Skip page header and navigation

Hufen

Rhewi? Yes
Tymor Drwy gydol y flwyddyn
Storio Yn yr oergell
Cynnwys fitaminau braster-hydawdd A, D, E a K
Troellen o hufen chwip ar blât bach

Cynnyrch llaeth yw hufen, a gaiff ei wneud o’r haen sy’n uwch mewn braster a gaiff ei sgimio yn ystod y broses o gynhyrchu llaeth Mae ar gael ar sawl ffurf, fel sengl, dwbl, a hufen chwipio, a gellir ei ddefnyddio ar gyfer coginio prydau melys a sawrus ill dau. Mae hufen yn ychwanegu sylwedd i seigiau fel cyri, cawl, ac ati, ac mae’n helpu i greu trwch a llyfnder yn y bwyd.

Sut i'w storio

Sut i storio llaeth ffres

Dylid storio hufen yn yr oergell.

Rhewi hufen

Gallwch rewi hufen am hyd at 3 mis.

Hufen – tips gwych

Sut i'w rewi a dadrewi

I’w rewi: Chwipiwch hufen dros ben cyn ei rewi, i osgoi iddo droi’n ronynnog pan gaiff ei ddadmer. Bydd hufen dwbl yn rhewi’n well na hufen sengl.

I’w dadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd neu ddiod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’i ddadrewi ar dymheredd yr ystafell. Yn ddelfrydol, dylid ei ddadrewi’n gyfan gwbl yn yr oergell a’i ddefnyddio o fewn 24 awr. Neu, gallwch ddefnyddio’r microdon ar y modd dadrewi yn syth cyn ei ddefnyddio. 

 

Bod yn wych gyda bwyd dros ben

Ychwanegwch hufen dros ben i’ch tatws i wneud tatws stwnsh moethus, neu gallwch ei ddefnyddio mewn sawsiau a chawl.

Tips ar gyfer ei brynu

Prynwch becyn o’r maint iawn ar gyfer eich anghenion. Ystyriwch a fyddwch chi’n defnyddio’r carton cyfan cyn y dyddiad defnyddio erbyn a pha mor hir sydd gennych i ddefnyddio’r bwyd unwaith bydd y pecyn wedi’i agor. Os nad ydych am fwyta’r cwbl mewn da bryd, gallwch rewi peth at rywdro eto. 

Dognau delfrydol 

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.

Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Hufen

Daioni mewn bwyd

Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.

  • Mae hufen yn cynnwys llawer o fraster dirlawn, a gall hwn gynyddu’r colesterol yn y gwaed. Gallai hyn godi eich risg o ddatblygu afiechyd y galon felly dylid defnyddio hufen yn gynnil.
  • Mae’n cynnwys fitaminau braster-hydawdd A, D, E a K sy’n helpu gyda’n golwg, iechyd esgyrn a gweithrediad imiwnedd.

     

Stori bwyd

Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.  

Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!  

Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Hufen

Rysáit flasus, cyflym a hawdd ar gyfer draenog y môr sy'n dda ar gyfer defnyddio hufen sengl a lemwn dros ben.

Dau ddarn o ddraenog y môr yn coginio mewn padell ffrio gyda pherlysiau

Os ydych chi eisiau syniad arall ar gyfer defnyddio hufen dros ben, mae hwn yn gyflym ac yn syml. Os nad oes gennych ddigon o hufen, yna gellir defnyddio crème fraîche neu laeth cyflawn i ychwanegu at yr hyn sydd ei angen arnoch.

Dysglaid gyfoethog o flodfresych wedi’i orchuddio â saws caws hufennog

Bwyd cysurus ar ei orau gan y cogydd arobryn Neil Forbes o Café St Honore yng Nghaeredin.

Dwy dafell o fara wedi’i dostio’n grimp gyda madarch wedi’u sleisio ar eu pennau