Skip page header and navigation

Platiau iach a chytbwys o fwyd

Platiau iach a chytbwys o fwyd

Fel maen nhw’n ei ddweud, mae ychydig o wybodaeth yn mynd yn bell, ac mae hyn yn sicr yn wir am fyw bywyd iachach. Bydd gweini’r symiau iawn, o’r bwydydd iawn, bob pryd bwyd o fantais i chi a’ch teulu oll am sawl rheswm:     

  • Byddwch chi a’ch teulu yn byw yn iachach drwy fwyta dim ond yr hyn y mae ei angen arnoch bob dydd drwy fwyta prydau iach a chytbwys;
  • Cadw’r ceiniogau yn eich poced drwy brynu dim ond yr hyn y mae ei angen arnoch; a  
  • Lleihau gwastraff bwyd drwy brynu, paratoi, coginio a gweini dim ond yr hyn y byddwch yn ei fwyta.

Byw’n iach

Mae bwyta cydbwysedd da o fwydydd gwahanol a meintiau dognau a argymhellir yn ein helpu i fyw bywydau iach a chael digon o egni i wneud y pethau’r ydym yn eu mwynhau. 

Mae ein cyfrifydd dognau yn golygu nad oes angen dyfalu, ac yn ei gwneud yn sydyn, yn syml, ac yn hawdd ichi gyfrifo faint o fwyd y mae angen ichi ei brynu a’i baratoi.

Nid yw newid yn hawdd bob amser, ond pan wyddoch y gallai gael effaith gadarnhaol ar eich bywyd ac ar fywydau eich anwyliaid – onid yw hi’n werth rhoi cynnig arni?

Un cam ar y tro

Mae dysgu mwy am faint o fwyd o bob grŵp y dylech ei fwyta’n ddyddiol yn fan cychwyn da a gall mynd i fwrw golwg ar yr Eatwell Guide ar wefan GIG Lloegr eich helpu ar eich siwrne bwyta’n iach. Mae’r wybodaeth yn hawdd ei ddilyn ac mae’r canllaw’n cynnwys elfen ryngweithiol i’ch helpu i archwilio pob grŵp bwyd yn fanylach.

Dyma rai o’r uchafbwyntiau i roi blas rhagor ichi: 

  • Ffrwythau a llysiau – bwytewch o leiaf bum dogn o amrywiaeth o ffrwythau a llysiau bob dydd. Gall y rhain fod yn rhai ffres, wedi rhewi, sych, neu sudd.
  • Carbohydradau startshlyd – seiliwch eich prydau bwyd ar datws, bara, reis, pasta neu garbohydradau startshlyd eraill – a dewiswch rai grawn cyflawn pan fo’n bosibl. 
  • Cynnyrch llaeth neu opsiynau amgen i gynnyrch llaeth – mae bwydydd fel llaeth, caws ac iogwrt yn ffynonellau da o brotein, ac mae ei angen ar gyfer twf ac atgyweirio ein cyrff. Mae’r rhain hefyd yn ffynonellau calsiwm da, sy’n helpu i gadw ein hesgyrn yn gryf. Cadwch lygad ar lefelau braster a siwgr – darllenwch y pecyn a byddwch yn synnu faint o siwgr, yn enwedig, sydd mewn rhai bwydydd.
  • Ffynonellau eraill o brotein – ffa, codlysiau, pysgod, wyau, cig a chynnyrch sy’n efelychu cig hefyd yn ffynonellau protein, fitaminau a mwynau da. Mae bwydydd fel ffa, pys a chorbys yn opsiynau amgen da i’w cael yn hytrach na chig ac maen nhw’n cynnwys llai o fraster a mwy o ffibr a phrotein. Dewiswch ddarnau o gig heb lawer o fraster a bwytewch lai o gigoedd coch ac wedi’u prosesu. Dim ond ychydig o brotein y mae ei angen arnom bob dydd felly ewch i wirio’r symiau cywir i aelodau’ch teulu cyn ichi gynllunio eich prydau bwyd.
  • Olewau – mae’r rhain yn rhan hanfodol o’n deiet oherwydd maen nhw’n cadw ein celloedd yn iach. Mae olewau’n cynnwys symiau mawr o egni (calorïau) felly dylech eu bwyta mewn symiau bach iawn yn unig. Dewiswch olewau a marjarîn braster annirlawn.
  • Lleihau faint o halen a siwgr rydych yn ei fwyta – gwiriwch yr wybodaeth ar becynnau bwyd, dylent oll ddangos faint o halen a siwgr sydd yn y bwyd yr ydych am ei brynu a chymharwch y brandiau gwahanol – efallai y byddwch yn synnu faint o’r cynhwysion hyn sydd yn eich hoff fwydydd arferol.
  • Yfwch chwech i wyth gwydraid o ddŵr bob dydd!

Teclynnau mesur penodol

Yn ogystal â’r mesurau amgen a roddwn yn y cyfrifydd dognau, gallwch hefyd brynu pethau i wneud mesur bwyd yn hawdd a syml, fel cwpanau a llwyau mesur sy’n dod mewn meintiau penodol ar gyfer un cwpan, hanner cwpan ac ati.

Mae rhai llyfrau rysetiau’n cynnwys y mesurau maint cwpan a maint llwy hyn, ond gallwch eu defnyddio’n hawdd drwy wirio faint o fwyd penodol y mae pob teclyn mesur yn ei ddal, e.e. ‘un cwpan’ o reis sych, ac yna eu nodi mewn pensil yn erbyn eich hoff rysetiau yn eich llyfrau rysetiau – a’r tro nesaf y byddwch wrthi’n coginio, bydd y rysáit yn gyflymach fyth i’w pharatoi. Mae’r rhan fwyaf o siopau poblogaidd ar y stryd fawr ac ar-lein yn gwerthu’r teclynnau hyn am bris rhesymol.

Bydd ein cyfrifydd dognau’n rhoi arweiniad ichi ar faint o fwyd y mae ei angen ar gyfer bob person, ar gyfer bob pryd bwyd. Mae’n syml i’w ddefnyddio gan ein bod wedi cyfrifo’r meintiau dognau arferol i chi!

Powlen ddu o reis sych yn cael ei fesur ar glorian fwyd ddigidol. Mae’r sgrin yn dweud 100g.

Haciau syml ar gyfer gweini dognau delfrydol o fwyd

A group of women sharing a meal over a large wooden table

Cael pryd bwyd o’r maint iawn i blant gyda ‘phrydau o’r maint iawn i mi’.

Plentyn bach yn gwneud wyneb doniol wrth frathu byrgyr.