Mae'r rysáit hon yn wych ar gyfer pan fyddwch chi'n dod o hyd i'r hen dafelli o fara sydd ar ôl ar ddiwedd y dorth.

Cynnyrch llaeth yw menyn, a gaiff ei wneud drwy wahanu llaeth cyflawn yn fraster a llaeth enwyn. Mae’n uchel mewn braster dirlawn felly dylid ei ddefnyddio’n gynnil. Mae amrywiaeth eang o gynhyrchion marjarîn wedi’u gwneud o olewau hylifol llysiau i ddewis o’u plith hefyd, ac mae llawer o fraster amlannirlawn yn y rhain.
Dylid cadw menyn neu farjarîn yn yr oergell mewn cynhwysydd neu becyn y gellir ei selio drachefn.
Gallwch rewi menyn neu farjarîn mewn talpiau bach am hyd at 3 mis.
I’w rewi: Gallwch rewi menyn neu farjarîn mewn ciwbiau bach neu mewn clawr ciwbiau rhew.
I’w ddadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd neu ddiod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’i ddadrewi ar dymheredd ystafell.
Gallwch ychwanegu ciwbiau o fenyn neu farjarîn yn syth o’r rhewgell wrth goginio. Gellir dadrewi menyn yn y microdon hefyd – defnyddiwch y modd dadrewi neu dymheredd isel.
Beth am roi cynnig ar wneud menyn â blas gyda garlleg dros ben, perlysiau ffres neu sbeisys? Unwaith y byddwch wedi’i wneud, gallwch ei rewi mewn clawr ciwbiau rhew i’w hychwanegu at beth bynnag y byddwch yn ei goginio neu i’w dadrewi pan fydd eu hangen arnoch.
Mae hen dybiau menyn a marjarîn yn gynwysyddion gwych ar gyfer rhewi bwyd dros ben!
Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.
Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.
Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!
Mae'r rysáit hon yn wych ar gyfer pan fyddwch chi'n dod o hyd i'r hen dafelli o fara sydd ar ôl ar ddiwedd y dorth.
Bwyd cysurus ar ei orau gan y cogydd arobryn Neil Forbes o Café St Honore yng Nghaeredin.
Oeri’r cacennau yn yr oergell yn hytrach na’u pobi yn y ffwrn yw'r allwedd i'r deisen ffrwythau, cnau syml ond ysblennydd hon sy'n plesio bron pawb ac sy'n wych ar gyfer eich gweini i’ch gwesteion.