Skip page header and navigation

Cig oen

Rhewi? Yes
Tymor Amherthnasol
Storio Gwaelod yr oergell
Ffynhonnell protein
Dau olwyth cig oen amrwd gyda darn o berlysieuyn arnynt

Mae ‘cig oen’ yn cyfeirio at gig dafad sy’n iau na blwydd oed. Math o gig coch ydyw ac mae’n ddewis poblogaidd ar gyfer cinio Sul rhost a gellir ei goginio yn y gril, ei frwysio, a’i goginio ar y barbeciw. Mae cig oen yn ffynhonnell o brotein ac mae’n cynnwys fitamin B12.

Sut i'w storio

Sut i storio cig oen amrwd

Dylid storio’ch holl gig amrwd ar waelod yr oergell mewn cynhwysydd glan, aerdyn i’w atal rhag cyffwrdd pethau eraill neu ddiferu arnynt.

Rhewi cig oen

Gellir rhewi cig oen amrwd ac wedi’i goginio am 3 – 6 mis (gwiriwch y deunydd pacio am unrhyw fanylion penodol). Gallwch roi cig oen i’w rewi tan ei ddyddiad defnyddio erbyn.

Storio cig oen wedi’i goginio

Storio mewn cynhwysydd aerdyn yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod, a’r rhewgell am 3 – 6 mis.

Cig oen – tips gwych

Sut i'w rewi a dadrewi

I’w rewi: Gellir rhewi cig oen amrwd neu wedi’i goginio mewn bag neu gynhwysydd aerdyn. Gallwch hefyd rewi cig a gafodd ei rewi o’r blaen os ydych wedi’i goginio wedyn.

I’w dadrewi: pan fyddwch yn tynnu bwyd / diod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’i ddadrewi ar dymheredd yr ystafell. Yn ddelfrydol, dylid ei ddadrewi’n gyfan gwbl yn yr oergell a’i ddefnyddio o fewn 24 awr. Neu, gallwch ddefnyddio’r microdon ar y modd dadrewi yn syth cyn ei goginio/aildwymo. 

Ewch i fwrw golwg ar ein canllaw Sut alla i ar rewi a dadrewi cig.

Bwyta’r bwyd cyfan

Defnyddiwch neu rewch esgyrn a charcas y cig ar ôl ei rostio i wneud stoc. 

Bod yn wych gyda bwyd dros ben

Cig oen dros ben – ffres 

Gellir coginio, bwyta neu rewi cig oen reit hyd at y diwrnod defnyddio erbyn. Ar ôl y diwrnod defnyddio erbyn, mae’n anniogel ei fwyta, hyd yn oed os yw wedi cael ei storio’n gywir ac aroglau  iawn arno. Unwaith mae cig oen amrwd wedi’i ddadrewi, dylid ei goginio o fewn 24 awr. Ar ôl ei goginio, bydd yn para cwpl o ddyddiau yn yr oergell, neu gellir ei rewi drachefn. Dylid ei ddadrewi a’i fwyta o fewn 24 awr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r cyfarwyddiadau ar y pecyn ar ôl ei brynu.

Torrwch unrhyw gig oen amrwd sydd dros ben yn stribedi a’i daro mewn saig tro-ffrio.

Cig oen dros ben – wedi’i goginio

Gellir ychwanegu unrhyw gig wedi’i goginio at salad, brechdan, neu fara tortila i’w gael i ginio’r diwrnod wedyn.

Tips ar gyfer ei brynu

Prynwch becyn o’r maint iawn ar gyfer eich anghenion. Meddyliwch a fyddwch chi’n defnyddio’r pecyn cyfan cyn y dyddiad defnyddio erbyn a pha mor hir sydd gennych i ddefnyddio’r cig oen unwaith bydd y pecyn wedi’i agor. Os nad ydych am fwyta’r holl ddognau yn y pecyn mewn pryd, rhewch beth at rywdro eto. Ystyriwch gyfnewid gig oen ffres am gig oen wedi’i rewi. Mae bwydydd wedi’u rhewi’n para am amser hir yn y rhewgell, gallwch ddefnyddio cymaint ag y mae ei angen arnoch, ac yn aml gallant fod yn opsiwn rhatach.

Dognau delfrydol 

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.

Rhoi gwerth ar fwy na phris eich Cig oen

Daioni mewn bwyd

Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.

  • Ffynhonnell protein y mae ei angen ar y corff i dyfu a thrwsio cyhyrau ac esgyrn.
  • Ffynhonnell dda o fitamin B12 sy’n helpu’r corff wneud celloedd gwaed coch a chadw’r system nerfau’n iach. 
  • Mae cig oen yn uchel mewn braster dirlawn, a gall hwn gynyddu’r colesterol yn y gwaed. Gallai hyn godi eich risg o ddatblygu afiechyd y galon.

     

Stori bwyd

Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.  

Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!  

Beth am roi cynnig ar y rysetiau blasus hyn i ddefnyddio Cig oen

Gellir gwneud y cyri blasus hwn gan ddefnyddio ciwbiau o gig oen dros ben o'ch cinio dydd Sul.

Powlen fach o rogan josh cig oen gyda garnais gwyrdd deiliog ar ei ben

Yn llawn gweadedd a blasau cyferbyniol, dyma un o'r ryseitiau hynny y bydd y teulu cyfan yn dwli arno – mae'n gweithio'n dda iawn gyda chyw iâr wedi'i goginio hefyd.

Powlen o biryani cig oen ar fwrdd yn barod i’w fwyta

Mae cig oen crimp wedi'i goginio gyda sbeisys o’r cwpwrdd yn gyfuniad gwych ac yn ffordd flasus o ddefnyddio unrhyw friwgig cig oen i greu swper cyflym a hawdd.

Bara fflat crimp gyda thopin briwgig oen, tomatos wedi’u torri a chaws