Bresych picl gyda hadau carwe
Bresych picl gyda hadau carwe
![Hands pushing sauerkraut mix from a bowl into a large Kilner jar](https://www.lovefoodhatewaste.com/sites/default/files/styles/16_9_two_column/public/2022-05/sauerkraut-with-caraway-2055659522.jpg.webp?itok=DVJQy6Cm)
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Pliciwch y bresych ac arbed deilen allanol sy’n fwy na cheg eich jar.
Sleisiwch y bresych yn fân â llaw neu mewn prosesydd bwyd.
Rhowch y bresych mewn dysgl ac ychwanegu’r carwe a’r halen a’i adael i sefyll am 30 munud.
Tylino’r bresych, ei wasgu neu ei falu tan ei fod yn rhyddhau llawer o hylif.
Trosglwyddwch y cymysgedd i’r jar gan wasgu’n gadarn tan fod yr holl fresych o dan yr hylif.
Torrwch y ddeilen sydd wedi’i chadw i ychydig yn fwy na cheg eich jar a’i gosod o amgylch yr ymylon.
Gadewch i eplesu am rhwng 15 diwrnod ac 1 flwyddyn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn agor y jar bob dydd i adael i’r nwy ddianc. Fel arfer byddaf yn eplesu am tua 4 wythnos.
Blaswch yn rheolaidd a phan fyddwch chi’n hapus â’r blas a’r ansawdd, rhowch ef yn yr oergell.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
![Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi](https://www.lovefoodhatewaste.com/sites/default/files/styles/16_9_two_column/public/2022-07/Fridge%20tool%20no%20text-1.png.webp?itok=AEybYFIx)
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.