Skip page header and navigation

1. Reis

Dyma ddechrau gyda’r un sydd, efallai, yn fwy dadleuol na’r un arall. Mae llawer o bobl yn credu na allwch rewi reis wedi’i goginio, ond mae’n gwbl bosibl! Rhaid chi ei oeri’n gyflym drwy roi’r cynhwysydd reis mewn dŵr oer, ei orchuddio a’i daro yn y rhewgell o fewn awr i’w goginio. Cyn ei fwyta, dylid dadmer y reis yn yr oergell ac yna ei aildwymo nes bydd yn chwilboeth cyn ei weini’n syth bin.

2. Wyau

Os oes gennych focs o wyau na fyddwch yn gallu eu defnyddio i gyd yn syth, gallwch eu rhewi drwy eu torri a’u rhoi mewn cynhwysydd aerglos. Os ydych chi’n debygol o fod eisiau dim ond y melynwy neu’r gwynnwy ar gyfer saig benodol – fel mws siocled – gallwch hefyd rewi’r rhain ar wahân.

3. Cynnyrch llaeth

Does yna byth reswm i arllwys llaeth dros ben i lawr y sinc neu gael darn o gaws yn llwydo yng nghefn yr oergell. Dyma sut i rewi gwahanol fathau o gynnyrch llaeth:

  • Llaeth: rhewch eich llaeth mewn cynwysyddion plastig – rhai bach sy’n gweithio orau, gan fod rhai mawr yn cymryd amser hir i ddadmer ac yn cymryd llawer o le yn y rhewgell. Cofiwch arllwys ychydig allan cyn rhoi’r caead yn ôl arno, gan fod llaeth yn ehangu pan fo’n rhewi! Yn ddelfrydol, rhewch ef cyn gynted â phosibl ar ôl ei brynu, a rhowch ef yn yr oergell i ddadmer pan fydd ei angen arnoch. Ysgydwch ef yn dda cyn ei arllwys, a’i ddefnyddio o fewn 24 awr. Gallwch hefyd ei rewi mewn cynhwysydd ciwbiau rhew yn barod i’w daro mewn disgled o de poeth!
  • Hufen: chwipiwch hufen ffres a’i rewi mewn cynhwysydd plastig (mae hufen dwbl yn rhewi’n well na hufen sengl).
  • Menyn: rhewch fenyn mewn ciwbiau a’u hychwanegu’n syth i’r sosban pan fyddwch yn coginio. Fel arall, gallwch ei ddadmer yn y microdon fesul ychydig eiliadau ar wres isel.
  • Iogwrt: rhewch iogwrt yn eu cynwysyddion plastig neu mewn mowldiau lolipops i wneud byrbryd blasus yn yr haf.
  • Caws: y ffordd hawsaf o rewi caws yw ei gratio’n gyntaf – yna bydd yn barod ac yn disgwyl ichi estyn llaw i’r rhewgell a’i ddefnyddio fel topin hawdd a chyflym ar eich hoff seigiau.

     

4. Ffrwythau a llysiau

Mae orennau’n rhewi’n dda, ac felly hefyd y rhan fwyaf o ffrwythau a llysiau, felly does dim rheswm i daflu cynnyrch ffres i’r bin. Mae cael ffrwythau wedi’u rhewi wrth law yn wych pan fyddwch yn gwneud smwddis neu bwdinau, ac mae rhewi llysiau wedi’u berwi neu eu rhostio’n rhoi dogn ychwanegol didrafferth o’ch pump y dydd ichi wrth ychwanegu at brydau bwyd.

Rhowch afalau wedi’u sleisio mewn dŵr berw am gwpl o funudau ac yna’u rhewi mewn haen sengl, gan eu pacio mewn bagiau unwaith y byddan nhw wedi rhewi. Mae ffrwythau sitrws fel orennau, lemonau a grawnffrwyth yn rhewi’n dda mewn sleisys, a gellir eu troi’n sudd hefyd a’u rhoi mewn tybiau ciwbiau rhew.

Gallwch rewi bob math o lysiau hefyd. Er enghraifft, gallwch rewi moron wedi’u coginio mewn cynhwysydd aerglos wedi’i labelu gyda’r dyddiad rhewi arno, neu gallwch ferwi moron amrwd yn rhannol ac yna eu hoeri mewn dŵr rhewi cyn eu rhewi. Gallech hyd yn oed ychwanegu moron at fag casglu stoc llysiau yn y rhewgell ynghyd â winwns a seleri a chael ffordd hawdd o ddechrau eich lobsgóws neu gawl.

5. Tatws

Caiff 4.4 miliwn o datws cyfan eu taflu i’r bin yn y Deyrnas Unedig bob dydd, felly dyma un o’r bwydydd a gaiff eu gwastraffu fwyaf yn y wlad. Unwaith eto, y rhewgell sy’n camu i’r adwy ac yn achub y tatws druan rhag mynd i’r bin – gellir eu rhewi sut bynnag y gwnaethoch eu coginio, a dim ond berwi tatws amrwd am 5 munud a byddant yn iawn i’w rhewi.

6. Perlysiau

Dyw perlysiau ffres byth yn para’n hir rywsut, ac yn aml maen nhw’n dod mewn bagiau mawr sy’n cynnwys mwy nag y mae ei angen arnoch. Yn hytrach na gadael i weddill y bag bydru yng ngwaelod yr oergell, gallwch eu rhewi’n gyfan mewn bagiau, neu eu torri’n fân a’u rhewi mewn dŵr mewn twb ciwbiau rhew. Gallwch eu rhoi yn eich bwyd wrth ei goginio yn syth o’r rhewgell!

7. Nwyddau pob

Mae’r rhewgell yn lle gwych i gadw torth o fara, paced o croissants, teisennau ac unrhyw nwyddau pob eraill na chewch gyfle i’w bwyta. Gallwch roi torth o fara yn yr oergell a thynnu tafell neu ddwy allan ar y tro pan fydd angen bara arnoch. Does dim rhaid ei ddadmer, hyd yn oed – gallwch wneud brechdanau gyda bara wedi’i rewi yn y bore a byddant wedi dadmer erbyn amser cinio, gan gadw cynnwys y frechdan yn oer neis hefyd. Gallwch hefyd roi tafell o fara yn syth o’r rhewgell i’w dostio (cofiwch ganiatáu ychydig mwy o amser yn y tostiwr na fyddai ei angen ar fara ffres).



Tip: Gallwch roi tap sydyn i dorth o fara wedi’i sleisio ar wyneb caled cyn eu rhewi – mae’n atal y tafelli rhag glynu at ei gilydd! Os byddwch chi’n rhewi teisen, torrwch hi a rhowch bapur gwrthsaim rhwng y tafelli, sy’n ei gwneud yn haws ichi estyn un darn allan ar y tro.

Am ragor o tips am yr hyn y gallwch ei rewi, yn cynnwys cyngor ar rewi gwahanol fathau o ffrwythau a llysiau, chwiliwch ein canllawiau bwyd.

Rhannu’r post blog hwn