Skip page header and navigation

Beth sy’n dda i’w fwyta ym mis Mehefin?

Mae’r rhestr o ffrwythau a llysiau ffres yn mynd yn hirach fyth wrth inni gyrraedd mis Mehefin, gyda chnydau o bob lliw a llun yn cynnig cyfleoedd di-ben-draw ar gyfer cynllunio prydau bwyd blasus a chreadigol ar gyfer y mis. Mae manteisio ar yr hyn sy’n dda i’w fwyta’r mis yma’n golygu prynu cynnyrch ffres, lleol – a, gyda llawer llai o filltiroedd bwyd, mae hynny’n wych i’r amgylchedd yn ogystal â’i fod yn blasu’n well! Daliwch ati i ddarllen am syniadau blasus ar gyfer defnyddio cynhwysion ffres ym mis Mehefin.

Ffrwythau a llysiau i’w mwynhau ym mis Mehefin

Cyfeiriwn, fel bob amser, at ganllaw defnyddiol y Vegetarian Society, a gwelwn mai’r ffrwythau a llysiau sydd ar eu gorau ym mis Mehefin yw:



Asbaragws, Planhigyn wy, Betys, Mwyar Duon, Ffa Llydain, Brocoli, Blodfresych, Ceirios, Sicori, Tsilis, Courgettes, Ciwcymbr, Blodau’r Ysgaw, Eirin Mair, Letys, Maro, Tatws Newydd, Pys, Pupurau, Radis, Mafon, Cyrens Cochion, Riwbob, Berwr, Ffa Dringo, Cyrn Carw’r Môr, Suran, Bresych Deiliog, Shibwns, Mefus, Pwmpen yr Haf, Bresych Hisbi, Betys Arian, Mafonfwyar, Maip, Berwr y Dŵr

Fe welwch wledd o syniadau ar gyfer defnyddio rhai o’n hoff ffrwythau a llysiau o’r rhestr hon isod, ac fe gewch fwy fyth o ysbrydoliaeth o’n canllawiau ar gyfer misoedd blaenorol:

Ffa llydain

Mae ffa llydain yn gwneud saig flasus fel rhan o ginio rhost, yn enwedig o gael eu berwi a’u gweini gyda digonedd o saws gwyn neu fenyn. Yn union fel pys, maen nhw’n dda i’w hychwanegu at unrhyw beth sy’n galw am lysiau dros ben, fel cawl, risoto, seigiau pasta a stiwiau.

Brocoli

Ei ferwi, ei stemio, ei rostio – mae cymaint o ffyrdd o fwynhau brocoli fel rhan o unrhyw bryd fynnwch chi o fwyd. Ond mae’n fwy na saig ar y naill ochr, mae’n ffordd wych o ychwanegu blas a maeth at rysetiau.

Ceirios

Mae’n bryd inni ddechrau mwynhau ffrwythau’r haf, ac mae ceirios yn un rydym yn edrych ymlaen atynt y mis yma. Ynghyd â bod yn fyrbryd blasus ar eu pennau eu hunain, maen nhw’n ychwanegiad hyfryd i’ch pobi hefyd (gan feddwl am deisennau Bakewell ceirios a theisen ceirios ac almwn) a phwdinau. Os oes gennych fwy o geirios nag y gallwch eu defnyddio, gallech wneud eich ceirios glacé eich hunan a’u cadw yn yr oergell yn barod i’w rhoi yn eich teisen Nadolig yn nes ymlaen yn y flwyddyn!

Courgettes

O ffritatas i dro-ffrio, mae courgette yn llysieuyn amryddawn y gallwch ei fwynhau mewn unrhyw rysetiau sy’n galw am ba bynnag lysiau ffres sydd gennych angen eu defnyddio. Maen nhw’n gwneud saws pasta blasus a maethlon hefyd, fel y saws tomato a chorguette hwn gan Cristina. Gallwch hyd yn oed ddefnyddio courgette yn eich pobi! Mae teisen courgette felys yn drît blasus iawn amser te, neu gallwch fynd am opsiwn sawrus gyda’n torth courgette a thatws melys, sy’n ffordd wych o ddefnyddio wyau, hefyd.

Ciwcymbr

Does dim byd mwy adfywiol na salad oer neis yn yr haf gyda chiwcymbr crensiog, felly byddwn yn falch o weld hwn yn ein hoergell y mis yma! Mae’n wych hefyd ar gyfer gwneud raita ciwcymbr sy’n cyd-fynd â seigiau Indiaidd neu tzatziki i gyd-fynd â ffefrynnau Groegaidd (fel souvlaki o’r barbeciw). Ddefnyddio unrhyw giwcymbr sydd dros ben yn ein ffalaffel bach gyda dip iogwrt a chiwcymbr.

Mefus

Ac, i gloi, dyma un o fwydydd mwyaf amheuthun yr haf – mae’n dymor mefus, jyst mewn pryd i’w mwynhau dros bythefnos Wimbledon! P’un ai eu torri i’w rhoi mewn gwydriad blasus o Pimm’s oer fyddwch chi (cofiwch y ciwcymbr hefyd!), ynteu eu cynnwys mewn melys gybolfa foethus, neu eu mwynhau ar eu pen eu hunain gyda joch o hufen, rydyn ni’n siŵr na chewch chi unrhyw drafferth defnyddio’r mefus sydd yn eich oergell!

Ar gyfer syniadau i’ch cynllun prydau bwyd ar gyfer Mehefin, teipiwch eich cynhwysion dros ben yn ein banc rysetiau, a chadwch lygad am fwy o ysbrydoliaeth y mis nesaf, pan fyddwn ni’n edrych ar beth sy’n dda i’w fwyta ym mis Gorffennaf! 

 

Rhannu’r post blog hwn