Skip page header and navigation

Caws (meddal)

Rhewi? No
Tymor Amherthnasol
Storio Yn yr oergell
Ffynhonnell protein
Hanner olwyn o gaws Brie gyda darn yn eistedd wrth ei ochr

Mae caws meddal fel Brie, Camembert, Gorgonzola a ffeta, wedi’i wneud o laeth ac mae ar gael mewn amrywiaeth eang o flasau. Mae’n ychwanegiad gwych i lawer o brydau bwyd ac fe gaiff ei fwynhau er ei ben ei hun hefyd, yn aml yn cael ei fwyta gyda ffrwythau. Mae caws yn cynnwys fitaminau a chalsiwm y mae eu hangen ar y corff i gadw’n iach, fodd bynnag, gall hefyd gynnwys llawer o frasterau dirlawn felly argymhellir bwyta caws mewn symiau cymedrol.

Sut i'w storio

Sut i storio caws meddal

Dylid lapio cawsiau fel Brie, Camembert a Ffeta yn dda a’u storio mewn cynhwysydd aerglos yn yr oergell. Dylid storio caws hufen a Ricotta yn eu cynhwysydd gwreiddiol wedi’i selio ynghau.

Rhewi caws meddal

Ni argymhellir ichi rewi caws meddal, gan ei fod yn debygol o’i wneud yn ddyfrllyd.

Caws (meddal) – tips gwych

Sut i'w rewi a dadrewi

Nid yw caws meddal yn rhewi’n dda, ond gellir ei ychwanegu at sawsiau sawrus. Rhowch gynnig ar wneud saws pasta gyda’ch caws meddal, ac yna ei rewi ar gyfer rywdro eto.

Bod yn wych gyda bwyd dros ben

Gellir defnyddio caws meddal dros ben i ychwanegu blas at ffritatas, omled neu datws stwnsh. Fel arall, rhowch gynnig ar wneud teisen gaws ‘hawdd’ drwy ei gymysgu â hufen dwbl a chrafion croen oren, yna’i arllwys dros fisgedi cnau sinsir wedi’u malu, ei gadael i setio yn yr oergell ac yna taenu ychydig o jam arni.

Tips ar gyfer ei brynu

Prynwch becyn o’r maint iawn ar gyfer eich anghenion. Ystyriwch a fyddwch chi’n defnyddio’r pecyn cyfan cyn y dyddiad defnyddio erbyn a pha mor hir sydd gennych i ddefnyddio’r bwyd unwaith bydd y pecyn wedi’i agor. 

Dognau delfrydol 

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.

Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Caws (meddal)

Daioni mewn bwyd

Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.

  • Mae’n cynnwys protein, sydd yn angenrheidiol ar gyfer twf a thrwsio meinwe’r corff ac mae’n arbennig o bwysig ar gyfer cyhyrau ac esgyrn iach.
  • Mae hefyd yn cynnwys calsiwm, sy’n helpu i reoleiddio cyfangiad cyhyrol, yn cynnwys curiad eich calon.
  • Gall caws fod yn uchel mewn braster dirlawn, a gall hwn gynyddu’r colesterol yn y gwaed. Gallai hyn godi eich risg o ddatblygu afiechyd y galon.

     

Stori bwyd

Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.  

Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!  

Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Caws (meddal)

Rysáit berffaith ar gyfer defnyddio unrhyw gaws dros ben.

a plate of spinace and cheese filo pastry pie

Rysáit blasus a hawdd sy'n berffaith fel cwrs cyntaf, prif gwrs neu fwyd parti.

Tarten_winwns_coch_a_chaws_gafr

Os ydych chi eisiau syniad arall ar gyfer defnyddio hufen dros ben, mae hwn yn gyflym ac yn syml. Os nad oes gennych ddigon o hufen, yna gellir defnyddio crème fraîche neu laeth cyflawn i ychwanegu at yr hyn sydd ei angen arnoch.

Dysglaid gyfoethog o flodfresych wedi’i orchuddio â saws caws hufennog