Skip page header and navigation

Calan Gaeaf – manteisio i’r eithaf ar eich pwmpen

Calan Gaeaf – manteisio i’r eithaf ar eich pwmpen

Basged o bwmpenni a llysiau hydrefol eraill newydd eu codi

Calan Gaeaf

Dyma dymor y bwganod wedi cyrraedd ac rydym wrthi’n brysur gasglu pwmpenni, afalau, danteithion blasus a bwydydd eraill tymhorol cynhesol. Yn anffodus, caiff 4.5 o filiynau o dunelli o fwyd da ei wastraffu bob blwyddyn o gartrefi’r Deyrnas Unedig, mae hynny’n ddigon i lenwi 38 miliwn o finiau olwynion! 

Mae pwmpenni’n fwy na llusernau calan gaeaf tlws – maen nhw’n llawn fitaminau a mwynau a gellir eu defnyddio mewn seigiau melys a sawrus ill dau. Gallwch ddefnyddio eich holl bwmpen a manteisio i’r eithaf arni.

12.8 miliwn

o bwmpenni a brynwyd fel addurniadau Calan Gaeaf sy’n debygol o beidio â chael eu bwyta.

67%

o deuluoedd yn y Deyrnas Unedig yn taflu un bwmpen yr un! 

Bwyd a Rysetiau

Mae’r broses o dyfu, gwneud, dosbarthu, storio a choginio ein bwyd yn defnyddio llawer o ynni, tanwydd a dŵr a’r broses hon sy’n cynhyrchu 30% o’r lefelau nwyon tŷ gwydr CO₂e y byd. Dewch inni newid hyn a gwneud rhywbeth da i’n planed ac i’n pocedi drwy greu bwyd blasus gyda’n pwmpenni a’i gynnwys fel rhan o’n dathliadau Calan Gaeaf blynyddol.  Mae pwmpenni’n cynnwys llawer o fitaminau, mwynau a gwrthocsidyddion ac maen nhw’n faethlon iawn ac yn werth eu hachub rhag y bin.

Dysgwch sut gallwch chi achub eich pwmpenni rhag mynd i’r bin.

Rysetiau pwmpen