Skip page header and navigation

Mae pawb yn wahanol – haciau syml ar gyfer gweini dognau delfrydol

Mae pawb yn wahanol – haciau syml ar gyfer gweini dognau delfrydol

Mae defnyddio ein cyfrifydd dognau yn gyflym, yn syml ac yn hawdd.

Gair i gall – mae pawb yn wahanol! Felly cofiwch ddefnyddio synnwyr cyffredin wrth ddefnyddio’r cynllunydd, gan ystyried cyngor maeth ac unrhyw ddiet arbennig y gallai gweithwyr iechyd proffesiynol cofrestredig fod wedi’i roi i chi.

Pwy sy’n ‘gyfartalog’? 

Mae’r meintiau i’w gweini yn y cynllunydd yn dangos faint o fwyd y dylai person ‘o faint cyfartalog’ ei fwyta. Defnyddiwch eich crebwyll ynghylch y bobl rydych yn prynu bwyd ar eu cyfer, neu paratowch fwydydd ar gyfer, e.e. pobl sy’n fyr neu’n dal ac ati. Mae gan bob un ohonom anghenion maethol gwahanol yn dibynnu ar ein hoedran a’n lefel o weithgaredd corfforol dyddiol.

Prydau o’r ‘maint iawn i mi’ ar gyfer plant

Term a ddefnyddir i ddisgrifio dognau i blant yw prydau o’r ‘maint iawn i mi’. Y cwbl mae hyn yn ei olygu yw addasu dogn ‘o faint cyfartalog’ i weddu i’ch plentyn, e.e. ydyn nhw’n egnïol, yn dal neu’n fyr o’u hoedran ac ati. Yr argymhelliad yw y dylid gweini dognau bach i blant yn ystod pryd bwyd, yn unol â’u maint, ac os ydyn nhw’n dal i fod yn llwglyd, fe wnân nhw ofyn am ragor.

Gallai meddwl am feintiau prydau bwyd yn nhermau’r ‘maint iawn i mi’ weithio i oedolion hefyd! Peidiwch â chael eich temtio i ddyfalu neu oramcangyfrif. Unwaith y dewch i arfer gyda beth yw meintiau iach i’w gweini, fe ddaw’n ail natur ichi mewn dim. Mae canllawiau defnyddiol ar wefan NHS Live Well.

Newid y norm cymdeithasol

Gwyddom nad yw bywyd bob amser yn rhwydd ac mae llawer o bethau sy’n dylanwadu ar yr hyn a wnawn, hyd yn oed os nad ydym yn sylwi ein bod yn meddwl amdano.

Mae rhai o’r pethau hyn yn effeithio ar faint o fwyd rydym wedi ein cyflyru i gredu y dylem ei weini sydd, yn amlach na pheidio, yn arwain at fwyd dros ben, a llawer ohono’n mynd yn syth i’r bin.

Ydi rhai o’r pethau hyn yn swnio’n gyfarwydd i chi? 

  • ‘Rwyf eisiau i fy ngwesteion deimlo bod digonedd i’w fwyta wrth y bwrdd’.

  • ‘Efallai y bydd pobl yn meddwl mod i’n bod yn gynnil gyda bwyd os na fydda i’n gweini digonedd o fwyd’.

  • ‘Dydw i ddim eisiau i fy nheulu fod yn llwglyd’ ac yn y blaen.

Bydd yn cymryd amser i newid y normau hyn i rai sy’n adlewyrchu realiti – does dim angen inni fwyta cymaint o fwyd ag yr ydym yn credu y dylem.

Pethau hawdd a syml i roi cynnig arnynt

Mae angen inni oll ddechrau yn rhywle, a dyma ambell beth hawdd y gallwch eu gwneud heddiw: 

  • Defnyddiwch blatiau llai amser bwyd – mae prydau bwyd a gaiff eu gweini mewn meintiau iach yn debygol o lenwi’r platiau llai hyn, felly mae’n helpu i ail-gyflyru ein meddyliau o ran beth yw maint iach ar gyfer pryd o fwyd.   

