Skip page header and navigation

Canllawiau arbed bwyd Sut alla i?

Sut alla i…?

Canllawiau bob dydd ar gyfer manteisio i’r eithaf ar eich bwyd gartref

young person shopping in fresh food ailse in supermarket

Cael mwy o werth o’ch bwyd

Syniadau syml a hawdd i’ch arwain trwy’r ffyrdd gorau o drin eich bwyd gartref, o gadw eich siopa dan reolaeth, i gadw’ch bwyd yn fwy ffres am gyfnod hirach a choginio prydau blasus i ddefnyddio’ch holl fwyd.

Porwch y canllawiau ac archwilio sut gallwch arbed arian ac amser drwy wneud newidiadau i’ch bywyd bob dydd gyda’ch bwyd. Gallwch ddileu’r trafferthion a’r ffwdan sy’n ymwneud â’ch bwyd a dechrau creu mwy o amser i fwynhau eich bwyd unwaith eto.

Gallwch wneud bywyd yn haws mewn ffyrdd syml a meithrin eich arbenigedd bwyd dros gyfnod o amser, drwy ddod o hyd i un peth i roi cynnig arno heddiw a dal ati nes bydd yn rhan o’ch arferion o ddydd i ddydd. Yna, ewch ati i roi cynnig ar rywbeth arall. 

 

Byddwch yn rhan o’r chwyldro arbed bwyd

Ymunwch â’n cymunedau cymdeithasol - Facebook - Instagram - a rhannu eich syniadau, ynghyd â’r pethau’r ydych yn cael trafferth gyda nhw. Mae pawb yn wahanol a gallai eich tips gwych chi fod yr ateb mae rhywun arall yn chwilio amdano! Byddwn yn adolygu pynciau’r ydych yn cael anhawster â nhw ac yn diweddaru’r adran hon pan bynnag fo’n bosibl.

Ffyrdd syml i wneud eich bywyd yn haws o ran bwyd

Bwyd ffres wedi’i storio yn yr oergell

Rydym wedi creu’r canllawiau hyn yn seiliedig ar bethau’r ydych wedi dweud wrthym yr hoffech ddysgu mwy amdanynt.

Storio eich bwyd fel ei fod yn cadw’n ffres yn hirach

Bydd y canllawiau hyn yn rhoi syniadau hawdd ichi roi cynnig arnynt a fydd yn cadw eich bwyd yn fwy ffres yn hirach. Bydd sicrhau bod eich bwyd yn cael ei gadw yn y lle iawn a manteisio i’r eithaf ar eich rhewgell yn rhoi mwy o amser ichi ddefnyddio a bwyta’r bwyd, gan ei arbed rhag mynd i’r bin. Byddwn yn ychwanegu at yr adran hon yn fuan, yn seiliedig ar y pynciau’r ydych chi wedi dweud yr hoffech ddysgu mwy amdanynt.

Cadw rheolaeth ar eich siopa bwyd

Fe wnaethoch chi ddweud wrthym beth sy’n peri anhawster i chi ynghylch eich siopa bwyd, ac fe wnaethom wrando! Ewch i fwrw golwg ar ein canllaw a dysgu ffyrdd syml o gadw rheolaeth ar eich siopa bwyd. Drwy ddilyn y tips syml hyn, byddwch yn ei chael yn haws cadw at eich cyllideb bwyd a phrynu dim ond yr hyn y gwyddoch y byddwch yn ei fwyta.

Cynllunio er mwyn aros ar y blaen 

Rydym ni oll yn brysur iawn, sy’n golygu bod amser i wneud y pethau bychain hynny a allai wneud gwahaniaeth mawr yn brin. Drwy ychwanegu ychydig bach o amser cynllunio bob wythnos, bydd yn haws ichi gadw trefn ar eich bwyd, gan y byddwch yn gwybod beth sydd ei angen arnoch a pha bryd y byddwch yn ei fwyta. Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i gynllunio eich bwyd gartref mewn ffordd sy’n gweithio orau i chi a’ch bywyd gartref.  

Meithrin doethineb bwyd  

Os hoffech chi gael mwy o werth o’r bwyd a brynwch, yna ewch i fwrw golwg ar y canllawiau hyn. Byddwn yn rhannu ffyrdd o fod yn ddoethach gyda’ch bwyd, o ddysgu defnyddio mwy o’r darnau bwytadwy o’ch eitemau bwyd fel dail allanol eich blodfresych, i syniadau gwych ar gyfer bod yn greadigol i’ch helpu i ddefnyddio’r holl fwyd yn eich cartref. Byddwn hefyd yn rhannu ffyrdd syml o ddechrau neu barhau ar eich siwrne i fod yn fwy caredig â’r blaned gyda’ch arferion bwyd.

Your How do I? guides

Your How do I? guides