Skip page header and navigation

Mae Noson Tân Gwyllt yn adeg pan na fydd unrhyw un ohonom yn meindio lapio yn ein dillad cynnes a mynd allan i’r tywydd oer – ac mae’n well fyth gyda bwydydd cynhesol i’n cysuro pan fyddwn ni’n cyrraedd adref! Yn ein blog heddiw, rydym am rannu rhai o’n syniadau gorau am rysetiau ar gyfer gwledd gynhesol ar Noson Tân Gwyllt, llawer ohonyn nhw’n defnyddio bwyd dros ben neu fwydydd sydd angen cael eu defnyddio. Dyma sut i wneud y 5ed o Dachwedd eleni yn un i’w gofio i’ch gwesteion…

1. Canapés Olwyn Gatrin 

Wedi’i ysbrydoli gan gynnwrf yr Olwyn Gatrin, dyma ddechrau gwych i’ch gwledd Noson Tân Gwyllt, canapés siâp olwyn wedi’u gwneud o gaws meddal ac eog mwg, am flas myglyd i ategu coelcerthi’r noson. Mae’r rhain yn ffordd wych o ddefnyddio twb o gaws meddal sy’n nesáu at ei ddiwrnod defnyddio erbyn. Maen nhw’n siŵr o ryfeddu eich gwesteion!

2. Tatws trwy’u crwyn o’r goelcerth 

Beth allai fod yn well ar noswaith oer ym mis Tachwedd na thatws trwy’u crwyn wedi’u pobi ym marwor y goelcerth? Maen nhw’n wych ar gyfer defnyddio bag mawr o datws pobi, hefyd. Y cwbl y mae angen ichi ei wneud yw eu sesno a’u lapio mewn ffoil, eu claddu yn y glo eirias gan ddefnyddio gefeiliau a’u troi’n aml am y 40 munud nesaf, neu nes byddan nhw wedi coginio. Gallwch eu gweini gyda menyn, caws wedi’i gratio neu unrhyw dopin arall yn ôl eich dewis!

3. Tsili sbeislyd 

Dyma ddewis clasurol o bryd gaeafol cynhesol, mae chilli con carne yn siŵr o roi ychydig o dân yn eich Noson Tân Gwyllt – ac mae’n cyd-fynd yn berffaith â thatws trwy’u crwyn o’r goelcerth! Y peth gorau am bryd o tsili yw mor hawdd yw gwneud swp mawr ohono i weddu i’r nifer o westeion sydd gennych, a gallwch daflu unrhyw lysiau sydd angen eu bwyta o’r oergell – gallwch ychwanegu unrhyw beth! Wrth gwrs, gallwch wneud un heb gig drwy gyfnewid y mins cig eidion am ffa duon. Os gwnaethoch chi anghofio’r sglodion tortila, rhowch gynnig ar dorri bara tortila crwn yn drionglau a’u pobi am ychydig funudau yn y ffwrn. Ac na phoener os nad ydych chi’n defnyddio’r cwbl; gallwch ei rewi fesul dogn a chael pryd blasus rywdro eto.

4. Selsig a stwnsh 

Nid y goelcerth mo’r unig bentwr i’w fwynhau ar Noson Tân Gwyllt! Mae pentwr o datws stwnsh a selsig yn siŵr o blesio pawb, ac yn hawdd i’w baratoi’n sydyn pan fyddwch wedi gorffen gwylio’r tân gwyllt. Mae tatws stwnsh yn ffordd wych o ddefnyddio tatws hŷn, a gallwch hyd yn oed arbed amser trwy adael y crwyn arnynt ac elwa o faetholion ychwanegol –does dim byd yn wastraff felly. Mae digonedd o selsig llysieuol a figan ar gael y dyddiau hyn, felly mae’r clasur hwn yn ddewis hawdd ei addasu i westeion sy’n dilyn deiet planhigion hefyd.

5. Teisen sinsir 

Dyma deisen a gaiff ei bwyta’n draddodiadol ar Noson Tân Gwyllt. Mae teisen sinsir yn un feddal, ludiog, gydag ychydig o sbeis, ac mae’n gwneud pwdin blasus. Yn ddelfrydol, dylid gwneud y deisen hon wythnos ymlaen llaw, gan ei bod yn mynd yn fwy gludiog a meddal os caiff ei gadael am ychydig ddyddiau cyn ei bwyta. Gan ei bod yn para mor dda, does dim problem os bydd gennych beth dros ben – gallwch fwynhau sleisen gyda disgled o de am ddyddiau eto!

6. Afalau taffi 

Gyda thymor afalau’n dod i’w derfyn, mae afalau taffi’n gwneud trît tymhorol delfrydol i’w weini yn eich gwledd Noson Tân Gwyllt. Nid yn unig y maen nhw’n blasu’n fendigedig, ac yn cael y plant i fwyta ffrwythau, maen nhw hefyd yn ffordd wych o ddefnyddio’ch pentwr afalau hydrefol. Mae llawer o hwyl i’w gael wrth eu paratoi hefyd, felly beth am gael y teulu oll i helpu?

7. Pwmpenni 

Yn olaf, os oes gennych bwmpenni o amgylch y tŷ ar ôl Calan Gaeaf, mae Noson Tân Gwyllt yn gyfle perffaith i’w gweini fel swper cynhesol. Ewch i fwrw golwg ar ein chwe ffordd wych o fwyta eich pwmpenni Calan Gaeaf a gwneud yn siŵr nad ydyn nhw’n mynd yn wastraff!

Rhannu’r post blog hwn