  • Beth am ddefnyddio ein cyfrifydd dognau? Mae’n ei gwneud yn hawdd ichi ddarganfod faint o fwyd y dylech fod yn ei fwyta, o’i gymharu â’r hyn y buoch efallai yn ei weini amser bwyd – ac anogwch eich teulu i ddefnyddio’r cynllunydd hefyd!   

  • Her ‘pump y dydd’ – mae pawb yn mwynhau tipyn o her, felly beth am herio eich teulu neu’r bobl rydych chi’n rhannu tŷ â nhw i weld pwy all fwyta o leiaf pum darn o lysiau a ffrwythau bob dydd, am wythnos neu am fis? 

    • Byddai plant wrth eu boddau’n cael ‘pawen lawen’ ar ddiwedd bob dydd os ydyn nhw wedi cyflawni hyn, a bydd gweld mam a dad yn cymryd rhan yn rhoi hwb iddyn nhw i ddal ati.  

    • Byddai ychydig o gymhelliant yn helpu hefyd, fel gwobr ar ddiwedd yr wythnos neu’r mis i’r enillydd! Os ydych chi’n rhannu tŷ gyda phobl eraill, efallai bydd yr un sy’n dod olaf yn yr her yn gwneud swper i bawb arall?

  • Arwr gwastraff bwyd – gallech gynnal cystadleuaeth i weld pwy sy’n gwastraffu’r symiau lleiaf o fwyd bwytadwy! 

    • Anogwch y plant i gymryd rhan a gwnewch mwy o hwyl ohoni drwy roi gwobr ar y diwedd. 

    • Fe allen nhw fod yn greadigol a thynnu llun/paentio siart i olrhain eich cynnydd.

  • Byddwch yn ddoeth am y ffeithiau – gallwch ddysgu mwy am fwyta’n iach i’ch teulu drwy fynd i wefannau fel Eatwell sydd hefyd yn cynnwys y canllaw Eatwell Guide. Mae llawer o deuluoedd yn mynd draw i bori’r gwefannau hyn yn aml – ydych chi?

  • Plannu’r hadyn – dwedwch wrth eich ffrindiau a’ch teulu am yr hyn rydych wedi’i ddysgu am fwyta’n iach a pham mae’n bwysig – efallai y cewch eich plesio o weld cymaint o ddiddordeb sydd ganddyn nhw yn y pwnc, a’ch synnu cyn lleied y mae rhai pobl ei wybod. Meddyliwch am y gwahaniaeth y gallech ei wneud i’ch anwyliaid, dim ond drwy ddechrau’r sgwrs!

  • Peidiwch â gofidio am fwyd dros ben tra byddwch chi wrthi’n dod i arfer gyda’r cwbl. Fe wnaiff gymryd amser i addasu eich meintiau prydau bwyd dyddiol felly rydych chi’n siŵr o fod yn creu bwyd dros ben. A pheidiwch gofidio, mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud – ei rewi, ei gyfuno â chynhwysion eraill i greu pryd bwyd newydd y diwrnod wedyn, dysgu sut i ddefnyddio eich bwyd i gyd, rhannu’r bwyd gyda’ch cymdogion ac ati.

Bydd ein cyfrifydd dognau’n rhoi arweiniad ichi ar faint o fwyd y mae ei angen ar gyfer bob person, ar gyfer bob pryd bwyd. Mae’n syml i’w ddefnyddio gan ein bod wedi cyfrifo’r meintiau dognau arferol i chi!

Powlen ddu o reis sych yn cael ei fesur ar glorian fwyd ddigidol. Mae’r sgrin yn dweud 100g.

Cael pryd bwyd o’r maint iawn i blant gyda ‘phrydau o’r maint iawn i mi’.

Plentyn bach yn gwneud wyneb doniol wrth frathu byrgyr.

Edrychwch ar ôl eich hunan a’ch anwyliaid drwy gael dognau iach o’r maint cywir.

Powlen wen yn llawn pasta amrwd ar glorian fwyd lliw arian, wedi’i gosod ar liain bwrdd streipiog.