Skip page header and navigation

Bwyd i blant: prydau o’r maint iawn i mi

Bwyd i blant: prydau o’r maint iawn i mi

Efallai eich bod yn gwybod mwy nag a feddyliwch chi! Ond mae bod yn siŵr am iechyd eich plentyn yn rhywbeth y mae llawer ohonom yn ymaflyd ag ef, yn enwedig rhieni newydd, neu gall fod yn rhywbeth sy’n golygu gorfod dyfalu.

Mae’r Cynllunydd Dognau Dyddiol yn helpu i wneud i ffwrdd â’r gwaith dyfalu a bydd yn rhoi tri opsiwn ichi ar gyfer dognau bwyd i blant – rhai bychain 1-2 mlwydd oed, plant 4-11 mlwydd oed a phlant 11-18 mlwydd oed. Ond bydd angen ichi ddefnyddio eich crebwyll o hyd i sicrhau eich bod yn gweini’r maint cywir i’ch plant chi, gan mai symiau ar gyfer plant ‘o faint cyfartalog’ yw’r rhain.

Mae cael pethau’n iawn yn galw am ychydig o waith meddwl. Os meddyliwch yn nhermau ‘prydau o’r maint iawn i mi’, bydd yn eich helpu i ystyried pwy fydd yn bwyta’r prydau’r ydych chi’n eu paratoi. A yw eich plentyn yn dalach neu’n fyrrach o’i oedran, ydyn nhw’n weithgar iawn, e.e. ar fin cymryd rhan mewn chwaraeon ac ati? Yna, bydd angen ichi addasu’r dognau maint ‘cyfartalog’ yn ôl yr amgylchiadau. Ewch i fwrw golwg ar wefan Byw’n Dda y GIG am ragor o ganllawiau; plant yn eu harddegau, plant ifanc.

 

“Y dyddiau hyn, mae meintiau dognau mwy yn haws eu cael, felly mae’n hawdd bwyta gormod. Rheol dda i’w harfer yw dechrau prydau gan weini dognau llai… ac yna os ydyn nhw’n dal i fod eisiau bwyd, fe wnân nhw ofyn am ragor.” Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Lloegr

Adnoddau ar fwyd i blant

Cyn ichi fwrw iddi a gwneud newidiadau mawr, dylech holi gweithwyr iechyd proffesiynol, e.e. meddyg teulu neu nyrs practis, yn arbennig os oes gan eich plentyn unrhyw faterion iechyd neu os ydyn nhw dros eu pwysau’n sylweddol.

Mae newidiadau syml fel gweini’r swm iawn, o’r bwyd iawn, bob dydd, hefyd yn rhoi buddion eraill fel helpu eich plant dyfu a datblygu, bod â mwy o egni yn ystod y dydd, a chanolbwyntio’n well yn yr ysgol. 

Mae amryw o ffynonellau gwybodaeth y gallwch eu darllen: 

Gwefan BDA – the Association of UK Dieticians

Bydd ein cyfrifydd dognau’n rhoi arweiniad ichi ar faint o fwyd y mae ei angen ar gyfer bob person, ar gyfer bob pryd bwyd. Mae’n syml i’w ddefnyddio gan ein bod wedi cyfrifo’r meintiau dognau arferol i chi!

Powlen ddu o reis sych yn cael ei fesur ar glorian fwyd ddigidol. Mae’r sgrin yn dweud 100g.

Haciau syml ar gyfer gweini dognau delfrydol o fwyd

A group of women sharing a meal over a large wooden table

Edrychwch ar ôl eich hunan a’ch anwyliaid drwy gael dognau iach o’r maint cywir.

Powlen wen yn llawn pasta amrwd ar glorian fwyd lliw arian, wedi’i gosod ar liain bwrdd streipiog.