Skip page header and navigation

Un o’r pethau pennaf sy’n helpu i gadw bwyd ar ei orau cyhyd â phosib yw gwybod ble i’w storio. Efallai y byddwch yn synnu wrth ddarganfod rhai o’r lleoedd gorau i gadw’r bwydydd blasus hyn yn eich cegin!

1. Afalau    

Mae’n debyg bod gennych bowlen ffrwythau’n llawn afalau, ac felly buoch chi’n gwneud erioed. Ond, ac efallai bydd hyn yn peri syndod ichi, y lle gorau i gadw afalau yw’r oergell! Mae hyn yn eu cadw’n fwy ffres yn hirach, felly bydd gennych fwy o amser i’w defnyddio na phe byddech yn eu gadael allan mewn powlen ffrwythau, a gallwch eu tynnu o’r oergell i’w cael i dymheredd ystafell cyn eu bwyta os nad ydych yn mwynhau eu bwyta’n oer. Os ydych chi’n poeni bod storio eich afalau yn yr oergell yn golygu na fydd mor hawdd i’r plantos gydio mewn byrbryd iach, gallech gadw cwpl o afalau ar y tro yn y bowlen ffrwythau, a’r gweddill yn yr oergell.

Mae’r dywediad fod ‘un afal drwg yn sbwylio’r gweddill’ yn wir, felly cadwch lygad ar yr afalau a gwahanu unrhyw ffrwythau sy’n aeddfedu’n gynt na’r gweddill. Mae afalau’n rhewi’n dda, hefyd.

2. Bara

Mae rhai pobl yn credu y dylid storio bara yn yr oergell i wneud iddo gadw’n hirach, ond mewn gwirionedd, bydd hynny’n gwneud iddo fynd yn hen yn gynt! Cadwch eich bara mewn lle oer, sych – fel bin bara neu gwpwrdd – ac ar ôl ei agor, ail-glymwch ben y bag, neu blygu’r bag o dan y dorth i’w chadw’n ffres. Cofiwch lanhau eich bin bara neu gwpwrdd yn rheolaidd i wneud yn siŵr nad oes sborau llwydni’n llechu yno.

Wrth gwrs, gallwch storio bara wedi’i sleisio yn y rhewgell a thynnu tafell neu ddwy allan ar y tro pan fydd awydd darn o dost arnoch. Gallwch ei dostio’n syth o’r rhewgell! 

3. Ffrwythau sitrws

Mae’r rhain yn debyg i afalau: er bod gan lawer ohonom bowlenni ffrwythau’n llawn dop o’r rhain, yr oergell yw’r lle gorau i storio ffrwythau sitrws mewn gwirionedd, yn cynnwys orennau, lemonau, leimiau a grawnffrwyth. Storiwch nhw yn yr oergell, a’u tynnu allan i’w cael i dymheredd ystafell pan fyddwch yn barod i’w defnyddio.

4. Wyau

Er bod temtasiwn i storio wyau mewn basged weiren ddel neu yn eu bocs ar y cownter yn y gegin, y lle gorau i’w storio yw yn yr oergell. Cadwch nhw yn eu bocs i’w cadw’n ddiogel. (Gallwch rewi wyau, hefyd!)

5. Garlleg

Mae garlleg yn un bach od. Mae Good Housekeeping yn dweud bod garlleg yn cadw hiraf ar dymheredd o 15°C mewn awyrgylch gyda lleithder canolig, felly er mai ei gadw mewn lle oer, sych yw’r peth gorau i’w wneud, efallai na fydd eich garlleg yn cadw cystal os yw’r aer yn rhy sych. Mae’r oergell yn cadw rheolaeth ar y lefelau lleithder – a chofiwch y gallwch ei fwyta hyd yn oed os yw wedi dechrau egino!

6. Grawnwin

Ffefryn arall o’r bowlen ffrwythau! Bydd grawnwin yn cadw’n fwy ffres am gyfnod hirach os cânt eu storio yn yr oergell. Gallwch eu defnyddio mewn smwddis hyd yn oed os ydyn nhw wedi dechrau crebachu, a gellir eu rhewi i’w defnyddio fel ciwbiau rhew neu i’w blendio yn eich peiriant smwddis.

Sylwer: ni ddylid rhoi grawnwin wedi rhewi i blant, oherwydd y perygl o dagu.

7. Winwns

Gydag eithriad shibwns (dylid cadw’r rhain yn yr oergell), mae pob math o winwns yn cadw’n well mewn lle oer, sych a thywyll – ac os gallwch eu rhoi mewn bag brethyn, gorau oll.

8. Tomatos

Bydd storio tomatos yn yr oergell yn eu cadw’n fwy ffres yn hirach! Tynnwch nhw allan er mwyn iddynt gael cyrraedd tymheredd ystafell cyn eu bwyta os yw’n well gennych beidio bwyta tomatos yn oer – yn ôl rhai, mae hyn yn gwella’r blas hefyd.

9. Bananas

Yn olaf, bananas yw un o’r unig ffrwythau y dylech eu cadw yn y bowlen ffrwythau yn hytrach na’r oergell (a’r eithriad arall, yn annisgwyl efallai, yw pinafalau cyfan). Fe aiff bananas yn ddu os cânt eu rhoi yn yr oergell, felly cadwch nhw yn rhywle oer neis, fel mewn cwpwrdd neu ar y cownter.

Am lawer mwy o gyngor ar ba fwydydd i’w storio ymhle, ewch i fwrw golwg ar eich hoff fwydydd drwy chwilio bwydydd a rysetiau.

Rhannu’r post blog hwn