Skip page header and navigation

Pam ddylwn i roi cynnig ar hyn?

Cymerwch gipolwg cyflym ar becynnau eich bwyd – mae’n bur debyg bod dyddiad yno yn rhywle naill ai ‘Ar ei orau cyn’ neu ‘Defnyddio erbyn’. Ond beth mae’n ei olygu?

Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i wneud synnwyr ohonynt ac, o ganlyniad, yn arbed eich bwyd rhag cael ei daflu tra ei fod yn dal yn gwbl fwytadwy.

Byddwch yn synnu faint y gallai hyn ei arbed ar eich bil siopa trwy eich helpu i gael y gwerth mwyaf o’r bwyd sydd gennych gartref eisoes.

 

4.5 miliwn

tunnell o fwyd sy’n dal yn dda i’w fwyta sy’n cael ei daflu bob blwyddyn yn y DU.

Sut alla i wneud hyn?

Mae’n ddefnyddiol dechrau trwy ddeall y pwrpas y tu ôl i bob math o label:

  • Ar ei orau cyn – mae’n ymwneud ag ansawdd y bwyd
  • Defnyddio erbyn – yn ymwneud â diogelwch y bwyd
  • Arddangos tan / gwerthu erbyn – at sylw adwerthwyr yn unig

Edrychwch yn eich oergell a’ch cypyrddau i weld pa fwydydd sydd â’r labeli uchod arnynt.

Labeli dyddiad ar ei orau cyn

Mae ‘ar ei orau cyn’ yn cyfeirio at ansawdd: bydd eich bwyd ar ei orau pan gaiff ei ddefnyddio cyn y dyddiad a roddir.

  • Ar ôl y dyddiad hwn pan fo bwyd ar ei fwyaf ffres, efallai na fydd ar ei orau, ond bydd yn dal yn ddiogel i’w fwyta. Defnyddiwch eich synhwyrau i wneud dyfarniad.
  • Yn dibynnu sut y caiff eich bwyd ei storio, mae ganddo’r potensial i fod yn ddigon da i’w fwyta am amser hir ar ôl y dyddiad hwn. Ewch i fwrw golwg ar ein canllawiau bwyd i ddod o hyd i’r lleoedd cywir i storio eich bwyd.
  • Bydd rhai poteli llaeth buwch nawr yn dangos dyddiad Ar ei orau cyn. Ni fydd llaeth yn para mor hir â bwydydd eraill ar ôl ei ddyddiad Ar ei orau cyn. Nid yw bacteria’n datblygu tan ar ôl i’r llaeth suro, edrych yn lympiog, ac arogli’n ddrwg, felly defnyddiwch eich synhwyrau i wneud dyfarniad ynghylch a yw’r llaeth yn dal i fod yn iawn i’w ddefnyddio.

Dyma ganllaw i rai eitemau bwyd allweddol a pha mor hir ar ôl y dyddiad y gellir eu bwyta:

  • Bisgedi – chwe mis
  • Bwyd tun – 12 mis
  • Grawnfwydydd – chwe mis
  • Melysion – 12 mis
  • Creision – un mis
  • Pasta sych – tair blynedd!
  • Saws pasta – 12 mis

Labeli dyddiad defnyddio erbyn 

Mae ‘defnyddio erbyn’ yn cyfeirio at ddiogelwch: rhaid i chi beidio â bwyta bwyd sydd wedi mynd heibio’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’.

  • Ni allwch bob amser arogli’r bacteria sy’n achosi i fwyd ddifetha, felly ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’, gall y bwyd ymddangos yn berffaith iawn i’w fwyta, ond gallai arwain at wenwyn bwyd o hyd.
  • Gadewch i ni fod yn gwbl glir: NI ddylech fwyta bwyd ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ – hyd yn oed os yw’n edrych ac yn arogli’n iawn.

Dyddiad Arddangos tan / Gwerthu erbyn 

Mae’r dyddiadau hyn ar gyfer y manwerthwyr – nid ni gartref. Nid oes angen i chi boeni am y rhain.

Bwydydd nad oes unrhyw labeli dyddiad arnynt

Nid yw’n ofynnol i rai cynhyrchion, fel ffrwythau a llysiau heb eu torri, a gwin, er enghraifft, gael label dyddiad, ac mae rheoliadau penodol yn cyfeirio at wyau ieir, sy’n galw am ddefnyddio dyddiad Ar ei Orau Cyn.

 

Gallwch rewi bwyd hyd at, ac ar ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’. 

Os nad ydych yn siŵr os gwnewch ei fwyta mewn da bryd - rhewch ef ar gyfer diwrnod arall! 

Efallai y dechreuwch chi sylwi

Po fwyaf y byddwch yn ymgyfarwyddo â’r gwahanol labeli, po fwyaf y byddwch yn magu hyder wrth drin bwyd. Cyn bo hir byddwch yn dod i arfer ag archwilio’r bwyd gyda labeli Ar ei orau cyn yn hytrach na dibynnu ar y dyddiad ar y label yn unig.

Ymhen amser, byddwch yn dechrau sylweddoli faint yn fwy o fwyd bwytadwy sy’n cael ei fwyta a’i achub rhag y bin.

Cofiwch edrych ar rai o’n canllawiau eraill Sut alla i? i weld sut y gallwch wneud mwy o’ch bwyd gartref.

 

Cwestiynau cyffredin