Skip page header and navigation

Pam ddylwn i roi cynnig ar hyn?

Fyddwch chi byth yn bwriadu cael cyw iâr rhost gartref ond wedi penderfynu, ar y funud olaf, picied allan am ginio yn lle hynny? – a sylweddoli wedyn bod y cyw iâr heb ei goginio yn dal yn eich oergell heb ei fwyta. Neu fe wnaethoch chi goginio cig eidion neu olwythion porc a meddwl beth i’w wneud gyda’r dognau heb eu coginio ar ôl yn y pecyn nad oedd eu hangen arnoch chi? 

Ateb hawdd yw ei rewi a’i gadw ar gyfer diwrnod arall. Mae hyn yr un fath ar gyfer y rhan fwyaf o gigoedd a dofednod. Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddysgu sut i rewi a dadrewi cig a dofednod yn ddiogel.

Mae rhewi eich bwyd yn gweithredu fel botwm saib, gan roi mwy o amser i chi ei fwyta a’i arbed o’r bin. Nid yn unig y mae’n cadw bwyd yn ffres, ac yn cynnal ei ansawdd a’i flas, ond mae hefyd yn berffaith ddiogel cyn belled â’i fod yn cael ei ddadmer yn gywir. Ni fydd eich bwyd yn dirywio yn y rhewgell, ac ni all y rhan fwyaf o facteria dyfu ynddo, felly mae’n ffordd wych o brynu amser ychwanegol i chi’ch hun ac arbed bwyd blasus ar gyfer rywdro eto!

 

200k tunnell

o gig bwytadwy sy’n cael ei daflu bob blwyddyn o gartrefi’r DU.

Sut alla i wneud hyn?

Rhewi cig a dofednod

Gallwch rewi bwyd hyd at ei ddyddiad Defnyddio Erbyn, felly os cawsoch eich gwahodd am swper funud olaf a bod cwpl o ffiledi cyw iâr yn llechu yn yr oergell ac angen eu bwyta heddiw, jyst rhowch nhw yn y rhewgell i’w bwyta rywdro eto.

Rhewi cig
  1. Rhowch y cig mewn cynhwysydd aerglos neu gallwch ei gadw yn ei becyn gwreiddiol. 
  2. Cofiwch ychwanegu label sy’n nodi’r cynnwys a’r dyddiad y cafodd ei rewi i’w gwneud yn hawdd ichi gadw llygad ar yr hyn sydd gennych.
  3. Yn ddelfrydol, defnyddiwch y bwyd yn eich rhewgell o fewn 3 i 6 mis, ond mae’n werth gwirio’r pecyn am unrhyw ganllawiau rhewi sy’n benodol i’r cynnyrch hwnnw. 

Dadmer cig a dofednod

Mae llawer ohonom ychydig yn ansicr ynghylch sut i ddadmer cig a dofednod, ond mae dwy ffordd ddiogel a hawdd iawn o rewi cig: yn y microdon neu yn yr oergell.

I ddadmer cig a dofednod yn y microdon

Mae dadmer eich cig a dofednod yn y microdon yn opsiwn hawdd a chyfleus, ac mae’n caniatáu ichi gadw hyblygrwydd yn eich cynlluniau prydau bwyd. Os ydych am wneud penderfyniad funud olaf a defnyddio cig wedi’i rewi’r funud hon, mae’r microdon yn gyfaill gwerthfawr! 

  • Gwiriwch y pecyn am fanylion dadmer yn y microdon, fel canllawiau ar droi’r bwyd, ei gymysgu neu ei adael i sefyll am gyfnod, er enghraifft. Fel arall, dilynwch y camau syml hyn:
  1. Os gwnaethoch rewi eich cig/dofednod yn ei becyn gwreiddiol, tynnwch y pecyn oddi arno.
  2. Rhowch eich cig/dofednod ar blât sy’n addas i’r microdon a’i gorchuddio gyda deunydd anfetelaidd. 
  3. Defnyddiwch y microdon ar y modd ‘dadmer’ neu ar raglen dadmer cig/dofednod yn syth cyn ei goginio.
  4. Gwnewch yn siŵr fod eich cig/dofednod wedi’i ddadmer yn gyfan gwbl a dylech bob amser goginio bwyd a gafodd ei ddadmer mewn microdon yn syth bin.
I ddadmer cig a dofednod yn yr oergell
  1. Gwnewch yn siŵr bod eich oergell wedi’i gosod i 5℃ neu oerach, gan fod hyn yn helpu i gadw eich cig/dofednod (a phopeth arall yn eich oergell!) yn ddiogel ac yn fwy ffres am gyfnod hirach. 
  2. Rhowch eich cig/dofednod wedi rhewi ar silff waelod yr oergell, yn ddelfrydol 24 awr cyn bydd ei angen arnoch.
  3. Gwnewch yn siŵr eich bod yn caniatáu digon o amser i fwyd ddadmer yn iawn – cofiwch fod eitemau mawr (fel y twrci Nadolig) yn gallu cymryd hyd at bedwar diwrnod i ddadmer yn llawn yn yr oergell! 

Unwaith bydd eich bwyd wedi dadmer yn llwyr, defnyddiwch ef o fewn 24 awr.



 

Cofiwch ychwanegu pryd o fwyd o’r rhewgell i’ch cynllun prydau bwyd i sicrhau eich bod yn defnyddio’r hyn sydd gennych yn eich rhewgell.

Yr hyn y gallech ddechrau sylwi arno

Drwy ddilyn y camau syml hyn, buan y byddwch yn magu hyder wrth rewi a dadmer eich cig a’ch dofednod yn ddiogel. Bydd hyn yn rhoi llawer mwy o hyblygrwydd ichi gartref wrth drin eich bwyd, a bydd yn eich helpu i arbed eich bwyd rhag y bin. Beth allai fod yn well na chael y gwerth gorau o’ch bwyd a phob ceiniog y gwnaethoch ei wario arno?

Felly cofiwch bwyso’r botwm saib ar eich cig a dofednod drwy ei rewi a’i gadw’n ffres ar gyfer diwrnod arall.

Cofiwch fwrw golwg ar rai o’n canllawiau Sut alla i? eraill i weld sut gallwch fanteisio i’r eithaf ar eich rhewgell a tips gwych eraill.

 

Cwestiynau cyffredin

  • Sut alla i ddefnyddio fy nghig wedi’i ddadmer?

    Y newyddion da yw nad oes ots a oedd eich cig neu ddofednod yn ffres neu wedi’i rewi cyn ichi ei goginio: gallwch ddefnyddio’r bwyd dros ben i wneud pryd newydd blasus (fel cyri) a gellir rhewi hwnnw wedyn. Os ydych yn aildwymo cig neu ddofednod wedi’u coginio a gafodd ei ddadmer, gwnewch yn siŵr ei fod yn chwilboeth cyn ei fwyta a dylid ei aildwymo unwaith yn unig.

  • A fydd fy mwyd wedi’i rewi yn blasu cystal?

    Mae rhewi bwyd yn ffordd ardderchog o wneud yn siŵr fod yr holl fwyd a brynwch yn cael ei ddefnyddio, ac os gwnewch chi ddilyn ein camau syml, bydd yn blasu llawn cystal ag yr oedd yn ffres!