Skip page header and navigation

Cawsom rannu newyddion mawr draw ar ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol: mae mwy a mwy o fanwerthwyr yn ymuno â’r frwydr yn erbyn gwastraff bwyd drwy ddileu’r dyddiadau ‘Ar ei Orau Cyn’ oddi ar lawer o’u cynnyrch ffres! Y mathau o fwydydd sydd dan sylw yw ffrwythau a llysiau ffres nad ydynt wedi cael eu paratoi – felly nid pethau fel potiau salad ffrwythau, ffyn moron neu fagiau salad o’r oergell.



Mae’r rhan fwyaf o archfarchnadoedd mawr yn gwneud y newid pwysig hwn i helpu i atal bwyd da rhag cael ei daflu i’r bin. Maen nhw wedi gwneud hyn yn seiliedig ar argymhellion o’n gwaith ymchwil ni, felly rydyn ni wedi llunio’r post blog hwn i ateb eich cwestiynau am y newyddion cyffrous hwn. Dewch inni ddechrau gyda’r hanfodion sylfaenol…

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng dyddiad Defnyddio Erbyn a dyddiad Ar ei Orau Cyn?

Mae’n rhaid i ffrwythau a llysiau a baratowyd ymlaen llaw, fel y potiau salad a ffyn moron y gwnaethom sôn amdanynt ynghynt, gael dyddiad Defnyddio Erbyn (Use By), ond nid oes angen hynny ar gynnyrch ffres heb ei dorri – a does dim gorfodaeth yn ôl y gyfraith i roi dyddiad Ar ei Orau Cyn (Best Before) arno, chwaith. Mae hynny oherwydd mai ymwneud â diogelwch mae dyddiadau Defnyddio Erbyn, ac mae dyddiadau Ar ei Orau Cyn yn ymwneud ag ansawdd. Ni ddylid bwyta bwyd y tu hwnt i’w ddyddiad Defnyddio Erbyn, ond gallwch fwyta bwyd y tu hwnt i ddyddiad Ar ei Orau Cyn. Am fwy o wybodaeth am labeli dyddiadau, ewch i fwrw golwg ar ein canllaw Sut alla i?.

Beth mae’r ymchwil yn ei ddweud? 

Dangosodd ein gwaith ymchwil arloesol bod dileu’r dyddiadau Ar ei Orau Cyn yn cynyddu’r amser y mae pobl yn dweud eu y byddant yn bwyta cynnyrch ffres. Hynny yw, mae pobl yn gweithio allan drostynt eu hunain a yw rhywbeth yn dal i fod yn dda i’w fwyta, yn hytrach na gadael i’r label dyddiad ddylanwadu arnynt. Dewch inni fwrw cipolwg ar bob un o’n hargymhellion.

Dileu’r labeli dyddiadau

Pan gyflwynwyd ffotograff o afal wedi crebachu ryw fymryn, dywedodd 46% o bobl y buasent yn ei roi yn y bin os oedd dyddiad arno, o’i gymharu â dim ond 7% os nad oedd dyddiad arno. Yn wir, pan aethom ati i edrych ar effaith dileu’r dyddiadau ar bump o eitemau o gynnyrch ffres, fe welsom leihad sylweddol yn y gwastraff bwyd o’r cartref ar gyfer pob un ohonynt – heblaw bananas (ac nid oes label dyddiad arnynt fel arfer beth bynnag). Felly, dyma argymell dileu labeli dyddiadau oddi ar ffrwythau a llysiau ffres, heb eu torri, er mwyn lleihau gwastraff bwyd.

Gwerthu’n rhydd

Gyda’r ymchwil hwn yn gefn i’n hargymhellion, rydym hefyd wedi argymell i fanwerthwyr werthu eu cynnyrch ffres yn rhydd, yn hytrach na’i werthu mewn pecynnau, gan fod hyn yn golygu y gall pobl brynu dim ond yr hyn y mae ei angen arnyn nhw. Mae hynna’n ei gwneud yn llawer mwy tebygol y byddant yn gallu bwyta’r hyn y gwnaethant ei brynu cyn iddo fynd yn hen. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer aelwydydd llai, a phobl sy’n byw ar eu pennau eu hunain sy’n llai tebygol, o’i gymharu â theulu mawr, o fynd drwy, dyweder, kilo o datws neu foron cyn iddyn nhw fynd yn hen. Y fantais ychwanegol yw bod hyn hefyd yn golygu llai o ddeunydd pacio plastig, ac mae’r ymchwil yn dangos nad yw hwnnw’n gwneud prin, neu unrhyw, wahaniaeth i hyd oes cynnyrch ffres!

