Skip page header and navigation

Pasta

Rhewi? Yes
Tymor Amherthnasol
Storio Sych – yn y cwpwrdd, ffres – yn yr oergell
Mae pasta gwenith cyflawn yn cynnwys 50% yn fwy o ffibr na phasta gwyn
Pentwr bach o basta penne sych

Mae pasta sych yn fwyd poblogaidd i’w gadw yn y cwpwrdd yn barod ar gyfer prydau cyflym, hawdd pan fo amser yn brin, ac mae’n fwyd gwych i’w ddefnyddio mewn pryd o fwyd ar gyfer defnyddio llysiau dros ben. Mae wedi’i wneud o wenith caled a gallwch ei brynu ym mhob lliw a llun. Mae wedi’i wneud o wenith caled a gallwch ei brynu ym mhob lliw a llun. Gallwch wneud pasta ffres gartref ac fe gaiff hyn ei wneud gan ddefnyddio blawd, dŵr ac wyau.

Sut i'w storio

Sut i storio pasta ffres a phasta sych

Storiwch eich pasta ffres yn ei becyn gwreiddiol, wedi’i selio â chlip, neu mewn cynhwysydd aerglos mewn lle oer a sych. Dylid storio pasta ffres yn yr oergell. Dilynwch y canllawiau ar y pecyn bob amser.

Rhewi pasta

Gellir rhewi pasta ffres a phasta wedi’i goginio am hyd at bedair wythnos.

Storio pasta wedi’i goginio

Storio mewn cynhwysydd aerglos yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod.

Pasta – tips gwych

Sut i'w rewi a dadrewi

I’w rewi: Wedi coginio gormod o basta? Rhowch rinsiad iddo mewn dŵr oer a’i rewi fesul dogn unigol. 

I’w ddadrewi: pan fyddwch yn tynnu bwyd / diod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’i ddadrewi ar dymheredd yr ystafell. Defnyddiwch ficrodon ar y modd ‘dadmer’ yn syth cyn ei ailgynhesu, neu rhowch y dognau pasta yn syth mewn dŵr berw.

Bod yn wych gyda bwyd dros ben

Pasta dros ben – wedi’i goginio

Beth am ddefnyddio pasta dros ben i wneud pwdin blasus? Rhowch basta wedi’i goginio mewn dysgl bobi wedi’i iro, curo dau wy yn dda, ychwanegu hufen dwbl a jam mefus, a’i arllwys yn gyfartal ar ben y pasta a’i bobi ar 180 gradd am 40 munud. Gallwch ei weini gyda hufen iâ neu hufen chwip os oes gennych beth dros ben. 

 

 

Tips ar gyfer ei brynu

Pan fyddwch yn prynu pasta ffres, prynwch becyn o’r maint iawn i’ch anghenion. Ystyriwch a fyddwch chi’n defnyddio’r pecyn cyfan cyn y dyddiad defnyddio erbyn a pha mor hir sydd gennych i ddefnyddio’r bwyd unwaith bydd y pecyn wedi’i agor. Os nad ydych am fwyta’r cwbl mewn da bryd, gallwch rewi peth at rywdro eto. 

Dognau delfrydol 

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.

Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Pasta

Daioni mewn bwyd

Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.

  • Mae pasta gwenith cyflawn yn cynnwys ffibr, sy’n helpu gyda threuliad. 
  • Mae pasta’n ffynhonnell o garbohydrad; mae ei angen ar y corff i greu egni.

     

Stori bwyd

Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.  

Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!  

Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Pasta

Dyma rysáit sylfaenol defnyddiol y bydd y plant yn dwli arni ac nid yw'n cymryd amser i goginio. Fe allech chi ei gwneud yn fwy o swp gyda mwy o lysiau fel moron, ffa pob, brocoli, ffa gwyrdd wedi'u torri neu bys.

a pasta dish covered in spicy red pepper and crumbled pork sausage meat sauce

Mae'r pryd pasta tiwna hwn yn wych ar gyfer amser swper ac mae'n defnyddio pasta sych, tiwna tun a thomatos wedi'u torri.

a bowl of golden pasta mixed with tuna flakes and topped with a herb garnish