Skip page header and navigation
Yn aml, gall gwybod beth yw’r peth gorau i’w wneud er mwyn manteisio i’r eithaf ar eich bwyd fod yn destun dryswch. Dyma rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin sy’n cael eu gofyn i ni, i’ch helpu i dorri drwy’r dryswch.

Alla i rewi reis?

Gallwch! Os caiff ei oeri’n gyflym. Rhowch eich cynhwysydd o reis mewn dŵr oer, a’i rewi pan fydd wedi oeri. O fewn awr, yn ddelfrydol. Rhowch ef mewn cynhwysydd aerglos a’i labelu gan nodi’r cynnwys, maint y dogn a’r dyddiad. Gallwch storio reis yn y rhewgell am 3 mis neu yn yr oergell am 24 awr.



Y ffordd orau o ddadrewi reis yw yn yr oergell. Ar ôl iddo ddadrewi, defnyddiwch ef o fewn 24 awr. Neu gallwch ei ddadrewi yn y microdon ar y modd ‘dadrewi’ yn syth cyn ei ddefnyddio.



Gallwch ei aildwymo yn y microdon nes bydd yn chwilboeth.



Dim ond unwaith y dylid

Gallwch! Os caiff ei oeri’n gyflym. Rhowch eich cynhwysydd o reis mewn dŵr oer, a’i rewi pan fydd wedi oeri. O fewn awr, yn ddelfrydol. Rhowch ef mewn cynhwysydd aerglos a’i labelu gan nodi’r cynnwys, maint y dogn a’r dyddiad. Gallwch storio reis yn y rhewgell am 3 mis neu yn yr oergell am 24 awr.

Y ffordd orau o ddadrewi reis yw yn yr oergell. Ar ôl iddo ddadrewi, defnyddiwch ef o fewn 24 awr. Neu gallwch ei ddadrewi yn y microdon ar y modd ‘dadrewi’ yn syth cyn ei ddefnyddio.

Gallwch ei aildwymo yn y microdon nes bydd yn chwilboeth.

Dim ond unwaith y dylid aildwymo reis. Dydyn ni ddim yn argymell aildwymo reis o bryd tecawê gan ei bod yn bosibl ei fod wedi cael ei goginio ymlaen llaw a’i aildwymo cyn iddo gael ei weini i chi.

Tip defnyddiol yw coginio’r dogn cywir o reis yn y lle cyntaf! Mae un llond mwg o reis amrwd yn ddigon i bedwar oedolyn. Neu tua 75g fesul person.

 

Pa fwydydd alla i eu rhewi? 

Fe fyddech chi’n synnu cymaint o fwydydd y gallwch eu rhewi! Cig, pysgod, bara, caws, llaeth, hufen, wyau, teisennau, cnau, codlysiau, reis, pasta, perlysiau, ffrwythau, llysiau… mae’r rhestr yn un faith! 



A dyma rai o’n hoff haciau rhewi:

  • Blendiwch grystiau bara neu sleisys o hen fara yn friwsion. Rhowch nhw mewn cynhwysydd, eu labelu a’u rhewi i’w defnyddio rywdro eto. Gallwch eu defnyddio fel topin ar grymbl sawrus neu basta pob, eu hychwanegu at stwffin, neu i dewychu sawsiau.
  • Gallwch rewi perlysiau wedi’u torri’n fân mewn cynhwysydd ciwbiau rhew, gyda dŵr ar eu pennau. Ar ôl eu rhewi, gallwch dynnu’r ciwbiau o’r cynhwysydd a’u rhoi mewn bag y gellir ei ailddefnyddio i’w storio’n gyfleus. Gallwch eu hychwanegu’n syth o’r rhewgell i wneud caserolau, cawl a sawsiau.
  • Gellir storio caws wedi’i gratio neu flociau o gaws yn y rhewgell am hyd at 6 mis. Dylid ei ddadrewi yn yr oergell. Perffaith ar gyfer gwneud caws ar dost, ei ychwanegu at omled, neu fel topin ar pizza neu basta pob.
  • Gellir rhewi bwydydd mewn pecynnau hyd at eu dyddiad Defnyddio Erbyn.

     

Mae’r rhewgell yn ffrind ffyddlon ichi yn eich ymdrechion i wneud i’ch bwyd gadw’n hirach. Cofiwch labelu popeth yn glir gyda’r cynnwys, maint y dogn a’r dyddiad cyn ei rewi.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng dyddiadau Defnyddio Erbyn (Use By) ac Ar ei Orau Cyn?

