Skip page header and navigation

Dylai’r barbeciw delfrydol fod yn rhewllyd. Do, fe wnaethoch chi ddarllen hynna’n gywir, gallwch rewi eich bwyd i’w arbed rhag y bin!

Yn amlwg, awyr las a diwrnod cynnes yw’r amgylchiadau gorau ar gyfer barbeciw, ond rhewi yw eich arf pennaf ar gyfer bwyd eich barbeciw.

P’un ai llenwi’r oergell cyn y diwrnod mawr ydych chi, ynteu goginio gwledd ar gyfer eich teulu a ffrindiau, neu hyd yn oed cadw bwyd dros ben ar gyfer rhywdro eto – dim problem. 

Yr ateb? Paratoi ar gyfer y barbeciw gan ddefnyddio’ch rhewgell

Pa bynnag ddanteithion sydd gennych yn eich bag siopa, rhowch gynnig ar gadw cymaint â phosibl yn eich rhewgell, ble bydd yn ddiogel ac yn barod at pan fydd ei angen arnoch. 

Ein tips ar gyfer rhewi

  1. Cadwch becyn neu ddau o bob math o fwyd yn yr oergell, a’r gweddill yn y rhewgell. Fel hyn, fyddwch chi ddim yn coginio mwy na’r hyn y mae ei angen arnoch, a bydd unrhyw beth na wnaethoch ei ddefnyddio wedi’i gadw’n ddiogel yn y rhewgell ar gyfer rhywdro eto.

  2. Pan fyddwch yn cadw bwyd yn yr oergell: gwiriwch fod eich oergell yn oerach na 5°C, gorchuddiwch fwyd amrwd, yn cynnwys cig, a’i gadw ar wahân i fwydydd sy’n barod i’w bwyta.

  3. Cadwch gig, dofednod, pysgod a chregynbysgod amrwd wedi’u gorchuddio ar silff waelod yr oergell.

  4. Cofiwch – gallwch rewi’r rhan fwyaf o’ch cigoedd barbeciw unrhyw bryd cyn y diwrnod Defnyddio Erbyn, da ’de?! 

Dadrewi fel dewin

Mae angen dadrewi eich coesau cyw iâr, selsig, stêcs neu fyrgyrs oll yn drylwyr cyn eu coginio.



Gallwch naill ai: 

  • eu dadrewi yn yr oergell – yn y gwaelod, wedi’u lapio’n dda, y diwrnod cynt; neu 

  • eu dadrewi yn y microdon yn syth cyn eu coginio gan ddefnyddio’r modd ‘dadrewi’.

     

Mae’r opsiwn o ddefnyddio’r microdon yn ddelfrydol ar ddiwrnod y barbeciw. Os byddwch wedi defnyddio popeth a oedd yn eich oergell a rhywun yn gofyn am ragor, gallwch ei ddadrewi’n gyflym yn y microdon! Gallwch ddadrewi’r union faint y mae ei angen arnoch i osgoi cael gormodedd a fydd yn cael ei wastraffu.

Angen ychydig o help ychwanegol gyda dadrewi eich bwyd barbeciw? Mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ddigonedd o ganllawiau i’ch helpu i atal unrhyw syrpreisys annifyr ynghyd â tips gwych ar gyfer coginio cig, yn cynnwys byrgyrs, yn ddiogel! 

Gwas swyddfa liw dydd, meistr y barbeciw liw nos

Os mai chi sy’n gyfrifol am y barbeciw, yna ewch ati i weini a chymryd archebion!

Gofynnwch i’ch grŵp beth hoffent ei gael cyn rhoi popeth ar y barbeciw a’i goginio mewn ‘rowndiau’. Gwell ichi goginio rownd o fyrgyrs neu selsig ar unwaith yn hytrach na gwneud popeth ar unwaith – os bydd pobl yn newid eu meddyliau neu’n teimlo’n llawn, cewch osgoi bod â gwledd heb ei gorffen ar eich dwylo. Cadwch eich cig amrwd wedi’i ddadrewi’n oer braf (yn yr oergell) i’w gadw mor ffres â phosibl pan fydd yn cael ei roi ar y barbeciw.

Gall unrhyw beth na chaiff ei goginio cyn diwedd y dydd ei rewi at rywdro arall.

Gellir rhewi danteithion ffres cyn eu dyddiad Defnyddio Erbyn yn barod ar gyfer diwrnod arall.

Os yw’r bwyd eisoes wedi cael ei rewi a’i ddadrewi, bydd angen ichi ei ddefnyddio o fewn 24 awr. Neu gallwch ei goginio mewn pryd o fwyd – er enghraifft, gwneud ‘toad in the hole’ gyda’r selsig Cumberland sydd gennych dros ben – a rhewi’r pryd wedi’i goginio, felly mae’r posibiliadau’n ddi ben draw!

Mae barbeciw yn weithgaredd hafaidd delfrydol, a gydag ychydig o waith cynllunio, gallwch eu hatal rhag gorffen gyda bwyd wedi’i wastraffu.

Mwynhewch y gwledda!

Rhannu’r post blog hwn