Skip page header and navigation

Gwneud i’ch bwyd fynd ymhellach

Gwneud i’ch bwyd fynd ymhellach

Cinio rhost gyda trimins I gyd

Storio, rhewi ac aildwymo

Os na wnaethoch chi orffen pob tamaid o’r cinio Sul, neu efallai eich bod wedi archebu gormod o’ch hoff bryd tecawê (eto), na phoener, gallwch gadw’r bwyd blasus hwn at ddiwrnod arall. 

Drwy storio, rhewi, ac aildwymo eich hoff fwyd yn gywir, gallwch wneud iddo fynd ymhellach. 

Rydym wedi casglu ein hadnoddau a chanllawiau mwyaf effeithiol oll yn un lle er mwyn i’r holl wybodaeth fod wrth law ichi gael manteisio i’r eithaf ar y bwyd rydych eisoes wedi’i brynu – ac arbed amser ac arian.

 

Canllawiau defnyddiol

Gallwch hefyd chwilio ein tudalennau bwydydd a rysetiau am ragor o tips i helpu i wneud i’ch bwyd fynd ymhellach.

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant i’ch helpu i gadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar frand eich oergell benodol chi.