Skip page header and navigation

Mae’n ddiwedd haf, ac mae hynny’n golygu ei bod yn dymor cynhaeaf! Mae cynnyrch ffres toreithiog yn cyrraedd o’r caeau a’r perllannau, felly dyma ni’n dychwelyd y mis yma gyda syniadau blasus ar gyfer cynllunio prydau bwyd mis Medi i fanteisio i’r eithaf ar fwydydd ffres a lleol. Mae hyn nid yn unig yn llawer gwell i’r blaned, ond mae’n blasu’n well hefyd –felly rydych chi’n ennill bob ffordd! Darllenwch weddill y post am yr holl ysbrydoliaeth y mae ei hangen arnoch i goginio gyda chynhwysion ffres lleol y mis yma.

Ffrwythau a llysiau i’w mwynhau ym mis Medi 

Cyfeiriwn at ganllaw’r Vegetarian Society, sydd bob amser yn ddefnyddiol iawn, i weld pa ffrwythau a llysiau y gallwn edrych ymlaen at goginio gyda nhw ym mis Medi: 

Planhigyn wy, Betys, Mwyar Duon, Brocoli, Sbrowts, Pwmpen Cnau Menyn, Moron, Blodfresych, Seleri, Courgette, Sicori, Tsilis, Ciwcymbr, Eirin Damson, Garlleg, Cêl, Colrabi, Cennin, Letys, Mangetout, Maro, Winwns, Pannas, Gellyg, Pys, Pupurau, Eirin, Tatws, Pwmpen, Radis, Mafon, Bresych Coch, Riwbob, Berwr, Ffa Dringo, Cyrn Carw’r Môr, Suran, Sbigoglys, Bresych Deiliog, Shibwns, Mefus, Pwmpen yr Haf, India-corn, Bresych Hisbi, Betys Arian, Tomatos, Maip, Berwr y Dŵr, Madarch y Goedwig, Bresych Gwyn.

Manteisiwch i’r eithaf ar y wledd flasus hon o ffrwythau a llysiau gyda’r syniadau’r ydym yn eu rhannu isod, oll wedi’u seilio ar rai o’n hoff gynhwysion ar y rhestr. Cofiwch, gallwch ddod o hyd i fwy fyth o syniadau yn ein canllawiau misol eraill: 

Blodfresych

Os roeddech chi’n credu mai ei foddi mewn saws caws yw unig bwrpas blodfresych, mae’n bryd i chi ailystyried! Mae cymaint o bethau blasus y gallwch eu gwneud gyda blodfresych na fyddwch chi byth yn brin o ffyrdd o’i ddefnyddio. Os oes gennych datws i’w defnyddio hefyd, beth am roi cynnig ar wneud gratin blodfresych a thatws? Mae’r lletemau blodfresych rhost a dresin tahini hyn yn gydymaith delfrydol i gig rhost neu gig o’r barbeciw.

Tsilis

O’r rhai mwyn i’r rhai tanbaid, tanllyd, mae tsilis yn rhoi chydig o wres i bob math o wahanol brydau bwyd, boed nhw ar y rhestr cynhwysion ar rysáit ai peidio. Ynghyd â seigiau sbeislyd amlwg fel cyri a chilli con carne, gallwch ddefnyddio sleisys o tsili ffres i roi cic i unrhyw saws pasta –hyd yn oed Bolognese! Gan ddefnyddio tsili coch ffres, mae ein rysáit draenog y môr wedi’i ffrio mewn padell, tatws hufennog, shibwns a tsili yn opsiwn tanllyd arall.

Mangetout

Mis Medi yw’r mis olaf i fwynhau mangetout ffres – enw ffansi ar bys yn eu coden. Gallwch eu stemio neu eu berwi fel saig flasus i gyd-fynd â phryd bwyd, neu eu hychwanegu i’ch hoff gawl, seigiau nwdls a thro-ffrio, fel ein tro-ffrio briwgig cyflym. Gallwch eu bwyta’n amrwd hefyd, ac maen nhw’n rhoi crensh ychwanegol i salad hafaidd.

Gellyg

Mae gellygen aeddfed, felys yn drît blasus i’w mwynhau ar ei phen ei hun yr adeg hon o’r flwyddyn, ond os byddwch yn sylwi bod gennych ambell ddarn o ffrwyth sydd angen eu defnyddio cyn meddalu, mae digonedd o opsiynau blasus ar eu cyfer. Mae ein jam ffrwythau cyflym yn ffordd wych o ddefnyddio gellyg, afalau neu unrhyw ffrwythau sydd angen eu bwyta’n fuan. Os oes gennych fag mawr o ellyg na allwch eu bwyta, gallech eu torri’n ddarnau, eu rhoi i ffrwtian gydag ychydig o siwgr, dŵr a sinamon, i greu compot ffrwythau sbeislyd, a gallwch weini hwnnw gyda granola ac iogwrt, ei ychwanegu at uwd, neu ei fwyta fel y mae gyda llwy! Cofiwch fod tafelli gellyg yn mynd yn dda gyda chaws – perffaith os byddwch yn cynnal parti swper.

Berwr y Dŵr

Mae berwr y dŵr yn adnabyddus am ei rinweddau iachus, ac mae ar gael bron gydol y flwyddyn, ond mae ei flas puprog mwyn yn ei wneud yn ychwanegiad gwych i’ch salad wrth i’r haf ddirwyn i ben. Mae brechdanau wy a berwr y gerddi’n ddelfrydol ar gyfer eich picnic diwedd haf, a gallwch ei roi mewn smwddi, yn union fel cêl. Mae berwr y dŵr yn gwneud garnais da hefyd, fel yn ein tarten winwns cochion a chaws gafr gyda pesto.

Ewch draw i’n banc rysetiau a theipio eich cynhwysion ffres i mewn i gael mwy o ysbrydoliaeth ar gyfer prydau bwyd mis Medi, a dewch yn ôl y mis nesaf am syniadau ar gyfer coginio gyda’r cynnyrch ffres sydd ar ei orau ym mis Hydref.

 

Rhannu’r post blog hwn