Skip page header and navigation

Pysgod

Rhewi? Yes
Tymor Amherthnasol
Storio Mewn cynhwysydd aerglos yn yr oergell
Mae pysgod olewog yn ffynhonnell dda o fitamin D
Tafell o eog (pysgodyn) wedi’i goginio

Gallwn brynu amrywiaeth eang iawn o bysgod, fel eog, penfras a thiwna tun yn y Deyrnas Unedig, a gellir eu coginio a’u defnyddio mewn prydau bwyd o bob math. Mae’r gwahanol ffyrdd y gallwn goginio pysgod yn cynnwys eu grilio, eu stemio a’u pobi a gellir eu cynnwys hefyd mewn rysetiau fel pei pysgod i ddefnyddio darnau dros ben. Mae’r GIG yn argymell cynnwys dau ddogn o bysgod yn ein diet, gan gynnwys un pysgodyn olewog. 

Sut i'w storio

Sut i storio pysgod ffres

Dylid lapio unrhyw bysgod ffres yn dynn neu eu storio mewn cynhwysydd aerglos ar wahân i fwydydd wedi’u coginio ac yng ngwaelod yr oergell i’w atal rhag cyffwrdd eitemau eraill neu ddiferu arnynt.

Rhewi pysgod

Gellir rhewi pysgod amrwd a physgod wedi’u coginio. Mae’n well defnyddio bwyd wedi’i rewi o fewn 3 – 6 mis.

Storio pysgod wedi’u coginio

Storio mewn cynhwysydd aerdyn yn yr oergell am 2 ddiwrnod, a’r rhewgell am 3 – 6 mis.

Pysgod – tips gwych

Sut i'w rewi a dadrewi

I’w rhewi: Gwnewch yn siŵr fod pysgod mewn cynhwysydd wedi’i selio cyn eu rhewi. Gwiriwch y pecyn ar bysgod ffres cyn eu rhewi gan fod rhai pysgod na ellir eu rhewi. 

I’w dadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd/diod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’i ddadrewi ar dymheredd yr ystafell. Yn ddelfrydol, dylech ei ddadrewi’n gyfan gwbl yn yr oergell a’i ddefnyddio o fewn 24 awr. Neu, gallwch ddefnyddio’r microdon ar y modd dadrewi yn syth cyn eu coginio/aildwymo. Dylid gwirio’r canllawiau ar becynnau bwydydd wedi’u rhewi bob amser. 

 

Bwyta’r bwyd cyfan

Mae rhai rysetiau’n defnyddio croen pysgod, sy’n mynd yn grimp pan gaiff ei goginio. Defnyddiwch bennau ac esgyrn pysgod i wneud stoc.

Bod yn wych gyda bwyd dros ben

Pysgod dros ben – ffres 

Gellir coginio, bwyta neu rewi pysgod reit hyd at y diwrnod defnyddio erbyn. Ni ellir ail-rewi rhai pysgod – gwiriwch y pecyn. Ar ôl y diwrnod defnyddio erbyn, mae’n anniogel ei fwyta, hyd yn oed os yw wedi cael ei storio’n gywir ac yn arogli’n iawn. Unwaith mae pysgod amrwd wedi’u dadrewi, dylid eu coginio o fewn 24 awr. Ar ôl eu coginio, byddant yn para cwpl o ddyddiau yn yr oergell, neu gellir eu rhewi drachefn. Dylid eu dadrewi a’u bwyta o fewn 24 awr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r cyfarwyddiadau ar y pecyn ar ôl ei brynu.

 

Pysgod dros ben – wedi’u coginio

Gellir torri pysgod wedi’u coginio’n fflochiau a’u hychwanegu at wyau wedi’u sgramblo, eu rhoi mewn seigiau reis neu wneud pate gyda nhw drwy ychwanegu mayonnaise neu gaws hufen dros ben.

Pan fyddwch yn prynu pysgod tun, peidiwch byth â chadw’r pysgod yn yr oergell mewn caniau wedi’u hagor, gan fod y metel yn gallu trosglwyddo i gynnwys y tun. Rhowch bysgod mewn cynhwysydd wedi’i selio yn hytrach, a’u rhoi yn yr oergell i’w defnyddio mewn prydau fel salad neu frechdanau.

 

Tips ar gyfer ei brynu

Prynwch becyn o’r maint iawn ar gyfer eich anghenion. Ystyriwch a fyddwch chi’n defnyddio’r pecyn cyfan cyn y dyddiad defnyddio erbyn a pha mor hir sydd gennych i ddefnyddio’r bwyd unwaith bydd y pecyn wedi’i agor. Os nad ydych am fwyta’r cwbl mewn da bryd, gallwch rewi peth at rywdro eto. Ni ellir ail-rewi rhai pysgod – gwiriwch y pecyn.

Ystyriwch gyfnewid pysgod ffres am bysgod wedi’u rhewi neu gymysgedd pei pysgod. Mae bwydydd wedi’u rhewi’n para am amser hir yn y rhewgell, gallwch ddefnyddio cymaint ag y mae ei angen arnoch, ac yn aml gallant fod yn opsiwn rhatach.

Ystyriwch fynd i’ch siop bysgod leol i leihau eich ôl-troed (effaith ar ein planed).

 

Dognau delfrydol 

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.

Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Pysgod

Daioni mewn bwyd

Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.

Stori bwyd

Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.  

Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!  

Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Pysgod

Mae'r rysáit hon yn defnyddio'r holl jariau o pesto sydd wedi hanner eu bwyta a dresin o'r oergell a'r cypyrddau. Fel gyda'r holl ryseitiau hyn gellir eu chwarae â nhw, eu newid a'u mireinio yn dibynnu ar y cynhwysion sydd gennych wrth law.

Pysgodyn gwyn wedi’i grilio gyda chymysgedd o lysiau mân wedi’u coginio

Mae'r rysáit hon yn ffordd ysbrydoledig o ddefnyddio tatws stwnsh sydd dros ben a defnyddio briwsion bara cartref.

Two crispy salmon fishcakes served with a lemon wedge

Mae'n rhaid i chi roi cynnig ar y pryd hwn! Mae mor hawdd i'w wneud, mor flasus ac yn arogli'n anhygoel! Mae'r stwnsh tyrmerig a saffrwm nid yn unig yn edrych ac yn blasu'n wych ond mae'n ddelfrydol i ddefnyddio tatws. Mae cynhyrchion wedi'u rhewi fel ffiled pysgod a sbigoglys a ddefnyddir yma yn ffordd ddefnyddiol iawn o leihau gwastraff gan mai dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch chi y byddwch chi'n ei gymryd.

Pastai bysgod masala euraidd gyda thatws ar ei phen mewn dysgl ceramig