Gwiriwch dymheredd eich oergell
Pa bryd wnaethoch chi wirio tymheredd eich oergell ddiwethaf? Rydym yn genedl o ddau hanner - dim ond ein hanner ni sy’n gwybod y dylid cadw ein hoergell yn oerach na 5˚C. Mewn gwirionedd, mae tymheredd cyfartalog oergelloedd y Deyrnas Unedig wedi’i osod o leiaf 2°C yn rhy gynnes!
Dysgwch sut i wirio tymheredd eich oergell a chadw’ch bwyd yn fwy ffres yn hirach.
![Teitl Oerwch eich Oergell gyda logo oergell](/sites/default/files/styles/media_item_uncropped/public/2023-03/Chill%20the%20fridge%20out_New_Transparent_Welsh.png.webp?itok=URbushtV)
Sut i newid tymheredd eich oergell
Dechreuwch drwy ddewis brand eich oergell o’r rhestr a chwilio am ddeialau tymheredd eich oergell chi ar y dudalen, ac fe welwch gyfarwyddiadau syml ar gyfer gwirio a newid tymheredd eich oergell. Cam hawdd ar gyfer arbed bwyd, amser ac arian i chi!
![fridges](/themes/custom/rutherford/images/fridges.png)
Cael mwy o werth o’ch bwyd
Wyddoch chi fod afalau’n para’n hirach o gael eu storio yn yr oergell? Mae’r un peth yn wir am aeron a ffrwythau sitrws, hefyd! Ond, cadwch eich bananas yn y bowlen ffrwythau gan eu bod yn gallu peri i ffrwythau eraill aeddfedu’n rhy sydyn.
Mae ein canllawiau bwyd a rysetiau’n cynnwys llawer o tips defnyddiol i’ch helpu i gadw bwyd yn fwy ffres yn hirach: ewch i fwrw golwg, a rhowch gynnig ar newid syml heddiw.
Mwy o haciau a tips bwyd gwych
P’un ai hoffech ddysgu sut i fanteisio i’r eithaf ar eich oergell i gadw eich bwyd mor ffres â phosib, neu os hoffech wirio beth mae labeli dyddiad bwydydd yn ei olygu go iawn, rydym ni yma i’ch helpu.
- Storio bwyd
- Cael trefn ar y gegin
- Arbed amser ac arian
Saith ffordd o gadw’r bwyd yn eich oergell yn ffres yn hirach
Wyddoch chi y gall newid tymheredd eich oergell i’w gadw rhwng 0-5°C gadw eich bwyd yn fwy ffres yn hirach? A dweud y gwir, gall ychwanegu tri diwrnod at oes eich bwyd! Dyma un o’r pethau y gallwch eu gwneud i fanteisio i’r eithaf ar eich oergell i gadw bwyd.
![Llaw wen yn troi deial mewn oergell, a’r deial wedi’i labelu ‘Off, 1, 2, 3’](/sites/default/files/styles/16_9_two_column_sm/public/2022-06/fridge_dial_421024948.jpg.webp?itok=OwHdB2XV)
- Arbed amser ac arian
- Siopa bwyd
Naw ffordd o arbed arian wrth siopa bwyd
Dyma naw ffordd o helpu i ysgafnhau’r baich ar eich waled pan gyrhaeddwch y til… ac achub bwyd rhag y bin, hefyd!
![Llaw yn dal twbyn siocled poeth ac yn ei roi mewn cwpwrdd yn y gegin](/sites/default/files/styles/16_9_two_column_sm/public/2022-05/pantry-power-banner.jpg.webp?itok=-15YMmAO)
Bwyd: A yw labeli dyddiad bwyd yn peri dryswch mawr i chi? Ewch i fwrw golwg ar ein canllaw byr i ddysgu beth mae'r gwahanol labeli yn ei olygu a sut y gallai hyn arbed arian i chi wrth siopa bwyd.
![Bys yn pwyntio at dop can bwyd yn dangos dyddiad ar ei orau cyn](/sites/default/files/styles/16_9_two_column_sm/public/2022-07/Date-labels-sh1196102665.jpg.webp?itok=mePAX3d5)