Skip page header and navigation

Llaeth (heb gynnwys cynnyrch llaeth)

Rhewi? Yes
Tymor Amherthnasol
Storio Yn yr oergell
Mae’r rhan fwyaf wedi’u cyfnerthu â chalsiwm a fitaminau
Gwydraid o laeth almwn wrth ymyl llond llaw o almwnau cyfan

Mae llaeth heb gynnyrch llaeth ynddo yn dod yn ddewis cynyddol boblogaidd i bobl sy’n ffafrio dewis gwahanol i laeth buwch, boed hynny am resymau dietegol neu bersonol. Mae amrywiaeth eang o opsiynau ar gael, yn cynnwys llaeth almwn, llaeth ceirch a llaeth soia. Mae’r rhan fwyaf o opsiynau wedi’u cyfnerthu â chalsiwm a fitaminau a gellir gweld yr wybodaeth hon ar y pecyn. Gallwch ei ddefnyddio mewn rysetiau sy’n galw am laeth fel crempogau, cawl a saws gwyn/saws caws.

Sut i'w storio

Sut i storio llaeth heb gynnyrch llaeth ffres

Storiwch laeth heb gynnyrch llaeth ffres yn yr oergell. Dylid cadw llaeth hir oes, neu laeth amgylchol, yn yr oergell ar ôl ei agor. Dilynwch y canllawiau ar y pecyn bob amser.

Rhewi llaeth heb gynnyrch llaeth

Gallwch rewi’r rhan fwyaf o laeth heb gynnyrch llaeth am rhwng 3 – 6 mis.

Llaeth (heb gynnwys cynnyrch llaeth) – tips gwych

Sut i'w rewi a dadrewi

I’w rewi: Gallwch rewi symiau bach o laeth heb gynnyrch llaeth cyn ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’ os oes un arno. Dylid ei ddadrewi yn yr oergell dros nos a’i ddefnyddio o fewn 24 awr. Fel arall, gallech rewi llaeth mewn clawr ciwbiau rhew i’w rhoi yn syth yn eich diod boeth! 

I’w dadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd/diod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’i ddadrewi ar dymheredd yr ystafell. Yn ddelfrydol, dylid ei ddadrewi’n gyfan gwbl yn yr oergell a’i ddefnyddio o fewn 24 awr. Neu, gallwch ddefnyddio’r microdon ar y modd dadrewi yn syth cyn ei ddefnyddio. Cofiwch ei ysgwyd cyn ei ddefnyddio.

 

Bod yn wych gyda bwyd dros ben

Llaeth heb gynnyrch llaeth dros ben

Gallwch ychwanegu llaeth heb gynnyrch llaeth sydd gennych dros ben i smwddi gyda mefus, mango, bananas… neu pa bynnag ffrwyth yr hoffech chi! Mae sawsiau, pwdinau, sgons a chwstard yn ffyrdd gwych o ddefnyddio llaeth heb gynnyrch llaeth sydd gennych dros ben.

 

 

Tips ar gyfer ei brynu

Prynwch botel/cynhwysydd o’r maint iawn i’ch anghenion chi. Ystyriwch faint o amser sydd gennych i ddefnyddio’r cynnyrch unwaith bydd y cynhwysydd wedi’i agor. Os nad ydych am ddefnyddio’r cwbl mewn da bryd, gallwch rewi peth at rywdro eto. 

Dognau delfrydol 

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.

Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Llaeth (heb gynnwys cynnyrch llaeth)

Daioni mewn bwyd

Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.

  • Mae llawer o’r rhain hefyd wedi’u cyfnerthu â chalsiwm, sy’n helpu i reoleiddio cyfangiad cyhyrol, yn cynnwys curiad eich calon.
  • Ffynhonnell dda o fitamin B12 sy’n helpu’r corff wneud celloedd gwaed coch a chadw’r system nerfau’n iach. 

     

Stori bwyd

Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.  

Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!  

Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Llaeth (heb gynnwys cynnyrch llaeth)

Os ydych chi eisiau syniad arall ar gyfer defnyddio hufen dros ben, mae hwn yn gyflym ac yn syml. Os nad oes gennych ddigon o hufen, yna gellir defnyddio crème fraîche neu laeth cyflawn i ychwanegu at yr hyn sydd ei angen arnoch.

Dysglaid gyfoethog o flodfresych wedi’i orchuddio â saws caws hufennog

Mae'n felys a sbeislyd, mae'r cawl pwmpen hwn yn ffefryn yn yr hydref ac yn berffaith os ydych chi'n gwneud cawl am y tro cyntaf.

a vibrant creamy orange soup topped with pumpkin seeds

Lluniwyd y rysáit cawl clasurol gan ein partner, Chefs @ School, i gael disgyblion i feddwl am fwyd a sut i'w arbed rhag mynd i’r bin. A fyddech chi'n rhoi cynnig arni gyda'ch rhai bach?

Dysgl o gawl cennin a thatws hufennog