Skip page header and navigation

Does dim ots ai pryd rhamantus i ddau dan olau cannwyll fydd hi, neu wledd i’ch teulu a ffrindiau oll; does dim yn well na phryd da o fwyd i ddod â phobl ynghyd. O sgwrsio yn y gegin wrth blicio tatws, i eistedd i lawr a mwynhau ein creadigaethau blasus, ac o rannu rysetiau teuluol i goginio hoff bryd o fwyd i’n hanwylyd, mae bwyd wrth galon rhai o amseroedd mwyaf cariadus ein bywydau.

Dangos cariad at eich bwyd dros ben 

Mae creu pryd o fwyd o’r hyn sydd dros ben ar ôl swper neithiwr yn broses llawn boddhad – ac mae’r un mor foddhaus pan fyddwch yn paratoi pryd o fwyd a fydd yn gwneud cinio hawdd fory. Ie, dewch inni oll ddathlu ein bwyd dros ben! Beth am wneud i’ch bwyd fynd ymhellach ar 14 Chwefror eleni trwy: 

  • Goginio rhywbeth y gallwch ei wneud ar raddfa fwy, fel bod peth dros ben ar gyfer cinio fory.
  • Cytunwch gyda’ch partner beth fyddwch yn ei fwyta, i’ch arbed rhag coginio rhywbeth na chaiff ei fwyta. 
  • Fel gydag unrhyw achlysur arbennig, bydd ychydig o gynllunio’n sicrhau eich bod yn prynu’r symiau iawn o fwyd. Gallwch gyfrifo eich meintiau dognau delfrydol gan ddefnyddio ein cynllunydd dognau bwyd ac mae’r rhewgell yno ichi ar gyfer unrhyw beth na allwch ei fwyta ar y diwrnod. 
  • Os byddwch yn sylwi eich bod wedi coginio gormod ar gyfer eich swper San Ffolant, rhowch ef mewn bocs yn y rhewgell a gallwch ei fwynhau rywdro eto! Gallwch ddysgu mwy am fwydydd na wyddoch y gallech eu rhewi – a chofiwch labelu a rhoi’r dyddiad ar unrhyw beth a roddwch yn y rhewgell er mwyn cadw trefn ar yr hyn sydd gennych a gwybod pa bryd y bydd angen ei ddefnyddio. 

Rhannwch y cariad gyda danteithion melys i bawb! 

Beth bynnag fo’ch statws perthynas, mae Dydd San Ffolant yn ddiwrnod ar gyfer mwynhau siocled. Os ydych chi’n ddigon ffodus i fod wedi derbyn bocs o siocled eleni, neu os gwnaethoch gael rhai’n drît i chi’ch hun, efallai y byddwch yn meddwl tybed beth i’w wneud â’r rhai nad ydych mor hoff ohonynt. Efallai nad ydych yn hoffi’r coffi, neu’n osgoi’r rhai blas caramel? 

Yr ateb: torrwch nhw’n ddarnau a’u defnyddio i wneud rhywbeth blasus! Beth am eu hychwanegu at gwcis naddion siocled cartref, neu wneud brownis siocled neu swp o heol hocys/rocky road blasus? Mae’r rhain hefyd yn gwneud anrhegion bach meddylgar i ddangos i’ch ffrindiau, teulu a chydweithwyr faint rydych yn eu gwerthfawrogi – gan rannu’r cariad yn ogystal â rhannu’r bwyd dros ben! 

Rhannu’r post blog hwn