Skip page header and navigation

Dyma naw ffordd i’ch helpu i arbed arian ar eich siopa bwyd.

1. Llunio rhestr, a’i gwirio ddwywaith

Dyma’ch arf pennaf wrth daclo’r dasg wythnosol o siopa bwyd – mae rhestr siopa yn fendith y gallwch fanteisio arni wrth daclo gwastraff bwyd yn ogystal â’ch gwariant ar fwyd. Lluniwch eich rhestr siopa ar yr un pryd â chynllunio eich prydau bwyd a byddwch yn llai tebygol o anghofio eitemau, ac fe welwch hefyd eich bod yn llai tebygol o fynd ar gyfeiliorn a phrynu bob math o bethau yn y siop.

2. Dewch o hyd i arferion siopa rheolaidd

Ydi, mae bywyd yn gallu bod yn brysur, ac rydyn ni oll wedi cael adegau pan fyddwn ni’n rhuthro i’r siop i godi rhywbeth i swper ar ôl diwrnod hir. Ond, mor aml ag y gallwch, ceisiwch ffurfio arferion rheolaidd ar gyfer eich siopa bwyd – bydd hyn yn helpu i gyfyngu ar yr angen am lawer o deithiau ychwanegol i’r siop (a’r potensial i wario mwy a ddaw yn sgil hynny).

Boed hynny’n golygu meddwl am brydau bwyd a’ch rhestr siopa bwyd ar yr un diwrnod bob wythnos, neu gadw rhestr wrth law ar eich ffôn i nodi eitemau pan fyddwch yn digwydd cofio amdanynt, neu drefnu archebion siopa bwyd ar-lein wedi’i ddanfon ar yr un amser bob wythnos, neu slot clicio a chasglu – gallwch ddod o hyd i batrwm sy’n gweddu i chi.

3. Siopa am nwyddau brand y siop

Efallai nad yw’r pecynnau mor ddeniadol, ond mae nwyddau brand y siop yn llawn cystal â’u cefndryd gan y brandiau mawr, ac yn ffracsiwn o’r gost. Cofiwch gymharu prisiau fesul uned, neu’r gost yn ôl pwysau, i wneud yn siŵr eich bod yn cael y fargen orau.

4. Pwyllwch gyda’r bargeinion

Mae’n teimlo fel bod cynnig arbennig i’w gael rownd bob cornel ym mhob siop y dyddiau hyn: Prynu Un, Cael Un am Ddim, Tri am Bris Dau, Dau am Bris Un… Rydyn ni oll yn cael ein temtio ganddyn nhw, ac mae’n hawdd gweld pam!

Gan ein bod yn cael ein temtio gan bethau sy’n ymddangos fel bargeinion, yn aml, rydyn ni’n prynu pethau nad oes mo’u hangen arnom, neu’n prynu gormod ohonynt.

Mae’n teimlo fel bod cynnig arbennig i’w gael rownd bob cornel ym mhob siop y dyddiau hyn: Prynu Un, Cael Un am Ddim, Tri am Bris Dau, Dau am Bris Un… Rydyn ni oll yn cael ein temtio ganddyn nhw, ac mae’n hawdd gweld pam!

Gan ein bod yn cael ein temtio gan bethau sy’n ymddangos fel bargeinion, yn aml, rydyn ni’n prynu pethau nad oes mo’u hangen arnom, neu’n prynu gormod ohonynt. Dydi hi ddim yn fargen os mai i’r bin mae’r bwyd yn mynd! 

5. Cadwch draw oddi wrth ffrwythau a llysiau wedi’u paratoi’n barod

Does dim amheuaeth ei bod yn fwy cyfleus prynu ffrwythau a llysiau wedi’u paratoi’n barod, yn enwedig ciwbiau’r llysiau hynny sy’n anodd eu torri, fel gwrd cnau menyn – ond byddwch yn talu premiwm am y fraint. Yn yr un modd, efallai bydd stwnshio eich tatws eich hun yn cymryd ychydig mwy o amser, ond gallwch fod yn siŵr o arbed ychydig o arian os gwnewch chi osgoi’r fersiwn wedi’i baratoi’n barod!

