syltanas, gan adael yr haen uchaf heb fanana a syltanas ac yna gosod yr haenen o fara ochr gyda thaeniad o siocled ar ei lawr i osgoi llosgi’r taeniad wrth bobi.

  5. Ychwanegwch weddill y cymysgedd o wyau i ben y tun a’i adael i orffwys am 20 munud (neu fwy os yw’n bosibl).

  6. Rhowch y cymysgedd yn y ffwrn a’i goginio am tuag awr – tan ei fod yn euraidd. Gweinwch gyda chwstard poeth, hufen neu saws caramel.

  7. Gellir gwneud y pryd hwn ymlaen llaw ac yna ei rewi; os ydych chi’n ei goginio wedi’i rewi, coginiwch am 5-10 munud arall.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos neu ddysgl wedi'i gorchuddio
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Rhowch y pryd yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.