Skip page header and navigation

Caws (Caled)

Rhewi? Yes
Tymor Amherthnasol
Storio Yn yr oergell
Ffynhonnell ardderchog o fitaminau a mwnau
Lympiau o gaws oren caled

Dyma fwyd amryddawn dros ben; gellir ei ddefnyddio mewn rysetiau melys a sawrus ill dau. Mae caws caled wedi’i wneud o laeth gwartheg ac mae’n cynnwys llawer o faetholion fel calsiwm. Y caws caled mwyaf poblogaidd yw Cheddar, ac mae opsiynau eraill yn cynnwys Red Leicester a Lancashire.

Sut i'w storio

Sut i storio caws caled

Dylid storio caws caled mewn cynhwysydd aerglos yn yr oergell. Gellir lapio caws glas mewn ffoil.

Rhewi caws caled

Gellir rhewi caws caled mewn bag neu gynhwysydd wedi’i selio am hyd at 2 fis.

Caws (Caled) – tips gwych

Sut i'w rewi a dadrewi

I’w rewi:  Os byddwch yn prynu blocyn mawr o gaws caled i fanteisio i’r eithaf ar fargen yn y siop, gallwch ei gratio’n gyntaf a’i rewi i’w ddefnyddio rywdro arall. Mae hyn yn dda ar gyfer gwneud caws ar dost, ar ben ffa pob neu mewn omled.  

I’w dadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd/diod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’i ddadrewi ar dymheredd yr ystafell. Yn ddelfrydol, defnyddiwch ficrodon ar y modd dadrewi yn syth cyn ei ddefnyddio.  

 

Bwyta’r bwyd cyfan

Cadwch bennau eich caws caled (fel caws Parma), yn cynnwys ei grofen, i ychwanegu blas at gawl a sawsiau. Tynnwch ef allan pan fydd wedi gwneud ei waith.

Bod yn wych gyda bwyd dros ben

Gellir gratio hen gaws caled sydd dros ben i’w roi mewn tatws stwnsh neu ei ychwanegu at seigiau pasta neu tsili.

Tips ar gyfer ei brynu

Prynwch becyn o’r maint iawn ar gyfer eich anghenion. Ystyriwch a fyddwch chi’n defnyddio’r pecyn cyfan cyn iddo fynd yn sych neu’n llwydo. Os nad ydych am fwyta’r cwbl mewn da bryd, gallwch rewi peth at rywdro eto. 

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.

Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Caws (Caled)

Daioni mewn bwyd

Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.

  • Ffynhonnell dda o galsiwm sy’n helpu i adeiladu esgyrn a chadw dannedd yn iach.
  • Mae caws yn ffynhonnell o brotein, sydd ei angen ar y corff i adeiladu a thrwsio cyhyrau ac esgyrn a gwneud hormonau ac ensymau.
  • Mae caws yn uchel mewn braster dirlawn, a gall hwn gynyddu’r colesterol yn y gwaed. Gallai hyn godi eich risg o ddatblygu afiechyd y galon.

     

Stori bwyd

Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.  

Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!  

Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Caws (Caled)

Dyma bastai bysgod sy’n defnyddio topin crwst nad oes angen ei rolio, dim ond ei gratio!

Traybake of creamy fish pie topped with crispy mash potato

Os ydych chi eisiau syniad arall ar gyfer defnyddio hufen dros ben, mae hwn yn gyflym ac yn syml. Os nad oes gennych ddigon o hufen, yna gellir defnyddio crème fraîche neu laeth cyflawn i ychwanegu at yr hyn sydd ei angen arnoch.

Dysglaid gyfoethog o flodfresych wedi’i orchuddio â saws caws hufennog

Mae’n wych ar gyfer defnyddio pob math o gaws o'r oergell, defnyddiwch unrhyw gaws drewllyd cryf fel Gruyère, Stilton a chaws gafr.

Dwy bastai caws briwsionllyd ar blât gwyn