Skip page header and navigation

Tomatos

Rhewi? Yes
Tymor Mehefin – Hydref
Storio Yn yr oergell
Ffynhonnell wych o fitamin C
Several tomotoes on the vine

Bwyd poblogaidd ac amryddawn sy’n serennu mewn prydau bwyd o bob math, o brydau swmpus, cynhesol, i ginio ysgafn, ac fel byrbryd iach. Mae nifer o fathau gwahanol o domatos, yn cynnwys tomatos bach, tomatos ar y coesyn, a thomatos mawr.  Maen nhw’n llawn maetholion hefyd, fel fitamin C a beta-caroten.

Sut i'w storio

Sut i storio tomatos ffres

Storiwch eich tomatos yn yr oergell i’w cadw’n fwy ffres yn hirach. I gael y blas gorau, tynnwch nhw allan o’r oergell hyd at 24 awr cyn eu bwyta.

Rhewi tomatos

Gellir rhewi tomatos ffres ac wedi’u coginio am hyd at 6 mis.

Storio tomatos wedi’u coginio

Yn yr oergell am 2 ddiwrnod, yn y rhewgell am 3 mis.

Tomatos – tips gwych

Sut i'w rewi a dadrewi

I’w rhewi: Gellir rhewi tomatos bach yn gyfan a’u defnyddio’n syth o’r rhewgell. Rhowch gynnig ar wneud saws gydag unrhyw domatos meddal a’u rhewi ar gyfer eu defnyddio mewn seigiau pasta neu gaserol ar ddiwrnod arall.

I’w dadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd/diod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Defnyddiwch domatos bach yn syth o’r rhewgell wrth goginio. Dylid dadrewi saws tomato cartref yn gyfan gwbl yn yr oergell a’i ddefnyddio o fewn 24 awr. Neu, gallwch ddefnyddio’r microdon ar y modd dadrewi yn syth cyn ei ddefnyddio. 

 

Bwyta’r bwyd cyfan

Mae gan goesynnau tomatos flas cryf iawn fel ‘tomatos mewn tŷ gwydr’ – ychwanegwch nhw i’ch saws tomato wrth goginio.

Bod yn wych gyda bwyd dros ben

Gwnewch saws (neu getshyp) gyda thomatos dros ben sydd wedi mynd yn feddal. Neu gallwch eu deisio i wneud salsa gyda winwnsyn coch a pherlysiau dros ben. Cymysgwch gyda hen fara sych i wneud salad blasus (panzanella). Gallwch ffrio pupur coch neu oren sydd gennych dros ben gyda winwnsyn, garlleg, llwythi o domatos a’u blendio i wneud cawl.

 

Tips ar gyfer ei brynu

Ystyriwch brynu tomatos rhydd, i’ch helpu i brynu dim ond yr hyn a ddefnyddiwch. Bydd hyn yn sicrhau bod mwy o’ch bwyd yn debygol o gael ei fwyta a’i achub rhag mynd i’r bin.

Dognau delfrydol 

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.

Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Tomatos

Daioni mewn bwyd

Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.

  • Ffynhonnell dda o fitamin C sy’n helpu i gadw eich croen yn iach.
  • Mae’n ffynhonnell o botasiwm, mwn sy’n helpu cyhyr y galon weithio’n iawn.
  • Mae dogn o domatos yn cyfrif tuag at eich 5 y dydd.

     

Stori bwyd

Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.  

Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!  

Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Tomatos

Mae'r pryd llysieuol blasus hwn yn un gwych i'w gael wrth law yn y rhewgell ac mae'n ddewis llysieuol da ar gyfer prif bryd o fwyd y Nadolig.

Powlen fawr ddu o mousaka llysiau gyda llwy weini

Gall y saws amlbwrpas hwn ddefnyddio llu o gynhwysion a gellir ei baru â phasta neu wy – dau bryd mewn un!

a pasta topped with a light tomato sauce and sliced courgettes

Mae'r rysáit hon yn defnyddio'r holl jariau o pesto sydd wedi hanner eu bwyta a dresin o'r oergell a'r cypyrddau. Fel gyda'r holl ryseitiau hyn gellir eu chwarae â nhw, eu newid a'u mireinio yn dibynnu ar y cynhwysion sydd gennych wrth law.

Pysgodyn gwyn wedi’i grilio gyda chymysgedd o lysiau mân wedi’u coginio