Gellir addasu'r rysáit hon i weddu i'r hyn sydd gennych yn yr oergell. Bydd cig eidion wedi’i stiwio yn gweithio cystal â chig eidion wedi'u deisio, torrwch ef eich hun ymlaen llaw.

Mae cig eidion yn ddewis poblogaidd iawn i’w fwyta gartref ac mae ar gael ar amryw ffurf. Gellir coginio darnau gwahanol o gig eidion mewn amrywiaeth o ffyrdd o ginio dydd Sul rhost i stiw neu farbeciw. Mae’n llawn protein ac yn cyflenwi fitaminau a mwnau sy’n ein cadw’n iach.
Dylid storio’ch holl gig amrwd ar waelod yr oergell mewn cynhwysydd glan, aerglos.
Gallwch rewi cig eidion yn amrwd neu wedi’i goginio. Mae’n well defnyddio bwyd o’r rhewgell o fewn 3 – 6 mis.
Storio mewn cynhwysydd aerdyn yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod, a’r rhewgell am 3 – 6 mis.
I’w rewi: Gellir rhewi cig eidion amrwd neu wedi’i goginio mewn bag neu gynhwysydd aerglos. Gallwch hefyd rewi cig a gafodd ei rewi o’r blaen os ydych wedi’i goginio wedyn.
I’w dadrewi: Pan fyddwch yn tynnu bwyd/diod o’r rhewgell, mae’n bwysig ei ddadrewi yn ddiogel. Peidiwch â’i ddadrewi ar dymheredd ystafell. Yn ddelfrydol, dylech eu dadrewi’n gyfan gwbl yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr. Neu, gallwch ddefnyddio’r microdon ar y modd dadrewi yn syth cyn ei goginio/aildwymo.
Ewch i fwrw golwg ar ein Canllaw Sut alla i ar rewi a dadrewi cig.
Defnyddiwch neu rhewch esgyrn a charcas y cig ar ôl ei rostio i wneud stoc. Defnyddiwch suddion y cig rhost i wneud grefi blasus.
Torrwch unrhyw stêcs amrwd sydd dros ben yn stribedi a’u taro mewn saig tro-ffrio.
Gellir ychwanegu unrhyw gig wedi’i goginio at salad, brechdan, neu fara tortila i’w gael i ginio’r diwrnod wedyn.
Prynwch becyn o’r maint iawn ar gyfer eich anghenion. Ystyriwch a fyddwch chi’n defnyddio’r pecyn cyfan cyn y dyddiad defnyddio erbyn a pha mor hir sydd gennych i ddefnyddio’r cig eidion unwaith bydd y pecyn wedi’i agor. Os nad ydych am fwyta’r pecyn cyfan mewn da bryd, gallwch rewi peth at rywdro eto. Ystyriwch brynu cig eidion wedi’i rewi yn lle cig eidion ffres.
Mae bwydydd wedi’u rhewi’n para am amser hir yn y rhewgell, gallwch ddefnyddio cymaint ag y mae ei angen arnoch, ac yn aml gallant fod yn opsiwn rhatach.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o’r bwyd hwn i’w weini fesul pryd bwyd.
Mae eich bwyd yn fwy na’i siâp, ei liw, a’i bris. Mae gan eich bwyd ran bwysig i’w chwarae wrth eich cadw’n iach a rhoi digon o egni ichi fyw eich bywyd fel y dymunwch.
Erbyn i’ch bwyd gyrraedd eich cartref, mae wedi bod ar gryn dipyn o siwrne’n barod, yn decrhau gyda chael ei wneud neu ei dyfu, a’i daith i’r archfarchnad wedyn.
Felly, da chi, helpwch ein bwyd i gyrraedd diwedd ei stori yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl, gan sicrhau bod adnoddau ein planed sydd eisoes wedi cael eu defnyddio’n cael eu defnyddio’n ddoeth. Gofalwch am eich bwyd pan fo yn eich cartref, gan sicrhau bod pob tamaid bwytadwy’n cael ei fwyta - ac nad yw’ch bwyd yn mynd i’r bin!
Gellir addasu'r rysáit hon i weddu i'r hyn sydd gennych yn yr oergell. Bydd cig eidion wedi’i stiwio yn gweithio cystal â chig eidion wedi'u deisio, torrwch ef eich hun ymlaen llaw.
Mae'r maro hwn wedi'i stwffio â briwgig yn hawdd ac yn flasus. Gallwch ddefnyddio eich hoff rysáit briwgig fel bolognese neu tsili (neu opsiynau llysieuol) i stwffio maro, felly arbrofwch.