Yn berffaith fel cwrs cyntaf ysgafn cyn cinio Nadolig moethus, mae eog wedi’i gochi ar gael yn hawdd mewn pecynnau bach sy'n golygu y gallwch chi sicrhau nad ydych chi'n prynu mwy nag sydd ei angen arnoch chi.

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauGan ddefnyddio cyllell finiog torrwch boced ddofn yn eich cyw iâr heb dorri trwodd i ochr arall y cig.
Torrwch y garlleg a’i gymysgu mewn dysgl gyda’r menyn wedi’i feddalu a’r dil.
Rhowch y gymysgedd menyn yn y boced yng nghanol y cyw iâr a’i wasgu’n fflat a’i selio â’ch dwylo.
Ychwanegwch halen a phupur ac ailadrodd y camau ar gyfer y ffiled arall.
Curwch yr wyau a dipio bob ffiled yn y gymysgedd.
Gorchuddiwch y 2 ffiled mewn blawd ac yn olaf yn y briwsion bara tan eu bod wedi’u gorchuddio’n llawn.
Cynheswch yr olew blodau’r haul mewn padell ffrio ac yna rhoi’r cyw iâr i mewn i frownio.
Ar ôl i’r cyw iâr gael ei ffrio ar bob ochr rhowch ef ar glawr pobi.
Coginiwch yn y ffwrn ar 180°C am 20 munud i goginio’r cig drwyddo.
Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych chi’n eu bwyta y tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur.
Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauWyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.