Skip page header and navigation

Creision llysiau Mecsicanaidd

Creision llysiau Mecsicanaidd

Mae'r fersiwn iachach hon o nachos yn ffordd wych o ddefnyddio gwreiddlysiau gyda dipiau Mecsicanaidd a gellir ei weini fel byrbryd neu bryd cyntaf i rannu wrth ddiddanu.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 30-45 munud
Powlen liwgar o lysiau crimp wedi’u sychu

Cynhwysion

200g o fetys ffres
1 moronen fawr
Does dim angen plicio, dim ond golchi’n dda!
1 taten felys fawr
Arbedwch y crwyn wedi'u plicio a'u defnyddio i wneud stoc ar gyfer cawl neu stiwiau a’i rewi tan y byddwch ei angen.
2 lwy fwrdd o olew llysiau
Pupur du i ychwanegu blas
Pecyn cymysg 240g o salsa, gwacamole a hufen sur

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch y ffwrn i 220°C/200°C Ffan/Nwy 7.

  2. Torrwch ben a gwaelod y betys a’r foronen i ffwrdd ac yna glanhau’r crwyn trwy eu sgwrio mewn dŵr a phlicio’r tatws melys.



    Tip: Gwisgwch fenig rwber wrth baratoi’r betys i atal y lliw rhag staenio’ch dwylo. Gallech hefyd ddefnyddio unrhyw ddipiau sydd gennych dros ben neu geisio gwneud eich salsa eich hun o domatos soeglyd, winwnsyn wedi’i dorri a rhywfaint o bowdr tsili neu tsilis ffres wedi’u torri. Gallwch hefyd ddefnyddio’r rysáit i wneud creision cartref.

  3. Sleisiwch y llysiau’n denau iawn; pliciwr sy’n troi neu fandolin sydd orau ar gyfer hyn ond fe allech chi hefyd ddefnyddio cyllell os ydych chi’n ofalus, yna eu gwasgu’n ofalus rhwng papur cegin i amsugno unrhyw leithder gormodol.

  4. Rhowch bapur pobi ar dri chlawr pobi a brwsio’r papur gydag olew. Gosodwch y llysiau ar bob clawr pobi mewn un haen, gan gadw’r betys ar glawr ar wahân i’w atal rhag staenio’r llysiau eraill. Brwsiwch y llysiau gyda gweddill yr olew, ac ychwanegu blas gyda phupur du yna eu rhostio am 25 munud, gan eu troi hanner ffordd drwodd ac yna eu trosglwyddo i glawr â phapur cegin a’u gadael i oeri’n llwyr.

  5. I’w gosod, trefnwch y creision llysiau ar blât a’u gweini gyda dysglau o salsa, gwacamole a hufen sur.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Oergell Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.