Skip page header and navigation

Bara

Rhewi? Yes
Tymor Amherthnasol
Storio Mewn cwpwrdd neu fin bara
Ffynhonnell dda o galsiwm
Torth o fara sleis

Mae bara’n un o hanfodion bwyd y Deyrnas Unedig, ac mae i’w gael wedi’i bobi’n ffres mewn siopau bara lleol ac ar amrywiaeth o ffurfiau mewn archfarchnadoedd hefyd. Mae llawer o amrywiaethau i ddewis o’u plith, fel bara gwyn, bara grawn amrywiol a bara grawn cyflawn. Mae bara grawn cyflawn yn cynnwys mwy o ffibr sy’n helpu i gadw ein system treulio’n iach.

Sut i'w storio

Sut i storio bara ffres

Cadwch fara a rholiau bara mewn lle gweddol oer, tywyll a sych, fel bin bara neu gwpwrdd, yn eu pecynnau gwreiddiol. (Glanhewch eich bin neu gwpwrdd bara’n rheolaidd i gael gwared ar sborau llwydni).

Rhewi bara

Gellir rhewi bara mewn bag neu gynhwysydd wedi’i selio am hyd at 3 mis.

Bara – tips gwych

Sut i'w rewi a dadrewi

I’w rewi: Gallwch rewi pob math o fara. Rhowch eich bara yn y rhewgell naill ai yn ei becyn gwreiddiol neu gallech ei roi mewn bag neu gynhwysydd wedi’i selio. Am fwy o hyblygrwydd wrth ddefnyddio’ch bara, gallwch ei rewi wedi’i dafellu, fel mai dim ond yr hyn y mae ei angen arnoch y mae’n rhaid ichi ei dynnu o’r rhewgell, gan gadw’r gweddill wedi’i rewi ar gyfer rywdro eto. I’w gwneud yn haws i wahanu tafelli bara ar ôl eu rhewi, tapiwch eich torth yn ysgafn ar gownter y gegin cyn ei rhoi yn y rhewgell. 

I’w ddadrewi: Gallwch ddadrewi torth o fara dros nos ar gownter eich cegin. Y ffordd orau o osgoi taflu bara i’r bin yw tostio eich tafelli bara yn syth o’r rhewgell neu ddefnyddio microdon ar y modd dadrewi. Gallwch hefyd wneud brechdanau ar gyfer amser cinio yn y bore gan ddefnyddio tafelli o fara wedi rhewi. Bydd wedi dadmer erbyn amser cinio, sy’n cadw eich brechdan yn ffres iawn.

 

Bwyta’r bwyd cyfan

Mae tafelli o bob pen i dorth o fara’n gwneud gwaelod pizza bach delfrydol. Gallwch baratoi byrbryd cyflym a rhad gan roi ychydig o gaws a thopins ar y tafelli pen mwy trwchus hyn. Sefwch, filwyr! Gallwch ddefnyddio’r pennau i wneud soldiwrs mwy gwydn i gyd-fynd ag wy wedi’i ferwi.

 

Bod yn wych gyda bwyd dros ben

Mae bara dros ben yn wych ar gyfer gwneud briwsion bara: gallwch eu ffrio mewn olew olewydd neu fenyn i’w defnyddio fel topin crensiog ar basta pob a chrymbl ffrwythau neu eu defnyddio i wneud stwffin ac i dewychu sawsiau. Rhewch mewn cynhwysydd aerdyn i’w defnyddio yn ôl y galw, yn syth o’r rhewgell, i roi ar ben seigiau cynhesol fel macaroni saws caws. Defnyddiwch ddarnau o hen fara mewn salad, fel panzanella, a thafelli o hen dorth i wneud pwdin bara menyn. Wyddoch chi y gallwch wneud brechdanau gyda bara wedi’i rewi? Bydd y brechdanau wedi dadmer erbyn amser cinio, gan gadw eu cynnwys yn oer.

Tips ar gyfer ei brynu

Prynwch becyn o’r maint iawn ar gyfer eich anghenion. Ystyriwch a fyddwch chi’n defnyddio’r pecyn cyfan cyn iddo fynd yn hen. Os nad ydych am fwyta’r cwbl mewn da bryd, gallwch rewi peth at rywdro eto. Ystyriwch alw heibio eich siop fara leol i leihau eich ôl-troed (effaith ar y blaned).

Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Bara

Daioni mewn bwyd

Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.

  • Mae’n cynnwys amrywiaeth eang o fitaminau a mwnau.
  • Ffynhonnell o fitaminau grŵp B thiamin (B1), nïasin (B3), sy’n bwysig ar gyfer rhyddhau egni o fwyd a chynnal croen, llygaid ac ewinedd iach.
  • Mae bara wedi’i gyfnerthu â chalsiwm fel arfer, ac mae angen hwnnw arnom ni i gynnal esgyrn a dannedd iach.

     

Stori bwyd

Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.  

Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!  

Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Bara

Mae'r rysáit hon yn wych ar gyfer pan fyddwch chi'n dod o hyd i'r hen dafelli o fara sydd ar ôl ar ddiwedd y dorth.

Ramecinau bach o bwdin bara menyn meddal gyda mwyar ar ei ben

Trît melys cynnes a ffordd wych o ddefnyddio bara gwyn wedi'i sleisio sydd ychydig yn hen.

Pwdin bara menyn wedi’i bobi gyda llenwad siocled trwchus

Mae cig oen crimp wedi'i goginio gyda sbeisys o’r cwpwrdd yn gyfuniad gwych ac yn ffordd flasus o ddefnyddio unrhyw friwgig cig oen i greu swper cyflym a hawdd.

Bara fflat crimp gyda thopin briwgig oen, tomatos wedi’u torri a chaws