Ffres yn yr oergell

Yn olaf, fe wnaethom argymell i fanwerthwyr wneud mwy ymgysylltu â chwsmeriaid ar y ffyrdd gorau o storio bwyd gartref i wneud iddo gadw’n hirach – yn arbennig, pwysleisio’r ffaith bod y rhan fwyaf o ffrwythau a llysiau ffres (heblaw bananas, winwns a phinafalau cyfan), yn cadw’n fwy ffres am gyfnod hirach os caiff ei gadw yn yr oergell yn oerach na 5°C. Roedd afalau, er enghraifft, yn dangos yr arwyddion cyntaf o ddirywio dri diwrnod ar ôl y dyddiad Ar ei Orau Cyn wrth gael eu storio ar dymheredd ystafell, ond roedd hynny’n cynyddu gan 74 diwrnod – cyfnod anhygoel – o gael eu cadw yn yr oergell. Hwyl fawr, bowlen ffrwythau!

Faint o fwyd i gael ei achub?

Gyda’i gilydd, mae gan yr argymhellion hyn botensial enfawr. Amcangyfrifwn fod y teulu cyfartalog yn y Deyrnas Unedig yn taflu gwerth £730 o fwyd bob blwyddyn, swm anferthol, felly mae’r arbedion posibl i chi a’ch teulu yn enfawr. Ond gall y gallu i brynu’r hyn y mae ei angen arnoch – ynghyd â thynnu dyddiadau Ar ei Orau Cyn ar gynnyrch ffres heb ei dorri – leihau gwastraff bwyd o’r cartref A phlastig yn sylweddol. Yn ôl ein cyfrifiadau, gallai’r mesurau rydym wedi’u hargymell atal 100,000 o dunelli o wastraff bwyd ac oddeutu 10,300 o dunelli o blastig.

Ond oni fydd hyn yn creu mwy o wastraff bwyd – bydd ffrwythau a llysiau’n sefyll ar silffoedd yr archfarchnad yn hirach gan adael llai o amser i ni ei ddefnyddio gartref?

Y peth gwych am ddileu’r labeli dyddiad yw y gallwn wneud ein penderfyniadau ein hunain ynghylch a yw cynnyrch ffres yn dda i’w fwyta o hyd – neu beidio. Rydym eisoes yn chwilota’r silff am y melon neu afocado aeddfed perffaith, felly rydym yn gwybod beth i chwilio amdano wrth wneud penderfyniadau am ein cynnyrch ffres. Rydym wedi dangos bod cynnyrch ffres yn para’n llawer y tu hwnt i’r dyddiad Ar ei Orau Cyn, a phan fo’n cael ei brynu yn y symiau iawn a’i storio’n gywir – h.y. yn yr oergell, i’r rhan fwyaf o ffrwythau a llysiau – does dim angen iddo gael ei daflu i’r bin.

Sut fydd y siopau’n gwybod pa gynnyrch ffres sy’n fwyaf ffres?

Na phoener – bydd siopau’n parhau i ddefnyddio codau dyddiad ar gyfer cylchdroi eu stoc! Dim ond y labeli a welwch chi fel cwsmer fydd yn cael eu dileu. Bydd siopau’n parhau i ddefnyddio labeli melyn ar gyfer eitemau wedi’u gostwng, hefyd – felly os ydych chi’n un sy’n chwilio am fargen yn aml, gallwch fod yn sicr nad yw’r labeli melyn ar fin diflannu.

Fydd hyn yn golygu bod llai yn mynd i elusennau a banciau bwyd?

Na fydd, wir! A dweud y gwir, mae’n golygu y byddant yn cael mwy nag o’r blaen, gan fod rhai yn teimlo na allent dderbyn bwyd oedd wedi mynd heibio ei ddyddiad Ar ei Orau Cyn. 

Gallwn ddweud gyda sicrwydd ein bod yn falch iawn o weld manwerthwyr yn symud i’r cyfeiriad cywir gyda labeli dyddiadau ac yn rhoi’r cyfle i ni oll ddefnyddio ein doethineb ein hunain ynghylch yr hyn rydyn ni’n fodlon ei fwyta. Mae taclo gwastraff bwyd a deunyddiau pacio plastig diangen ar yr un pryd yn teimlo fel clamp o lwyddiant – gobeithio y bydd mwy fyth o siopau’n gwneud yr un fath yn fuan iawn! 

 

Rhannu’r post blog hwn