Skip page header and navigation

Wyau

Rhewi? Yes
Tymor Drwy gydol y flwyddyn
Storio Yn yr oergell
Ffynhonnell wych o brotein
Dau wy brown cyfan a hanner wy yn dangos y melynwy

Mae wyau yn ffynhonnell naturiol o lawer o fitaminau a mwnau ac maen nhw’n ffynhonnell ardderchog o brotein. Mae wyau’n gynhwysyn amlbwrpas, a gellir eu defnyddio mewn ystod eang o brydau melys a sawrus ac maen nhw hefyd yn wych i’w bwyta ar eu pen eu hunain. Er mwyn lleihau eich ôl-troed (effaith ar ein planed) beth am geisio dod o hyd i wyau buarth a gynhyrchir yn lleol?

Sut i'w storio

Sut i storio wyau ffres

Storiwch eich wyau yn yr oergell.

Rhewi wyau

Gellir rhewi wyau am hyd at 3 mis.

Storio wyau wedi’u coginio

Storio mewn cynhwysydd aerglos yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod.

Wyau – tips gwych

Sut i'w rewi a dadrewi

I’w rhewi: Y cwbl y mae angen ichi ei wneud yw torri’ch wyau a’u rhoi mewn cynhwysydd aerglos a’u rhewi. Gallwch wahanu’r melynwy a’r gwynnwy’n gyntaf os byddwch am eu defnyddio ar gyfer gwahanol brydau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn labelu’r cynwysyddion er mwyn ichi wybod beth sydd ynddyn nhw’n nes ymlaen.

I’w dadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd neu ddiod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’u dadrewi ar dymheredd yr ystafell. Yn ddelfrydol, dylid eu dadrewi’n gyfan gwbl yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr. Neu, gallwch ddefnyddio’r microdon ar y modd dadrewi yn syth cyn ei goginio. 

 

Bod yn wych gyda bwyd dros ben

Wyau ffres dros ben

Y ffordd orau o gadw wyau yw yn eu bocs yn yr oergell, i’w cadw’n ddiogel. Cyn belled â bod wyau wedi’u coginio drwyddynt, gellir eu bwyta ddiwrnod neu ddau ar ôl eu diwrnod ‘ar ei orau cyn’. Defnyddiwch nhw mewn omled i wneud pryd maethlon, rhad.

 

Beth am ddefnyddio wyau dros ben i wneud pwdin blasus? Rhowch basta wedi’i goginio mewn dysgl bobi wedi’i iro, curo dau wy yn dda, ychwanegu hufen dwbl a jam mefus, a’i arllwys yn gyfartal ar ben y pasta a’i bobi ar 180 gradd am 40 munud. Gallwch ei weini gyda hufen iâ neu hufen chwip os oes gennych beth dros ben.

Tips ar gyfer ei brynu

Prynwch focs o’r maint iawn ar gyfer eich anghenion. Ystyriwch a fyddwch chi’n defnyddio pob un o’r 6/12 wy mewn da bryd – mae gennych hyd at ddau ddiwrnod ar ôl y dyddiad Ar ei Orau Cyn ar wyau i’w defnyddio. Os nad ydych am eu bwyta i gyd, coginiwch nhw mewn pryd blasus o fwyd neu gallwch eu rhewi at rywdro eto.

Dognau delfrydol 

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.

Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Wyau

Daioni mewn bwyd

Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.

  • Mae’n cynnwys llawer o ribofflafin (fitamin B2) sy’n helpu i gadw’r croen, y llygaid a’r system nerfau’n iach.  
  • Mae wyau’n cynnwys fitamin A, sy’n helpu amddiffyniad naturiol eich corff yn erbyn salwch ac yn helpu’r system imiwnedd weithio’n iawn.  
  • Un o’r ffynonellau gorau o brotein naturiol mewn bwyd a gaiff ei ddefnyddio ar gyfer tyfu a thrwsio holl gelloedd a meinwe’r corff.

Stori bwyd

Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.  

Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!  

Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Wyau

Mae'r pwdin sbwng syml hwn yn eistedd ar haen flasus o'ch dewis ac mae'n berffaith ar gyfer defnyddio pob math o fwydydd melys sydd dros ben.

Dau ddogn o bwdin sbwng euraidd meddal ar blatiau gyda chwstard

Mae'r rysáit hon yn wych ar gyfer pan fyddwch chi'n dod o hyd i'r hen dafelli o fara sydd ar ôl ar ddiwedd y dorth.

Ramecinau bach o bwdin bara menyn meddal gyda mwyar ar ei ben

Efallai bod gwneud meringues yn swnio'n frawychus, ond mewn gwirionedd maen nhw'n hynod o syml. Gan ddefnyddio dau gynhwysyn yn unig, gallwch chi greu'r melysion tebyg i gymylau hyn mewn llai nag awr!

A merigue topped with halved stawberries on a green plate with fruit sauce