Os bydd angen ichi brynu rhai bwydydd wedi’u paratoi’n barod, rhowch gynnig ar yr adran rhewgell yn yr archfarchnad, bydd y bwydydd hyn yn para’n hirach, ac fel arfer, yn rhatach hefyd.

6. Edrychwch ar y labeli

Gall dyddiadau Ar ei Orau Cyn a Defnyddio Erbyn fod yn gymhleth, ond os ydych yn y busnes o arbed arian wrth siopa yn yr archfarchnad, mae’n werth meddwl amdanynt. Cadwch lygad ar y dyddiad Defnyddio Erbyn yn arbennig i wneud yn siŵr eich bod yn rhoi digon o amser i chi’ch hun ddefnyddio’r bwyd.

7. Siopa ar ddiwedd dydd

Gan ein bod yn trafod labeli dyddiad, os ydych chi’n siopa am swper heno, mae’n bosib y gwelwch fod yna fargeinion sticeri melyn i’w cael gan fod bwyd ffres yn agosáu at y dyddiad ar ei label (er ei fod yn berffaith iawn i’w fwyta!). Hyd yn oed os na allwch ei ddefnyddio ar unwaith, mae’n dal yn wych ar gyfer rhewi (a gallwch chi ei rewi hyd at y dyddiad Defnyddio Erbyn hefyd)! Mae’r sticeri melyn yn tueddu i ddod allan yn y siopau tua diwedd y dydd, felly amserwch eich siop yn iawn ac efallai y gallwch fachu pris gwych.

Os nad oes gennych archfarchnad yn agos ond bod gennych siop lysiau neu farchnad leol, nid yn unig y gallwch brynu ffrwythau a llysiau ffres yn rhydd (gan brynu dim ond y swm sydd ei angen arnoch), ond yn aml tuag at amser cau mae bargeinion gwych i’w cael.

8. Manteisiwch ar gwponau a chynlluniau cerdyn teyrngarwch

Mae cynlluniau cardiau teyrngarwch a chwponau yn ffordd arall o’ch helpu i gynilo, boed ar brynu eitemau unigol neu drwy gronni pwyntiau sy’n rhoi arian i chi oddi ar eich siopa yn y dyfodol. Ond gan bwyll nad ydych yn syrthio i’r fagl o brynu rhywbeth nad oes ei angen arnoch ddim ond oherwydd bod gennych daleb arbed arian. Mae pob un ohonom wedi gwneud hyn! 

9. Prynu un neu ddau o gynhyrchion sy’n helpu i ddefnyddio bwyd dros ben

Gwnewch i’ch bwyd fynd ymhellach trwy fuddsoddi mewn un neu ddau o eitemau rhad i’ch helpu i wneud y gorau o’ch bwyd dros ben – bydd creu prydau ychwanegol yn golygu bod gennych chi lai i’w brynu yn gyffredinol, gan arbed arian yn ogystal â bwyd! Er enghraifft, gall ciwbiau, potiau neu bast stoc blasus droi llysiau dros ben yn gawl hyfryd, a bydd bag o reis neu datws pobi yn eich helpu i wneud pryd o tsili neu gyri dros ben.

Tra byddwch chi wrthi, chwiliwch yn eich cegin am gynwysyddion aerglos y gellir eu hailddefnyddio a fydd yn ffordd hawdd i chi rewi bwyd dros ben. Rhowch y cynwysyddion mewn cwpwrdd neu ddrôr hawdd mynd ato. (Tip defnyddiol: cadwch eich gafael ar gynwysyddion plastig a gewch o unrhyw siopau tecawê, maen nhw’n wych i’w hailddefnyddio i wneud hyn!). Bydd cael dognau o brydau dros ben wrth law yn y rhewgell yn arbed arian ar siopau’r dyfodol drwy droi gormodedd o fwyd yn ‘brydau parod’ cartref.

Rhannu’r post blog hwn