Skip page header and navigation

Gwirio bod eich oergell yn ddigon oer

Wyddoch chi y gall newid tymheredd eich oergell i’w gadw rhwng 0-5°C gadw eich bwyd yn fwy ffres yn hirach? A dweud y gwir, gall ychwanegu tri diwrnod at oes eich bwyd! Mae gwirio bod eich oergell ar y tymheredd cywir yn un o nifer o bethau y gallwch eu gwneud i fanteisio i’r eithaf ar eich oergell i gadw bwyd.

Mae deial tymheredd y tu mewn i lawer o oergelloedd, ond yn aml nid yw’r rhain yn dangos y tymheredd. Mae’r deial yn eich oergell yn cyfeirio at y lefel y mae wedi’i osod iddi, a gall hyn amrywio ymysg brandiau oergelloedd.

Defnyddiwch ein teclyn tymheredd oergell i ddysgu sut i wirio tymheredd eich oergell.

Defnyddio thermomedr oergell

Os hoffech chi brofi tymheredd gwirioneddol eich oergell, un ffordd hawdd o wneud hyn yw defnyddio thermomedr. I gael darlleniad cywir o dymheredd eich oergell, rhowch eich thermomedr mewn gwydriad o ddŵr a’i adael yn yr oergell am ychydig oriau. Ceisiwch beidio ag agor y drws yn yr amser hwn gan fod hynny’n gallu effeithio ar y darlleniad. Gallwch hefyd ddefnyddio thermomedr oergell arbenigol, ond os nad oes gennych chi un wrth law, mae thermomedr cyffredin yn gweithio’n iawn.

Cau drws yr oergell!

Mae’r tymheredd y tu mewn i oergell yn codi bob tro’r ydych chi’n agor y drws. Gall gymryd oriau i oeri’n ôl. Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cau’r drws y tro nesaf byddwch chi’n estyn y llaeth i wneud disgled.

Peidio â chadw’ch llaeth yn nrws yr oergell

Gan fod aer oer yn suddo, fe welwch mai rhan oeraf eich oergell yw’r gwaelod.

Os oes gennych chi fwydydd sy’n fwy tebygol o fynd yn hen, dylech geisio eu cadw yn y rhan hon o’r oergell gan mai dyna ble mae’r tymheredd yn fwyaf sefydlog.

Cywir neu anghywir: dylem gadw llaeth yn nrws yr oergell.

Anghywir! 

Er bod yr arfer hwn yn un cyffredin iawn, ni ddylid cadw llaeth yn nrws yr oergell. Y rhannau mwyaf cynnes yn eich oergell yw’r silffoedd uchaf a’r drws. Gall cadw eich eitemau cynnyrch llaeth yn rhannau oerach yr oergell helpu’ch bwyd i gadw’n hirach.

Storio bwydydd ar y silffoedd cywir

Unwaith mae eich oergell ar y tymheredd cywir, mae’n bryd rhoi trefn ar y bwyd! Storio eich bwyd yn y lle iawn yw’r ffordd hawsaf o’i atal rhag mynd yn hen yn rhy gynnar. Unwaith y byddwch wedi ymgynefino â’ch oergell, gallwch ddechrau gwneud newidiadau syml i gael manteisio i’r eithaf ar eich siopa bwyd wythnosol.

Y rheol gyffredinol yw cadw ffrwythau a llysiau yn y drôr salad yng ngwaelod yr oergell. Dylid gorchuddio cigoedd, dofednod a physgod a’u rhoi ar y silff waelod, a gellir rhoi bwydydd sy’n barod i’w bwyta ar y silff ganol neu’r silff uchaf.

Peidio â rhoi bwyd poeth yn syth yn yr oergell

Oerwch fwyd wedi’i goginio ar dymheredd ystafell, yna ei roi yn yr oergell o fewn awr neu ddwy. Bydd hyn nid yn unig yn atal eich oergell rhag cynhesu, ond bydd yn atal twf bacteria ar eich bwyd.

Cadw eich bwyd yn oer ar y ffordd adref o’r archfarchnad

Gall y siwrne adref o’r archfarchnad fod yn newyddion drwg i rai o’ch bwydydd ffres. Defnyddiwch fag wedi’i inswleiddio i gadw bwydydd oer yn oer ar y ffordd adref o’r siop. Bydd hyn yn helpu i gadw eich bwyd yn fwy ffres am gyfnod hirach ac yn helpu gyda chadw tymheredd eich oergell yn sefydlog.

Rhannu’r post blog hwn