Skip page header and navigation

Dyna chi – rydyn ni’n siarad am Gaerffili! Tra bod gwaith adnewyddu i’r castell yn golygu mai ‘Gŵyl y Caws Bach’ fydd Gŵyl y Caws Mawr unwaith eto ar gyfer 2023, mae llawer o flasu caws blasus i edrych ymlaen ato ar 2 a 3 Medi, a digonedd o hwyl arall hefyd.

Wrth i ni feddwl am gaws, roeddem am rannu rhai awgrymiadau ar sut i wneud y gorau o’r bwyd bendigedig hwn. Sut ddylech chi ei storio? Sut gallwch chi ddefnyddio caws dros ben? A beth yw’r ryseitiau caws blasus gorau? Darllenwch ymlaen i ddarganfod!

Storio eich caws

Yn gyntaf, mae ei storio’n gywir yn sicrhau bod ein caws gwerthfawr yn para cyhyd â phosibl, felly nid oes dim yn mynd yn wastraff. Ac a oeddech chi’n gwybod y gallwch chi hyd yn oed rewi caws caled? Mae’r rheolau ar gyfer storio caws meddal ychydig yn wahanol i’r rheolau ar gyfer storio caws caled, felly gadewch i ni edrych ar bob un yn ei dro.

Storio a rhewi caws caled

Wrth sôn am ‘gaws caled’, rydym ni’n sôn am gaws fel Cheddar, Double Gloucester a Red Leicester. Dylid storio caws caled mewn cynhwysydd aerglos yn yr oergell, gan lapio caws glas mewn ffoil.

Os na fyddwch chi’n ei fwyta cyn i’r caws fynd yn hen, gallwch chi hefyd rewi caws caled mewn bag neu gynhwysydd wedi’i selio am hyd at ddau fis. Awgrym gwych yw ei gratio yn gyntaf, yn barod i’w ddefnyddio mewn ryseitiau pan fydd arnoch ei angen. Nid oes angen i chi ei ddadmer hyd yn oed os ydych chi’n ychwanegu at ryseitiau wrth goginio pryd o fwyd! Er mwyn ei ddadmer ar gyfer pethau fel brechdanau, rhowch ef yn y microdon ar y gosodiad dadmer ychydig cyn i chi ei ddefnyddio neu ei adael yn yr oergell dros nos.

Storio a rhewi caws meddal

Mae’r term ‘caws meddal’ yn cyfeirio at y mathau o gaws sy’n feddal iawn, fel Camembert, Brie a Ffeta, y dylech eu lapio a’u storio mewn cynhwysydd aerglos yn yr oergell. Mae hefyd yn cyfeirio at gaws hufen a Ricotta, y gallwch eu cadw yn eu cynwysyddion gwreiddiol, wedi’u selio ar gau. Nid yw caws meddal yn rhewi’n dda, felly mae’n well gwneud yn siŵr eich bod chi’n ei ddefnyddio i gyd cyn i’r caws fynd yn hen. Fodd bynnag, gallwch ei ychwanegu at sawsiau ac yna eu rhewi am ddiwrnod arall.

Gwneud y gorau o’ch caws

Os ydych chi’n gweld bod gennych ddarnau o gaws sydd angen ei orffen, mae yna ddefnydd ar eu cyfer – hyd yn oed y croen! Dyma rai awgrymiadau ar gyfer defnyddio darnau o gaws dros ben:

  • Ychwanegwch ddarnau o ddiwedd neu grofen caws caled, fel caws Parma, mewn cawl a sawsiau i gyfoethogi’r blas – cofiwch ei dynnu cyn ei weini!
  • Gratiwch gaws dros ben neu hen gaws caled yn stwnsh neu dros brydau pasta neu tsili
  • Ychwanegwch gaws meddal at sawsiau sawrus, fel saws pasta, neu defnyddiwch y caws meddal i wella blas ffritata omled neu datws stwnsh. Mae hefyd yn berffaith ar gyfer cacen gaws hawdd!

Fel gyda phob math o fwyd, gallwch osgoi bwyta bwyd dros ben trwy fod yn ofalus gyda maint dognau. Gall ein cyfrifydd dognau bwyd defnyddiol eich helpu i gyfrifo faint fydd arnoch ei angen wrth rannu caws ar gyfer pryd o fwyd, a fydd hefyd yn eich helpu i gyfrifo p’un ai pecyn mawr neu fach y bydd angen i chi ei brynu y tro nesaf y byddwch yn y siop.

Ein hoff ryseitiau sy’n defnyddio caws

Mae cymaint o ryseitiau gwych sy’n defnyddio caws, felly does byth angen i chi adael i’r caws fynd yn wastraff! Yn gyntaf, clasur: Caws pob. Disgrifir y pryd traddodiadol Cymreig hwn orau fel fersiwn crand o gaws ar dost, ac ni allai fod yn haws i’w wneud! Mae’r un peth yn wir am ein sglodion trwchus llwythog, ac mae’n deg dweud po fwyaf o gaws a ddefnyddiwch, gorau oll!

Mae caws yn mynd yn dda iawn mewn crwst hefyd, fel y topin ar gyfer y pei pysgod mwg blasus hwn – nid oes angen ei rolio! Mae crwst caws yn berffaith ar gyfer defnyddio pob math o gaws; bydd unrhyw gaws drewllyd cryf yn gwneud, fel Gruyère, Stilton neu gaws gafr. Ar gyfer y llenwad, rhowch gynnig ar gaws hufen neu Boursin.

Ac yn olaf, nid yw rhost dydd Sul yn rhost dydd Sul heb flodfresych caws ffordd wych o ddefnyddio unrhyw gaws ychwanegol yn eich oergell. Ac wrth gwrs, nid oes angen i’r diwrnod fod yn ddydd Sul i fwynhau’r pryd blasus hwn!

Am fwy o ysbrydoliaeth, edrychwch ar ein Ryseitiau. Beth am rannu eich hoff ryseitiau caws gyda ni yn Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff? Defnyddiwch yr hashnod #HoffiBwydCasauGwastraff neu #LoveFoodHateWaste a dangoswch eich creadigaethau ar Facebook, Twitter ac Instagram!

Rhannu’r post blog hwn

Tags