Skip page header and navigation

Beth sy’n dda i’w fwyta ym mis Gorffennaf?

Gyda’r haf yn ei anterth, mae llwythi o ffrwythau meddal blasus i’w cynnwys yn ein cynlluniau bwyd y mis yma. Nid yn unig hynny, ond gyda llawer o gnydau’n aeddfedu ym mis Gorffennaf, mae digonedd o lysiau blasus i’w mwynhau hefyd! Nid yn unig y mae cynnyrch ffres, lleol yn blasu’n well, mae hefyd yn llawer gwell i’r blaned na ffrwythau a llysiau a gaiff eu cludo i ni o bedwar ban byd. Manteisiwch ar y cynhwysion ffres sydd gan eich ardal leol i’w cynnig gyda’n syniadau ar gyfer eich cynlluniau prydau bwyd ym mis Gorffennaf.

Ffrwythau a llysiau i’w mwynhau ym mis Gorffennaf

Mae’r canllaw defnyddiol hwn gan y Vegetarian Society yn dweud wrthym mai’r ffrwythau a llysiau sydd ar eu gorau ym mis Gorffennaf yw:

Planhigyn wy, Betys, Mwyar Duon, Cyrens Duon, Llus, Ffa Llydain, Brocoli, Moron, Blodfresych, Ceirios, Sicori, Tsilis, Courgettes, Ciwcymbr, Eirin Mair, Eirin Gwyrdd, Ffenigl, Ffa Ffrengig, Garlleg, Colrabi, Mwyar Logan, Tatws Newydd, Winwns, Pys, Tatws, Radis, Mafon, Cyrens Cochion, Riwbob, Berwr, Ffa Dringo, Cyrn Carw’r Môr, Suran, Bresych Deiliog, Shibwns, Mefus, Pwmpen yr Haf, Bresych Hisbi, Betys Arian, Tomatos, Maip, Berwr y Dŵr

Manteisiwch i’r eithaf ar y wledd flasus hon o ffrwythau a llysiau gyda’r syniadau’r ydym yn eu rhannu isod, oll wedi’u seilio ar rai o’n hoff gynhwysion ar y rhestr hon. Cofiwch, gallwch ddod o hyd i fwy fyth o syniadau yn ein canllawiau ar gyfer misoedd blaenorol: 

Mwyar Duon

Mae mynd i hela mwyar yn un o bleserau mwyaf yr haf, felly dyma nhw ar ben ein rhestr o gynhwysion ffres i’w defnyddio’r mis yma. Unwaith y byddwch wedi cael hwyl yn hela mwyar, a’ch dwylo’n borffor gan eu sudd (neu ar ôl ichi brynu rhai lleol o’r siop fferm leol), gallwch eu troi’n jam ffrwythau cyflym, gwneud crymbl afal a mwyar neu eu cymysgu gyda’ch hoff fwyar eraill i’w defnyddio mewn smwddis a phwdinau hafaidd, fel paflofa, neu ein consommé ffrwythau cochion.

Llus

Mae llus, un o’r bwydydd daionus mwyaf blasus sydd ar gael, ar eu gorau ym mis Gorffennaf. Maen nhw’n wych ar gyfer eu hychwanegu at uwd neu ar grempog, eu mwynhau gyda granola ac iogwrt, neu eu pobi mewn myffins llus blasus. Os yw hi’n rhy boeth i bobi, yr ateb arall yw gwneud teisen oergell fel ein sleisys cacennau bisgedi siocled, cnau Ffrengig a llus. Fel mwyar duon, mae llus yn wych i’w hychwanegu at bwdinau hafaidd fel paflofa, melys gybolfa, a’n consommé ffrwythau cochion.

Ffa Ffrengig

Mae sawl math o ffa i’w mwynhau’r mis yma, ond ein hoff fath yw ffa Ffrengig, sy’n debyg iawn i ffa gwyrdd (mae ffa dringo, sydd hefyd yn aeddfed y mis yma, yn hirach, ac yn hanfodion nifer o erddi llysiau a rhandiroedd yma yn y DU). Mae’r rhain yn wych i’w mwynhau wedi’u stemio neu eu berwi i gyd-fynd â physgod neu gig, ynghyd â’u hychwanegu at seigiau pasta, risoto, cawl a stiwiau. Gellir eu gweini wedi’u coginio a’u hoeri mewn salad hefyd – rhowch gynnig ar eu torri’n draeanau a’u cymysgu gyda thiwna, winwns coch, wy wedi’i ferwi ac unrhyw ddarnau eraill o salad sydd angen eu defnyddio.

Mafon

Un arall o’n hoff fwyar haf, mae mafon yn drît hyfryd ym mis Gorffennaf. Yn ogystal â’u defnyddio yn yr un pwdinau ag y gwnaethom eu hawgrymu ar gyfer mwyar duon a llus, mae mafon yn dda ar gyfer pobi (pethau fel cwcis mafon a siocled gwyn) ynghyd â gwneud jam ffrwythau blasus i’w daenu ar dost neu ei roi rhwng haenau teisen.

Tomatos

Yn olaf, mae hi’n dymor tomatos, ac mae cymaint o ffyrdd gwahanol i’w mwynhau, does dim angen i’r tomatos yn eich oergell ymuno â’r 1.2 miliwn arall sy’n cael eu taflu i’r bin yn y Deyrnas Unedig bob dydd. Gallwch fwynhau tomatos bach melys, suddlon ar eu pennau eu hunain fel byrbryd, neu dorri tomatos mwy i’w hychwanegu at salad neu salsa. Beth am fudferwi swp mawr o domatos i wneud saws pasta blasus, defnyddiwch nhw mewn chilli con carne, tajîn, stiw a chawl, neu gallech eu gweini mewn burrito hagis neu hyd yn oed tomato a thwrci gratin.

Teipiwch enwau eich cynhwysion ffres dros ben yn ein banc rysetiau am fwy fyth o ysbrydoliaeth ar gyfer coginio ym mis Gorffennaf, a dewch yn ôl y mis nesaf i ddarganfod beth sy’n dda i’w fwyta ym mis Awst! 

 

Rhannu’r post blog hwn