Mae’r dyddiad Defnyddio Erbyn (Use By) yn berthnasol i ddiogelwch. Dyma’r dyddiad pwysicaf i’w gofio. Gellir bwyta bwyd hyd at ac ar y dyddiad Defnyddio Erbyn, ond nid wedi hynny.

Mae Ar ei Orau Cyn (Best Before) yn berthnasol i ansawdd. Bydd bwyd yn ddiogel i’w fwyta ar ôl y dyddiad hwn, ond efallai na fydd ar ei orau. Defnyddiwch eich doethineb i benderfynu.

Gallwch ddarllen mwy am wneud synnwyr o’r labeli dyddiadau yma.

Sut mae rhewi wyau?

  • Craciwch nhw a’u rhoi mewn cynhwysydd a’u chwipio
  • Ystyriwch eu rhannu’n ddognau os bydd gennych fwy na dau wy i’w rhewi
  • Seliwch y cynhwysydd a’i labelu gyda’r cynnwys, y nifer o wyau a’r dyddiad
  • Rhowch ef yn y rhewgell! 

     

Gallwch hefyd rewi’r gwynnwy a’r melynwy ar wahân os dymunwch. Tip defnyddiol yw blendio’r melynwy ac ychwanegu ychydig o siwgr neu halen (i’w hatal rhag mynd yn ludiog) cyn eu rhewi.

Beth yw’r dull gorau o rewi a dadrewi cig?

Gellir rhewi cig amrwd a chig wedi’i goginio. Dyma tips defnyddiol:

  • Gellir rhewi cig amrwd hyd at y dyddiad Defnyddio Erbyn ond nid wedi hynny.
  • Gallwch rewi cig yn ei becyn gwreiddiol (heb ei agor), ond gall fod yn ddefnyddiol agor y pecyn a gwahanu’r cig er mwyn ichi allu dadrewi dim ond yr hyn y mae ei angen arnoch. Gwnewch yn siŵr eich bod yn labelu pob dogn, gan nodi’r dyddiad, cyn eu rhewi.
  • I rewi cig wedi’i goginio, lapiwch ef yn dda a’i rewi mewn cynhwysydd aerglos. Cofiwch roi label a dyddiad ar y cynhwysydd cyn ei rewi.
  • Gall fod yn ddefnyddiol torri cig wedi’i goginio cyn ei rewi i’w wneud yn gynt i’w ddadrewi ac yn haws ei goginio.
  • Gellir storio cig yn y rhewgell am hyd at 6 mis.

     

Peidiwch â dadrewi cig ar dymheredd ystafell. Dylid ei ddadrewi’n llwyr yn yr oergell a’i ddefnyddio o fewn 24 awr Neu gallwch ei ddadrewi yn y microdon ar y modd ‘dadrewi’ yn syth cyn ei ddefnyddio.

Dim ond unwaith y dylid aildwymo cig a gafodd ei goginio a’i rewi o’r blaen. 

Mae’r cyngor uchod yn berthnasol ar gyfer pob math o gig a dofednod a rhai mathau o bysgod. Ond dylech wirio’r pecyn yn gyntaf gan ei bod yn bosibl fod cig neu bysgod wedi cael eu rhewi o’r blaen. 

Sut ydw i’n gwybod bod fy ffrwythau a llysiau’n dal i fod yn iawn i’w bwyta?

Pupurau crychlyd? Popeth yn iawn.

Darnau gwyrdd ac egin ar datws? Tynnwch y darnau hynny a defnyddio’r gweddill.

Moron sy’n plygu?! Ydyn, maen nhw’n iawn i’w bwyta.

Os oes gennych chi ffrwythau a llysiau sydd wedi mynd braidd yn feddal neu grebachlyd, maen nhw’n iawn i’w bwyta o hyd. Cyn belled nag oes arwyddion gweladwy o lwydo neu bydru arnyn nhw.

Mae ffrwythau goraeddfed fel bananas brown ac aeron meddal yn berffaith ar gyfer coginio neu i wneud smwddi blasus. A gellir defnyddio llysiau mewn sawsiau a chawl. Ewch i bori ein hadran rysetiau am fwy o syniadau ac ysbrydoliaeth!

Heblaw am binafalau cyfan, bananas a winwns; y lle gorau i gadw ffrwythau a llysiau yw yn yr oergell. Bydd hyn eu cadw’n ffres yn hirach. Dylid gosod yr oergell ar dymheredd is na 5°C. Defnyddiwch ein hadnodd Teclyn tymheredd oergell i wirio gosodiadau eich oergell.

A chofiwch fod ffordd o rewi bron pob math o ffrwythau a llysiau.


Rhannu’r post blog hwn