Skip page header and navigation

Ar y barbeciw

Gallwch drin cig wedi’i goginio ar y barbeciw yn yr un modd ag y byddech yn trin cig rhost. Os gwnaethoch chi goginio mwy nag y gall eich gwesteion ei fwyta, mae’n ardderchog ar frechdan neu gyda salad y diwrnod wedyn. Bydd cig wedi’i goginio’n para am ddau ddiwrnod yn yr oergell, a gallwch hefyd ei rewi i’w ddefnyddio mewn pryd arall, fel cyri neu dro-ffrio, rywdro eto. Gallwch ddarllen ein holl gyngor ar rewi ymlaen llaw i gael barbeciw bendigedig.

Os gwnaethoch chi grilio corn ar y cobyn, gallwch ei lapio mewn ffoil alwminiwm a’i storio yn yr oergell yn barod i’w fwyta’n oer neu ei aildwymo yn y microdon. Gallwch hefyd grafu’r corn oddi ar y cobyn i’w defnyddio mewn saig pasta neu gawl. Mae llysiau o’r barbeciw yn para’n dda am gwpl o ddyddiau a gallwch eu gweini’n oer mewn salad neu eu haildwymo.

Bwyta’n ôl y tymor

Mae bwyta bwydydd sydd yn eu tymor yn ffordd wych o fanteisio i’r eithaf ar gynnyrch blasus sy’n ffres o’r caeau, heb i’r bwyd hwnnw orfod teithio’n bell i’ch cyrraedd chi (i serennu go iawn, ewch i fwrw golwg yn eich siop fferm agosaf!). 

Mae salad yn un o hanfodion bwyd yr haf, a does dim ffordd well o gael eich pump bob dydd yn ystod y misoedd cynnes. Mae salad tomatos yn para’n dda, hyd yn oed gyda dresin arno, ac felly hefyd darnau o giwcymbr, tafelli o bupur, radis a ffa Ffrengig wedi’u stemio a’u hoeri.

Gall dail letys fynd yn feddal os oes dresin wedi’i roi arnyn nhw, sy’n golygu na fyddan nhw’n para cystal i gael i ginio’r diwrnod wedyn. I wneud yn siŵr eich bod yn gallu bwyta’r hyn sy’n weddill, beth am weini dresin salad a letys ar wahân, gan ychwanegu’r dresin i’r dail ar eich plât yn unig?

Efallai nad yw afocado yn tyfu’n lleol, ond mae’n elfen boblogaidd mewn salad hafaidd. Mae’n dueddol o fynd yn frown a stwnshlyd ar ôl cael ei blicio a’i sleisio, ond gallwch atal gwastraff drwy ei sleisio yn ei hanner, gan baratoi un hanner ar gyfer eich salad, a selio’r hanner arall (gyda’r garreg a’r croen dal arno) mewn bag ailddefnyddiadwy a’i gadw yn yr oergell. Bydd yn cadw’n iawn at fory! 

Mae tatws newydd bach yn eu tymor ac maen nhw’n gwneud salad tatws blasus, a gallwch adael eu crwyn arnynt, felly fydd yna ddim byd yn cael ei wastraffu. Ychwanegwch ychydig o winwns coch wedi’u torri’n fân, mayonnaise ac efallai ychydig o gorn melys neu foron wedi’u gratio i roi crensh ffres iddo. Beth am wneud digon i’w gael gyda’ch cinio fory? Cofiwch gadw eich tatws amrwd yn yr oergell i’w helpu i bara dair gwaith yn hirach nag yn y cwpwrdd.

Mae ffrwythau tymhorol yn gwneud pwdin hafaidd blasus dros ben, boed hynny wedi’u pentyrru ar ben paflofa, wedi’u cymysgu mewn melys gybolfa foethus, neu wedi’u gweini’n syml mewn salad ffrwythau. Mae ffrwythau meddal fel mefus, mafon a llus oll yn eu tymor dros yr haf, ac maen nhw’n flasus wedi’u gweini’n gyfan gydag iogwrt neu hufen iâ, neu wedi’u blendio mewn smwddi neu ysgytlaeth. 

Storiwch ffrwythau meddal yn yr oergell er mwyn iddyn nhw bara’n hirach, ond gallwch eu tynnu allan ychydig oriau cyn eu bwyta os yw’n well gennych eu mwynhau ar dymheredd ystafell.

Gallwch ddysgu mwy am beth sydd yn ei dymor ym mis Mehefin, Gorffennaf ac Awst yma.

Picnic

Mae picnics yn un o bleserau mwyaf yr haf, a bwyd yw’r prif atyniad! Mae bwyd picnic wedi’i gynllunio i fod yn hawdd ei gludo a’i fwynhau yn y parc, ar y traeth neu hyd yn oed yn yr ardd, felly mae’n gwneud synnwyr ei fod yn fwyd a fydd yn dueddol o bara’n dda os gwnaethoch chi baratoi gormod.

Bydd quiches bach, brechdanau ffres, rholiau selsig, porc peis, a theisennau oll yn cadw am gwpl o ddyddiau i’w bwyta fel cinio hawdd a sydyn, neu gallwch eu rhewi mewn cynhwysydd aerglos os nad ydych am eu bwyta i gyd. Bydd wyau wedi’u berwi yn iawn yn yr oergell am ychydig ddyddiau gyda’r plisg dal arnynt, felly gallwch chi eu plicio a’u sleisio a’u rhoi mewn brechdan neu salad pan fyddwch chi’n barod.

Yn olaf, os oes angen ychydig o ysbrydoliaeth arnoch ar gyfer eich bwyd parti haf, gallwch bori ein banc rysetiau, lle gallwch deipio’r cynhwysyn yr ydych eisiau ei ddefnyddio, a bydd yn dangos amrywiaeth o rysetiau blasus ichi eu mwynhau gyda’ch anwyliaid. Bon appétit!



 

Rhannu’r post blog hwn

Tags