Skip page header and navigation

1. Fe wna i… gynllunio fy mhrydau bwyd

Un o’r addunedau gorau y gallwch ei wneud er mwyn lleihau gwastraff bwyd yw mynd i’r arfer o gynllunio prydau bwyd. Mae hyn yn eich helpu i gynllunio’r bwyd y mae angen ichi ei brynu, ynghyd â’ch galluogi i wneud i’ch bwyd fynd ymhellach – fel cynnwys digon i wneud dogn arall ar gyfer cinio drannoeth. I fod ar eu mwyaf effeithiol, dylai cynlluniau prydau bwyd ystyried beth y mae angen ei ddefnyddio o’r oergell, y rhewgell a’r cypyrddau, ynghyd â meddwl am bwy sydd gartref ac allan bob nos. I ddechrau arni, ewch i ddarllen ein canllaw sut i greu cynlluniau prydau bwyd hyblyg a syml.



 

2. Fe wna i… feddwl cyn siopa

Mae’n siŵr o fod wedi digwydd i bob un ohonom: cyrraedd yr archfarchnad a methu’n glir a chofio a oes winwns gartref ai peidio, neu ydyn ni wedi cyrraedd y dafell olaf o gaws, a phrynu mwy ‘jyst rhag ofn’. Dyna yw rysáit ar gyfer gwastraffu bwyd, ond mae’n broblem hawdd ei datrys! Pan fyddwch wedi gwneud cynllun prydau bwyd, lluniwch restr siopa gyda chynllunydd dognau i’ch helpu i gyfrifo faint o bob cynhwysyn y bydd ei angen arnoch. Felly, fyddwch chi ddim yn prynu gormod, na dim digon, o fwyd. Tra byddwch wrthi’n paratoi, cofiwch edrych yn eich oergell, rhewgell a chypyrddau cyn cynllunio eich prydau bwyd a lluniwch eich rhestr siopa gan ystyried yr hyn sydd dros ben yn eich oergell, rhewgell a chypyrddau i osgoi prynu dwbl o’r un cynhwysion.



 

3. Fe wna i… wneud mwy o goginio mewn swp

Mae coginio mewn swp yn arf gref yn y frwydr yn erbyn gwastraff bwyd, ac mae’n arbed amser ac arian hefyd – gwych! Mae coginio eich pryd bwyd ar raddfa fwy yn golygu y gallwch fanteisio ar ‘enillion maint’ drwy ddefnyddio pecynnau mwy o gynhwysion, sy’n fwy cost-effeithiol na rhai bach. Bydd gennych nifer o ddognau y gallwch eu rhewi i wneud prydau hawdd rywdro eto, felly aiff dim byd yn wastraff. Meddyliwch amdanynt fel prydau parod cartref iachus y gallwch eu haildwymo’n gyflym pan fyddwch yn cyrraedd adref o’r gwaith yn flinedig. 

4. Fe wna i… ddefnyddio mwy ar y rhewgell

Gan ein bod yn trafod y rhewgell, cofiwch mai prin yw’r pethau na ellir eu rhewi, felly mae’n ddewis ardderchog ar gyfer storio unrhyw beth na fyddwch yn gallu ei fwyta cyn iddo fynd yn hen. Gallwch rewi bwyd hyd at ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’, ac mae hynny’n cynnwys cynnyrch llaeth! Gallwch hyd yn oed storio bara wedi’i dafellu yn y rhewgell a’i roi yn y tostiwr yn syth o’r rhewgell – ffordd wych o wneud yn siŵr na fyddwch yn gadael i’ch bara lwydo. Ewch i ddarllen ein canllaw bwydydd na wyddoch y gallech eu rhewi. 

5. Fe wna i… ddefnyddio pob tamaid

Ffordd arall o leihau gwastraff bwyd ac arbed arian yw defnyddio pob tamaid bwytadwy o fwyd – hyd yn oed y darnau y byddech yn eu taflu fel arfer. Er enghraifft, gellir torri dail blodfresych a’u cynnwys mewn blodfresych saws caws, a gellir mudferwi darnau oddi ar bennau llysiau – fel topiau moron a chrwyn tatws – mewn dŵr i wneud stoc llysiau. Hefyd, does dim angen plicio llysiau fel moron a thatws, sy’n newyddion da i ni gogyddion diog! 

6. Fe wna i… roi’r bowlen ffrwythau yn yr oergell

Wyddoch chi fod y rhan fwyaf o ffrwythau’n para’n hirach yn yr oergell? Ac eithrio bananas a phinafalau heb eu torri, bydd eich ffrwythau’n cadw’n fwy ffres yn hirach os symudwch eich powlen ffrwythau i’r oergell a’i chadw dan 5 gradd Celsius. Gallwch ddysgu mwy am y bwydydd rydych wedi bod yn eu storio yn y lle anghywir yma.

 

7. Fe wna i… wneud i fy mhrydau bwyd fynd ymhellach

Mae bwydydd dros ben yn llwyddiant mewn sawl ffordd – maen nhw’n atal bwyd rhag mynd yn wastraff, maen nhw’n arbed amser, ac maen nhw’n arbed arian! P’un ai dameidiau blasus o gig o’r cinio rhost ddydd Sul, neu gwpl o sleisys o’ch pizza o neithiwr ydyn nhw, mae llawer i’w hoffi am fwyd dros ben, ac mae’n hawdd eu troi’n bryd o fwyd drannoeth. Ewch draw i’n rhestr chwarae ar YouTube i gael tips gwych ar wneud i’ch bwyd fynd ymhellach. 

Os hoffech gael mwy fyth o ysbrydoliaeth ar daclo gwastraff bwyd yn y flwyddyn sydd i ddod, ewch draw i ddarllen ein tudalen arferion bwyd da. Blwyddyn Newydd Dda! 

Rhannu’r post blog hwn