Skip page header and navigation

Llaeth

Rhewi? Yes
Tymor Drwy gydol y flwyddyn
Storio Yn yr oergell
Ffynhonnell wych o galsiwm a photasiwm
Dau lond gwydr o laeth

Mae llaeth yn gynnyrch sy’n cynnwys llawer o brotein ac mae’n gyfoeth o fwnau fel calsiwm. Gallwch brynu llaeth cyflawn, hanner sgim neu sgim. Mae’n ddiod boblogaidd ar ei ben ei hun ac fe gaiff ei ddefnyddio mewn amrywiaeth eang o rysetiau o’r sawrus i’r melys.

Sut i'w storio

Sut i storio llaeth ffres

Storiwch eich llaeth yn yr oergell. Dylid cadw llaeth hir oes yn yr oergell ar ôl ei agor.

Rhewi llaeth

Gallwch rewi llaeth am hyd at 1 mis.

Llaeth – tips gwych

Sut i'w rewi a dadrewi

I’w rewi: Gallwch rewi llaeth yn ei gynhwysydd os mai plastig ydyw, ond bydd poteli gwydr yn chwyddo ac yn torri. Mae llaeth yn ddelfrydol i’w rewi mewn symiau llai – mae poteli mwy yn cymryd amser i ddadrewi ac maen nhw’n hawlio llawer o le yn y rhewgell. Fel arall, gallech rewi llaeth mewn clawr ciwbiau rhew i’w rhoi yn syth yn eich diod boeth! 

I’w dadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd/diod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’u dadrewi ar dymheredd ystafell. Yn ddelfrydol, dylech ei ddadrewi’n gyfan gwbl yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr. Neu, gallwch ddefnyddio’r microdon ar y modd dadrewi yn syth cyn ei ddefnyddio. Cofiwch ei ysgwyd. Does dim angen ichi ddadrewi llaeth a gafodd ei rewi mewn clawr ciwbiau rhew os byddwch yn ei roi yn eich disgled neu’n ei ychwanegu at sawsiau.

Bod yn wych gyda bwyd dros ben

Dyddiadau defnyddio erbyn: Mae gan laeth weithiau ddyddiad Defnyddio Erbyn, sy’n ymwneud â diogelwch. Dylid defnyddio neu rewi llaeth sydd â dyddiad Defnyddio Erbyn cyn y dyddiad Defnyddio Erbyn. Os yw’r llaeth wedi mynd heibio ei ddyddiad Defnyddio Erbyn, peidiwch â’i ddefnyddio na’i rewi chwaith.

Dyddiadau ar ei orau cyn: Erbyn hyn, mae llaeth weithiau’n dod gyda dyddiad Ar ei Orau Cyn sy’n ymwneud ag ansawdd. Os yw llaeth wedi mynd heibio ei ddyddiad Ar ei Orau Cyn, mae’n ddiogel i’w ddefnyddio neu ei rewi, ond efallai na fydd ar ei orau.

Mae sawsiau, pwdinau, sgons a chwstard yn ffyrdd gwych o ddefnyddio llaeth dros ben. Ychwanegwch laeth dros ben i smwddi gyda mefus, mango, bananas… neu pa bynnag ffrwyth yr hoffech chi

Tips ar gyfer ei brynu

Prynwch botel/cynhwysydd o’r maint iawn i’ch anghenion chi. Ystyriwch a fyddwch chi’n ei ddefnyddio i gyd cyn y dyddiad Defnyddio Erbyn – os oes dyddiad Defnyddio Erbyn arno. Faint o amser sydd gennych i ddefnyddio’r llaeth unwaith bydd y cynhwysydd wedi’i agor? Os nad ydych am ddefnyddio’r cwbl mewn da bryd, gallwch rewi peth at rywdro eto. 

Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Llaeth

Daioni mewn bwyd

Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.

  • Mae llawer o galsiwm mewn llaeth, sy’n helpu i reoleiddio cyfangiad cyhyrol, yn cynnwys curiad eich calon.
  • Mae’n ffynhonnell protein, sy’n cael ei ddefnyddio gan y corff i adeiladu a thrwsio cyhyrau ac esgyrn. 
  • Mae hefyd yn cynnwys potasiwm, mwn sy’n helpu cyhyr y galon weithio’n iawn.

     

Stori bwyd

Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.  

Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!  

Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Llaeth

Os ydych chi eisiau syniad arall ar gyfer defnyddio hufen dros ben, mae hwn yn gyflym ac yn syml. Os nad oes gennych ddigon o hufen, yna gellir defnyddio crème fraîche neu laeth cyflawn i ychwanegu at yr hyn sydd ei angen arnoch.

Dysglaid gyfoethog o flodfresych wedi’i orchuddio â saws caws hufennog

Ffordd wych o ddefnyddio bara ychwanegol, ac mae’n haws nag y byddech yn feddwl!

Dysgl o saws bara hufennog gyda garnais

Trît melys cynnes a ffordd wych o ddefnyddio bara gwyn wedi'i sleisio sydd ychydig yn hen.

Pwdin bara menyn wedi’i bobi gyda llenwad siocled trwchus