Chwilio Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
- Type: Bwydydd
Mae bara’n un o hanfodion bwyd y Deyrnas Unedig, ac mae i’w gael wedi’i bobi’n ffres mewn siopau bara lleol ac ar amryw ffurf mewn archfarchnadoedd hefyd. Mae llawer o amrywiaethau i ddewis o’u plith, fel bara gwyn, bara grawn amrywiol a bara grawn cyflawn.
- Type: BwydyddFiganLlysieuolNadolig
Tatws yw un o’r llysiau mwyaf amlbwrpas – gallwn eu defnyddio mewn amryw o ffyrdd, fel eu stemio, eu pobi a’u stwnshio. Mae llawer o amrywiaethau sy’n rhoi gwahanol flas hefyd, o arlliw o flas cnau i rai â naws mwy menynaidd.
- Type: BwydyddFiganLlysieuolNadolig
Moron crensiog, melys, blasus yw un o’r llysiau mwyaf hyblyg y gallwn eu defnyddio mewn amrywiaeth eang o ffyrdd. Gallwn eu bwyta’n amrwd, eu gratio mewn salad, a phobi teisen foron.
- Type: BwydyddFiganLlysieuolNadolig
Mae pannas yn rhan o deulu’r Apiaceae sy’n cynnwys seleri, persli a ffenigl. Gwreiddlysieuyn poblogaidd a gaiff ei ddefnyddio gydol y flwyddyn, gellir ei weini wedi’i rostio, wedi’i stemio, neu wedi’i stwnsio, yn ogystal â bod yn ychwanegiad gwych i gawl neu stiw.
- Type: BwydyddNadolig
Ffefryn cadarn yn llawer o gartrefi’r Deyrnas Unedig, gellir coginio cyw iâr mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol – wedi’i rostio ar gyfer cinio dydd Sul, wedi’i ffrio mewn padell, neu ar y barbeciw. Gellir coginio twrci mewn ffyrdd tebyg, ac mae ar gael drwy gydol y flwyddyn.