Skip page header and navigation

Perlysiau

Rhewi? Yes
Tymor O ddiwedd yr haf hyd dechrau’r hydref
Storio Yn ffres yn yr oergell, rhai sych yn y cwpwrdd
Maent yn cynnwys fitaminau a mwnau
casgliad o berlysiau ffres yn cynnwys mintys, saets a rhosmari

Mae perlysiau’n fwyd gwych i’w gael yn eich cartref. Gallwch eu defnyddio mewn pob math o ffyrdd, fel ychwanegu blas wrth goginio, wedi’u mwydo mewn te, ac wedi’u hychwanegu at salad, neu mewn diodydd oer a choctels. Gallwch brynu perlysiau’n ffres, yn sych, neu wedi rhewi. Mae amrywiaeth eang o berlysiau ar gael yn ein siopau ac maen nhw’n hawdd eu tyfu gartref hefyd. 

Sut i'w storio

Sut i storio perlysiau ffres neu sych

Cadwch berlysiau ffres yn eu pecyn gwreiddiol yn yr oergell. Ar gyfer perlysiau ‘byw/mewn pot’, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y pecyn neu ystyriwch eu hail-blannu mewn potyn newydd. Dylid cadw perlysiau sych yn y cwpwrdd.

Rhewi perlysiau

Gellir rhewi perlysiau am hyd at 6 mis.

Perlysiau – tips gwych

Sut i'w rewi a dadrewi

I’w rhewi: mae’n werth rhewi perlysiau’r ydych yn eu defnyddio’n rheolaidd, fel mintys, persli, cennin syfi, a tharagon. Dylech eu golchi a’u sychu cyn eu rhewi’n gyfan mewn bagiau rhewgell, neu gallwch eu torri a’u rhoi mewn clawr ciwbiau rhew wedi’u gorchuddio â dŵr.

I’w dadrewi: Gellir eu coginio’n syth o’r rhewgell mewn caserolau, stiwiau a sawsiau. Neu, os byddwch yn eu hychwanegu at salad, rhowch nhw i ddadmer yn yr oergell dros nos.

 

Bwyta’r bwyd cyfan

Mae’r coesynnau’r un mor flasus â’r rhannau deiliog o bersli, coriander, basil a mintys. Gallwch eu torri a’u rhoi mewn dipiau a sawsiau, eu blendio mewn pesto, neu eu taenu ar brydau bwyd sawrus. 

Bod yn wych gyda bwyd dros ben

Cymysgwch arlleg wedi’i fathru a pherlysiau dros ben gyda menyn i wneud bara garlleg cartref (gallwch ddefnyddio unrhyw fath o fara) neu gallwch frwsio’r menyn hwn ar gig neu bysgod. Gallwch rewi perlysiau heb eu defnyddio mewn olew olewydd i’w defnyddio fesul tipyn rywdro eto – defnyddiwch glawr ciwbiau rhew i rewi ciwbiau, a gallwch eu rhoi’n syth yn y badell neu’r sosban pan fyddwch chi’n coginio.

 

Tips ar gyfer ei brynu

Ystyriwch gyfnewid berlysiau ffres am rai wedi’u rhewi. Mae bwydydd wedi’u rhewi’n para am amser hir yn y rhewgell, gallwch ddefnyddio cymaint ag y mae ei angen arnoch, ac yn aml gallant fod yn opsiwn rhatach. Neu gallech ystyried defnyddio perlysiau sych, pan fo’n briodol.

Dognau delfrydol 

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.

Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Perlysiau

Daioni mewn bwyd

Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.

  • Mae rhai perlysiau, fel coriander, teim, persli yn llawn fitamin C sy’n helpu i amddiffyn celloedd a’u cadw’n iach.

Stori bwyd

Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.  

Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!  

Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Perlysiau

Brecinio diwastraff blasus, sy’n defnyddio’r daten, pannas, brocoli, shibwns a pherlysiau yn gyfan (coesynnau, crwyn a’r cwbl). Neu gallwch eu cyfnewid am unrhyw lysiau dros ben sydd gennych yn y tŷ!

crispy hash browns circling a dipping sauce

Briwsion bara Eidalaidd, gyda blas perlysiau, garlleg a chroen lemwn. Defnyddiwch yn hael i ychwanegu ychydig o raen a blas i unrhyw beth o basta, cawl, risoto a salad. Ysgeintiwch yn hael ar ben eich pryd.

wholewheat pasta topped with a light covering of mince and green garnish