Mae cogydd, tiwtor coginio a pherchennog busnes bwyd Pop yng Nghaeredin, Steve Brown, yn rhannu ei rysáit risoto ar thema Calan Gaeaf.

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauDefnyddiwch brosesydd bwyd neu rywbeth tebyg i flendio’r 2 dafell bob pen.
Mewn padell ffrio cynheswch yr olew ar wres isel i ganolig a defnyddio gwasgwr garlleg neu gratiwr mân i ychwanegu’r garlleg i’r badell a’i ffrio heb frownio’r garlleg.
Ychwanegwch y briwsion bara a’u gorchuddio â’r olew garlleg, eu coginio tan eu bod yn euraidd.
Trowch yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn coginio’n wastad ac atal y briwsion rhag llosgi.
Tynnwch y dail rhosmari oddi ar y coesyn yn fras, yna ei ychwanegu at y badell a’i gymysgu. Gellir cadw’r coesynnau i’w hychwanegu at gawl.
Gratiwch groen y lemon (yn ddelfrydol, un heb ei gwyro, ond os yw wedi’i gwyro, golchwch y lemon mewn llif o ddŵr cynnes gyda sbwng bras). Gellir cadw’r lemon i’w ddefnyddio eto, wrth gwrs.
Ychwanegwch flas gyda halen.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauWyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.